Gwobr Cronfa J D R a Gwyneth Thomas i ‘Rhodocop’

07 Mawrth 2018

Ymchwilydd o Brifysgol Aberystwyth sydd yn astudio ffyrdd o reoli rhododendron yw’r cyntaf i dderbyn ysgoloriaeth ym maes gwyddoniaeth a’r economi wledig.

Dyfarnwyd gwobr Cronfa J D R a Gwyneth Thomas i Gruffydd Lloyd Jones, myfyriwr doethuriaeth ym maes Ecoleg yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).

Sefydlwyd Cronfa J D R a Gwyneth Thomas gan Athro Cemeg o Brifysgol Caerdydd, J D R Thomas, a'i ddiweddar wraig Gwyneth, er cof am dad Yr Athro Thomas, John Thomas a astudiodd Amaethyddiaeth yn Aberystwyth.

Mae'r gronfa yn cynnig gwobr o £500 dros flwyddyn academaidd i gefnogi myfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth sy'n astudio gwyddoniaeth a’r economi wledig.

Dywedodd Gruffydd, sydd yn wreiddiol o Bwllheli: “Mae ennill Cronfa J D R a Gwyneth Thomas yn anrhydedd fawr i mi. Mi fydd yr arian yma yn werthfawr nid yn unig wrth fy nghefnogi i barhau â'm hastudiaethau, ond hefyd er mwyn cefnogi ymchwil hanfodol i ddiogelu bioamrywiaeth Cymru.”

Nod prosiect ymchwil Gruffydd yw canfod ffyrdd o reoli lledaeniad planhigion rhododendron yng Nghymru, a fe’i hadnabyddir fel ‘Rhodocop’ yn lleol.

Mae bioamrywiaeth Cymru dan fygythiad gan yr ymosodwr estron hwn yn ôl Gruffydd sy'n angerddol am ei ymchwil.

“Rwyf o gefndir amaethyddol, ac mae gen i brofiad uniongyrchol o effeithiau tyfiant afreolus rhododendron ar ddefnydd tir ac ar iechyd da byw.”

Nod ymchwil Gruffydd yw arafu tyfiant a’r modd y mae rhododendron yn lledaenu drwy wneud y pridd yn ddi-groeso i hadau newydd egino ac ymsefydlu.

Dywedodd y darlithydd Amaethyddiaeth yn IBERS a beirniad y wobr, Dr Iwan Gittins Owen: "Mae Cronfa J D R a Gwyneth Thomas yn cynnig cyfle unigryw a gwerthfawr i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith wneud cais am gymorth ychwanegol i barhau â'u hastudiaethau ôl-raddedig ac ymchwil mewn gwyddoniaeth a’r economi wledig.

“Roedd safon y ceisiadau yn uchel iawn, ac yn dystiolaeth o'r cyfoeth o dalent wyddonol ac academaidd sydd gennym yma ym Mhrifysgol Aberystwyth”, ychwanegodd.

Wrth sôn am ymchwil Gruffydd, dywedodd Dr Owen: “Mae hwn yn faes astudio sy'n tyfu ac a fydd elwa o dderbyn cymorth ychwanegol gan y Gronfa.”

Dywedodd Dylan Eurig Jones o dîm Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth: "Rydym yn ddiolchgar iawn i J D R Thomas am ei gefnogaeth barhaus i'n myfyrwyr a'r Brifysgol.”

“Mae ei ddyngarwch yn ysbrydoli, nid yn unig o ran ei uchelgais i wneud gwahaniaeth i'r myfyrwyr a'r adrannau, ond hefyd yn ei ddymuniad gwreiddiol a’i haelioni â’i ddiweddar wraig Gwyneth, i sefydlu'r gronfa i anrhydeddu eu cysylltiad teuluol dwfn ag Aber.”

“Fel prifysgol a sefydlwyd ar gefnogaeth ddyngarol dros 145 mlynedd yn ôl, braint unigryw i Aberystwyth yw mwynhau cefnogaeth barhaus ein cyn-fyfyrwyr a'n ffrindiau o bob cwr o'r byd, ac rydym yn edrych ymlaen at rannu effaith a’r hyn a gyflawnir yn sgìl y wobr hon gyda J D R Thomas a'n holl gefnogwyr.”