Adroddiad newydd yn amlygu partneriaethau prifysgolion a’u cymunedau

Dylan Jones, Cadeirydd Fforwm Cymunedol Penparcau, yn annerch y gynulleidfa yn ystod lansiad adroddiad Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru Torri Tir Newydd: Ar Dir Cyffredin.

Dylan Jones, Cadeirydd Fforwm Cymunedol Penparcau, yn annerch y gynulleidfa yn ystod lansiad adroddiad Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru Torri Tir Newydd: Ar Dir Cyffredin.

18 Mehefin 2018

Mae’r gwaith mae prifysgolion Cymru yn ei wneud yn eu cymunedau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn cael ei amlinellu mewn adroddiad newydd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). 

Cafodd Torri Tir Newydd: Ar Dir Cyffredin ei lansio gan CCAUC mewn dathliad o weithgareddau ymgysylltu sifig gan brifysgolion Cymru a gynhaliwyd yn yr Eglwys Norwyeg ym Mae Caerdydd ddydd Mercher 13 Mehefin 2018.

Mae'r adroddiad yn cynnwys mwy na 50 o astudiaethau achos sy'n dangos sut mae prifysgolion yn gweithio mewn partneriaeth ac yn chwarae rhan bwysig mewn cymunedau lleol a byd-eang.

Mewn araith allweddol i gynrychiolwyr o brifysgolion a phartneriaid gwahanol, dywedodd Ysgrifennydd Addysg Cabinet Llywodraeth Cymru Kirsty Williams AC: “Mae gwaith cenhadaeth ddinesig yn helpu i ddod â chymunedau a phrifysgolion at ei gilydd. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr arfer gorau o waith cenhadaeth ddinesig sydd eisoes yn digwydd yn ein prifysgolion. Rhaid cadw'r momentwm hwnnw i fynd.”

Mae nifer o enghreifftiau yn yr adroddiad o sut mae Prifysgol Aberystwyth yn gwneud cyfraniad at wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol pobl a lleoedd yng Nghymru, gan gynnwys:

  • Y bartneriaeth rhwng Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Fforwm Cymunedol Penparcau, sy’n cael ei hariannu gan Cynnal y Cardi ac sy’n darparu sgiliau a hyfforddiant profiad gwaith trosglwyddadwy fel rhan o gynllun peilot arloesol yn y celfyddydau.
  • Clwb Robotiaid Aberystwyth ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd lleol sy'n gweithio gyda myfyrwyr sy’n llysgenhadon STEM i gynllunio ac adeiladu llwyfannau roboteg.
  • Yr ymchwil ar iechyd a lles gwledig sy’n cael ei wneud gan Uned Ymchwil Lles ac Asesu Iechyd WARU.
  • Yr ymchwil ar reoli dyfroedd ymdrochi gan yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear er mwyn gwella iechyd y cyhoedd a sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau dŵr ymdrochi er budd cymunedau yng Nghymru a thu hwnt.
  • Prosiect Dewis dan arweiniad Adran y Gyfraith sy’n edrych ar wella mynediad at gyfiawnder ar gyfer pobl hŷn sy'n dioddef cam-drin yn y cartref.
  • Cynhadledd ymgysylltu yn dwyn ynghyd randdeiliaid o bob rhan o'r Canolbarth i lunio dyfodol amgen a chynaliadwy i'r rhanbarth.

Wrth siarad yn y digwyddiad yng Nghaerdydd, dywedodd Cadeirydd Fforwm Cymunedol Penparcau Dylan Jones: “Drwy ein partneriaeth gyda Phrifysgol Aberystwyth, mae pobl Penparcau o bob oed wedi cael cyfle i ddysgu sgiliau newydd a darganfod mwy am sut mae sefydliad fel Canolfan y Celfyddydau yn gweithredu. Yn ogystal â rheoli digwyddiadau, gweithdai creadigol a hyfforddiant yn y celfyddydau gweledol a pherfformio, rydym hefyd wedi elwa yn sgil ymweliadau â Theatr Clwyd, Canolfan Pontio ym Mangor Bangor a chanolfan MAC yn Birmingham.”

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Mae gan brifysgolion rôl bwysig i'w chwarae o ran gweithio gyda'n cymunedau a'n heconomïau lleol, a chyfrannu at gymdeithas yn gyffredinol drwy effaith ein hymchwil a'n addysg yn ogystal â chyflawniadau ein staff, myfyrwyr ac alumni.

"Ein nod ar hyd yr adeg yn Aberystwyth yw agor ein drysau nid yn unig i'r rhai sydd eisiau astudio rhaglen gradd neu weithio gyda ni, ond hefyd i bobl sy'n byw yn y dref a'r ardal ehangach. Rydym yn gwneud hyn trwy ein hymchwil a thrwy ystod o weithgareddau difyr a defnyddiol, gan gynnwys dosbarthiadau dysgu creadigol yng Nghanolfan y Celfyddydau, dosbarthiadau ffitrwydd a lles yn ein Canolfan Chwaraeon, dysgu gydol oes, a dosbarthiadau Cymraeg i oedolion. Mae ein partneriaeth blwyddyn o hyd gyda Fforwm Cymunedol Penparcau wedi bod yn arbennig o ysbrydoledig ac rydym yn gobeithio gweld prosiectau eraill o'r math hwn yn y dyfodol."