Tonwresi morol yn fwy cyffredin ac yn bygwth bioamrywiaeth

Wrth i’r DU ymateb i’r tymheredd uchaf erioed i’w gofnodi yn ystod mis Chwefror, mae ymchwil o Brifysgol Aberystwyth yn dangos cynnydd sylweddol mewn tywydd poeth ar y môr - â chanlyniadau niweidiol posibl i fywyd morol.

Wrth i’r DU ymateb i’r tymheredd uchaf erioed i’w gofnodi yn ystod mis Chwefror, mae ymchwil o Brifysgol Aberystwyth yn dangos cynnydd sylweddol mewn tywydd poeth ar y môr - â chanlyniadau niweidiol posibl i fywyd morol.

04 Mawrth 2019

Wrth i’r DU ymateb i’r tymheredd uchaf erioed i’w gofnodi yn ystod mis Chwefror, mae ymchwil o Brifysgol Aberystwyth yn dangos cynnydd sylweddol mewn tywydd poeth ar y môr - â chanlyniadau niweidiol posibl i fywyd morol.

Mewn adroddiad yn y cyfnodolyn Nature Climate Change, mae Dr Pippa Moore o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig a chydweithwyr o saith gwlad wahanol, yn adrodd cynnydd o 54% yn nifer yr achosion o ‘donwresimorol’ (‘marine heatwaves’) rhwng 1987 a 2016, o’i gymharu â’r cyfnod 1925 tan 1954.

Mae tonwresi morol yn debyg i dywydd poeth ar y tir, ac yn digwydd pan fydd tywydd anarferol o gynnes yn para am gyfnod estynedig, ond cyfyng yw’r ddealltwriaeth o’i effaith ar rywogaethau ac ecosystemau morol.

Yr astudiaeth hon, dan arweiniad Dr Dan Smale o Gymdeithas Bioleg Forol y DU, yw’r gyntaf i asesu’r effeithiau biolegol a ddaw yn sgil cyfres o donwresi morol amlwg ar draws y byd.

Er eu bod yn amrywio o ran dwysedd, maint a hyd, maent i gyd yn effeithio ar rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion allweddol gan gynnwys cwrelau, morwelltydd a gwymon.

Mae tonwresi morol hefyd yn newid strwythur cymunedau yn y môr a’r modd y maent yn gweithio, gyda goblygiadau mawr i bysgotwyr oherwydd yr effeithiau ar bysgodfeydd.

Yn ôl yr astudiaeth, mae rhai rhanbarthau yn arbennig o fregus.

Yn eu plith mae’r Môr Tawel, Môr yr Iwerydd a Chefnfor yr India, gan fod ganddynt lefelau uchel o fioamrywiaeth, nifer o rywogaethau s’n byw mewn dyfroedd sy’n ymylu ar fod yn rhy gynnes iddynt, a/neu sydd yn dygymod gydag effeithiau dynol eraill ar wahan i newid hinsawdd.

Dywedodd Dr Dan Smlae, prif awdur y papur: “Ar hyn o bryd, mae ecosystemau morol yn wynebu nifer o fygythiadau, gan gynnwys gorbysgota, asideiddio morol a llygredd plastig, ond gall cyfnodau o dymheredd eithafol achosi newidiadau ecolegol cyflym a phellgyrhaeddol sy’n arwain at golli cynefinoedd, diflaniad rhywogaethau yn lleol, pysgodfeydd tlotach a newidiadau i gadwyni bwyd.”

Dywedodd Dr Pippa Moore, cyd-awdur ar y papur: “Ers amser hir bu tonwresimorol yn ffenomenon gudd o’i chymharu â chyfnodau o dywydd poeth ar y tir. O ganlyniad i’r tywydd poeth daearol diweddar yn y DU, a’r tymheredd poethaf erioed i’w gofnodi yn ystod y gaeaf, gwelwyd nifer o blanhigion yn blaguro ac anifeiliaid yn sionci lawer yn gynt na’r arfer. Pan fydd tywydd arferol ddiwedd Chwefror a dechrau Mawrth yn dychwelyd, mae’n debygol o gael effaith andwyol ar anifeiliaid a phlanhigion, gan ladd llawer ohonynt. Mae’r un peth yn digwydd yn y môr gyda thonwresi morol yn achosi marwolaethau helaeth.”

Yn ôl yr adroddiad, bydd nifer yr achosion o donwresi morol yn sgil newid hinsawdd yn parhau i gynyddu, a gallai’r sgil effeithiau ar fioleg forol fod yn helaeth ar yr ecosystemau a’r gwasanaethau maent yn eu darparu.