Darlith gyhoeddus: ‘A Hundred Years’ Crisis? In defence of globalism and International Relations’

Yr Athro Louise Richardson, Is-Ganghellor Prifysgol Rhydychen.   Cydnabyddiaeth: OUImages/John Cairns

Yr Athro Louise Richardson, Is-Ganghellor Prifysgol Rhydychen. Cydnabyddiaeth: OUImages/John Cairns

22 Ionawr 2019

Bydd Is-Ganghellor Prifysgol Rhydychen yn traddodi darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Iau 7 Chwefror 2019, fel rhan o Gyfres Siaradwyr Canmlwyddiant yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Mae’r Athro Louise Richardson, a hyfforddodd fel gwyddorydd gwleidyddiaeth, yn arbenigo mewn diogelwch rhyngwladol gyda phwyslais ar fudiadau terfysgol, ac fe’i cydnabyddir yn eang fel un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw’r byd ym maes terfysgaeth a gwrthderfysgaeth.

Bydd yn traddodi darlith o’r enw ‘A Hundred Years’ Crisis? In defence of globalism and International Relations’ am 6.30yh ddydd Iau 7 Chwefror 2019 ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais. 

Penodwyd yr Athro Richardson yn Is-Ganghellor Prifysgol Rhydychen ym mis Ionawr 2016, ar ôl bod yn Brifathro ac Is-Ganghellor Prifysgol St Andrews am saith mlynedd.

Mae wedi ysgrifennu’n eang ar derfysgaeth ryngwladol, polisi tramor a pholisi amddiffyn Prydain, sefydliadau diogelwch a chysylltiadau rhyngwladol. Mae ei chyhoeddiadau yn cynnwys Democracy and Counterterrorism: Lessons from the Past (2007), What Terrorists Want: Understanding the Enemy, Containing the Threat (2006), The Roots of Terrorism (2006), a When Allies Differ (1996).

Mae wedi darlithio ar bwnc terfysgaeth a gwrthderfysgaeth i grwpiau cyhoeddus, proffesiynol, cyfryngau ac addysg ledled y byd, gan weithio ar fyrddau golygyddol nifer o gyfnodolion a gweisg. Mae wedi ennill sawl gwobr am ei gwaith, gan gynnwys Gwobr Sumner am waith sy’n ceisio atal rhyfel a sefydlu heddwch byd-eang. 

Dywedodd Dr Jan Ruzicka, Cyfarwyddwr Dathliadau Canmlwyddiant yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: “Yn ogystal â bod yn un o’r ffigurau mwyaf blaenllaw ym maes addysg uwch yn y DU, mae Louise Richardson hefyd yn academydd hynod fedrus yn ein maes. Rydym yn falch iawn y bydd yn traddodi ar bwnc sydd yn amlwg yn mynd i barhau i ddiffinio cysylltiadau gwleidyddol byd-eang yn y blynyddoedd i ddod.”

Mae’r ddarlith yn rhan o Gyfres Siaradwyr y Canmlwyddiant sy’n dathlu canmlwyddiant sefydlu’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyntaf erioed ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cynhelir y ddarlith ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais am 6.30yh ddydd Iau 7 Chwefror 2019. 

Estynnir gwahoddiad i aelodau’r cyhoedd yn ogystal â staff a myfyrwyr y Brifysgol.