Lansio gwerslyfr Seicoleg yn Llundain

'Psychology: The Science of Mind and Behaviour': y rhifyn cyntaf i'r diweddaraf

'Psychology: The Science of Mind and Behaviour': y rhifyn cyntaf i'r diweddaraf

12 Ebrill 2019

Mae’r Athro Nigel Holt, Pennaeth Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn Llundain yr wythnos hon i lansio rhifyn diweddaraf ei werslyfr hynod boblogaidd Psychology: The Science of Mind and Behaviour.

Mae’r gyfrol, sy’n cael ei chyhoeddi gan McGraw Higher Education, yn ychwanegiad bwysig at ei casgliad seicoleg helaeth ac yn werslyfr rhagarweiniol a ddefnyddir gan lawer o brifysgolion yn y DU a thu hwnt.

Cyd-ysgrifennwyd y rhifyn diweddaraf, sydd yn cynnwys datblygiadau newydd y maes, gan yr Athro Nigel Holt, Andrew Bremner, Ed Sutherland, Michael Vliek, Michael Passer a Ronald Smith.

Dywedodd yr Athro Holt: “Rwy’n hynod falch o fod yn brif awdur y llyfr hwn. Rwyf wedi bod yn aelod o’r tîm ysgrifennu ers y gyfrol wreiddiol 15 mlynedd yn ôl, ac mae’n gwella fwyfwy gydag amser.”

“Mae Seicoleg yn bwnc enfawr, ac felly’r her yw ysgrifennu llyfr sy’n rhoi cyflwyniad i’r rhan fwyaf o’r maes tra’n caniatau lle ar gyfer manylder a her er mwyn ei ddefnyddio ar y cyrsiau y mae wedi ei fwriadu.”

“Y rhan bwysicaf o’r rhifyn newydd hwn, yn fy marn i, yw’r rhan ar Seicoleg yn y gwaith lle rydym yn edrych ar yr amryw swyddi mae seicolegwyr yn eu gwneud a sut gall y sgiliau a ddysgwyd ar radd seicoleg fod o gymorth mewn lleoliadau gwaith,” ychwanegodd.

Daeth trydydd rhifyn y llyfr at sylw’r cyhoedd ehangach yn 2015 pan cyfeiriwyd ato gan y ditectif Nordi Noir, Saga Norén, seren The Bridge.

Ymunodd yr Athro Holt â Phrifysgol Aberystwyth yn 2012. Ar ôl astudio PhD ym Mhrifysgol Efrog, bu’n gweithio mewn diwydiant cyn dychwelyd i’r byd academaidd fel cymrawd ymchwil mewn seicoleg ym Mhrifysgol Reading.

Ei brif ddiddordebau ymchwil yw’r berthynas rhwng sain a’r amryw agweddau ar wybyddiaeth gan gynnwys cof, sylw a pherfformiad. Mae ei ffocws ymchwil diweddaraf wedi bod ar ganfyddiad amser a seicoleg beicio a thrafnidiaeth.