Gwyddonydd môr o Aberystwyth yn ymuno â thaith i’r Arctig

Dr David Wilcockson

Dr David Wilcockson

14 Mehefin 2018

Mae biolegydd môr o Brifysgol Aberystwyth yn ymuno ag astudiaeth ryngwladol i effaith newid yn yr hinsawdd ar ecosystem Cefnfor yr Arctig sy’n codi hwyl yr wythnos hon.

Mae Dr David Wilcockson o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn hwylio i Fôr Barents ar fwrdd yr RSS James Clark Ross fel rhan o raglen ymchwil £16m Changing Arctic Ocean, sy’n cael ei hariannu gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC).

Yn ystod y fordaith mis bydd Dr Wilcockson yn gweithio gyda gwyddonwyr o sefydliadau ar draws y DU, Norwy a’r Almaen ac yn edrych ar effeithiau cynhesu Cefnfor yr Arctig, o’i wyneb i’w wely, fel rhan o brosiect Arctic PRIZE.

Mae Dr Wilcockson yn ymuno gyda’r daith fel arbenigwr ar ymddygiad rhyddmig anifeiliaid morol. Bydd yn canolbwyntio ar blancton, anifeiliaid morol bychan iawn sydd yn sail i gadwyn fwyd y cefnforoedd.

Bydd Dr Wilcockson yn eu dal mewn rhwydi arbennig ac yna’n astudio eu patrwm mudo dyddiol, pryd maent yn brysur ac yn segur, a sut maent yn ymateb i newidiadau i’r golau a’r tymheredd.

Bydd ei ganfyddiadau yn cael eu hychwanegu at fodelau gwyddonol sydd yn cael eu datblygu er mwyn rhagweld sut y mae ecoleg Cefnfor yr Arctig yn debygol o newid.

Dywedodd Dr Wilcockson: “Rydym yn gwybod bod cynhesu’r cefnforoedd yn achosi i’r iâ grebachu a bod hyn yn effeithio ar nodweddion ffisegol a chemegol y dŵr, a bod hyn yn debygol o effeithio ar yr ecoleg. Bydd deall sut mae’r plancton yn debygol o ymateb i’r newidiadau hyn yn rhoi syniad i ni o sut y gall hyn effeithio ar anifeiliaid mwy sydd yn bwydo arnynt, yn bysgod, morloi neu forfilod.”

Y cefnforoedd yn cynhesu
Yn sgìl gaeafau cynhesach ar draws ardal ehangach pegwn y gogledd, mae’r iâ ar Gefnfor yr Arctig yn crebachu blwyddyn ar ôl blwyddyn ac wedi cyrraedd ei fan isaf erioed.

Mae'r newidiadau hyn yn cael effaith nas gwelwyd o'r blaen ar sut mae ecosystem yr Arctig yn gweithredu.

Mae crebachu a theneuo rhew môr yr Arctig yn allweddol wrth yrru newid, gan gynyddu faint o olau sydd yn treiddio i’r môr a chymysgu’r dŵr gan ddod â dyfroedd dyfnach a chyfoethog o ran maetholion i'r wyneb.

Mae'r rhain yn ddau beth sydd yn diffinio pa mor gynhyrchiol yw Cefnfor yr Arctig y mae’r gadwyn fwyd gyfan yn dibynnu arnynt.

Mae'n bwysig deall sut mae newid hinsawdd yn newid y nodweddion hyn ac i fesur eu heffeithiau ar ecosystem yr Arctig os ydy modelau cyfrifiadurol sy'n rhagweld newid yn y dyfodol am gael eu gwella.

Arctic PRIZE
Bydd gwyddonwyr rhaglen Arctic PRIZE yn treulio mis ar y môr yn mesur nodweddion ffisegol, cemegol a biolegol ar ddyfnderoedd gwahanol ym Môr Barents.

Eu nod yw nodi a oes newidiadau sylweddol yn digwydd ar draws y tymhorau sydd yn newid y ffordd y mae plancton yn ymddwyn.

Yr organebau hyn yw rhan isaf y gadwyn fwyd ac maent yn hanfodol i oroesiad anifeiliaid mwy, fel pysgod a morloi.

Mae eu twf ddiwedd y gwanwyn a dechrau’r haf yn dibynnu ar y gymysgedd gywir o faetholion yn nŵr y môr a digon o olau.

Gall newid yn yr hinsawdd newid amseriad, lleoliad neu dyfiant plancton, a hyd yn oed ddenu gwahanol fathau o blancton o ardaloedd mwy deheuol, gyda chanlyniadau i weddill y gadwyn fwyd.

Rhan ganolog o waith y gwyddonwyr fydd casglu offer awtomatig sydd wedi eu hangori yn y môr am y 12 mis diwethaf.

Bydd y rhain yn cael eu hadleoli am flwyddyn arall er mwyn casglu data hanfodol ar sut mae newidiadau i iâ'r môr yn effeithio ar baramedrau pwysig mewn dŵr môr, megis dwysedd golau.

Bydd y gwyddonwyr hefyd yn casglu glider awtomatig sydd wedi bod yn monitro'r dŵr agored i'r de o ymyl yr iâ ers mis Ionawr – yn ystod y nos begynnol.

Mae wedi bod yn casglu data ar nodweddion ffisegol, cemegol ac optegol y dŵr yn ystod y cyfnod sy’n pontio’r gaeaf a’r haf.

Mae hyn yn caniatáu i'r gwyddonwyr nodi sut mae'r plancton yn ymateb i newid tymhorol mewn amgylchedd sydd dan ddylanwad cynhesu.

Yr Athro Finlo Cottier o Gymdeithas Gwyddoniaeth Forol yr Alban ac ymchwilydd arweiniol Arctic PRIZE yw’r Prif Swyddog Gwyddonol ar y fordaith: “Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â gwyddonwyr o Norwy, yn enwedig yn Tromsø, i arsylwi sut mae ecosystem yr Arctig yn ymateb yn ystod cyfnod pontio rhwng y gaeaf a’r haf, with i’r rhew gilio tua’r gogledd. Gyda'n gilydd, rydym yn mireinio ein dealltwriaeth o'r amgylcheddau hyn yn yr Arctig. Un o'n cwestiynau allweddol yw a fydd mwy o gynnyrch biolegol yn y Cefnfor Arctig wrth i arwynebedd y rhew leihau a theneuo. Mae gennym raglen waith integredig iawn sy'n cysylltu amgylchedd ffisegol iâ, dŵr a golau â'r gemeg a'r organebau yn y golofn ddŵr gyda’r cymunedau ar wely’r môr.”

Mae Dr Kim Last, cyd-ymchwilydd ar brosiect Arctic PRIZE ac sydd yn aelod o Gymdeithas Gwyddoniaeth Forol yr Alban, yn rhan o’r fordaith: “Mae'r Arctig yn newid yn gyflym, ac mae’r modd mae’r iâ yn cilio yn arwain at fôr o ddŵr cynhesach, ffres ac ysgafnach. Gwyddom fod rhywfaint o gynefinoedd zooplancton yn mudo tua’r gogledd, ond gallai fod pris i’w dalu am ymfudo. Wrth symud tua’r gogledd mae’r cylch dydd/nos yn newid a bydd hyn yn effeithio ar eu clociau biolegol sydd yn rheoli popeth o’i hymddygiad i’w genynnau. Ein nod yw deall pa mor wydn ydyn nhw i newid o'r fath.”

Yn y pendraw, nod rhaglen Changing Arctic Ocean yw creu gwell dealltwriaeth o'r Arctig, fel y gall modelau cyfrifiadurol ragweld yn fwy cywir newid i'r amgylchedd a'r ecosystem yn y dyfodol. O fewn y rhaglen mae pedwar prif brosiect gyda mwy na 80 o wyddonwyr o 18 o sefydliadau ymchwil y DU.

Mae'r pedwar prosiect yn cwmpasu gwahanol agweddau o amcanion y rhaglen: sut mae newid yn yr Arctig yn effeithio ar y gadwyn fwyd, o organebau bach ar y gwaelod i ysglyfaethwyr mawr ar y brig (ARISE), sut mae cynhesu yn dylanwadu ar y brif ffynhonnell fwyd ar waelod y gadwyn fwyd (DIAPOD), effaith crebachu a theneuo iâ'r môr ar faetholion a bywyd môr ar wyneb y cefnfor (Arctic PRIZE) ac ar yr ecosystem ar wely’r môr (ChAOS).