Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi disgyblion i barhau â Gwyddoniaeth Safon Uwch

Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o bump prifysgol yng Nghymru fydd yn cynnig mentora i ddysgyblion ysgol sy’n astudio’r gwyddorau.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o bump prifysgol yng Nghymru fydd yn cynnig mentora i ddysgyblion ysgol sy’n astudio’r gwyddorau.

17 Ebrill 2019

Mae myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ymhlith pump prifysgol yng Nghymru sy’n mentora disgyblion sy’n astudio ffiseg TGAU ar draws Cymru.

Nod y prosiect yw cynyddu nifer y disgyblion sy’n astudio ffiseg Safon Uwch, a merched yn arbennig.

Prifysgol Caerdydd sy’n arwain y gwaith, ar y cyd â Phrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Abertawe a De Cymru.

Mae myfyrwyr o’r prifysgolion hyn yn cael eu hyfforddi er mwyn cefnogi tua 240 o ddisgyblion Blwyddyn 10 ac 11.

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) sy’n ariannu’r gwaith, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Bydd y gwaith mentora yn cael ei gynnal yn ystod gwanwyn a hydref 2019 ac yn cynnwys hyd at 12 ysgol.

Bydd mentora merched yn flaenoriaeth gan eu bod yn cynrychioli 21.5% yn unig o ddisgyblion ffiseg Safon Uwch Cymru a llai na dwy o bob deg myfyriwr ffiseg amser llawn ym mhrifysgolion Cymru.

Mae’r mentoriaid yn astudio amrywiaeth eang o bynciau fel ffiseg, astroffiseg, datblygu gemau cyfrifiadurol a pheirianneg mecanyddol, awyrennol, ac electronig.

Bydd y prosiect yn adeiladu ar lwyddiant cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru lle mae disgyblion ar draws Cymru yn cael eu mentora mewn ieithoedd tramor gan fyfyrwyr o brifysgolion Cymru.

Dywedodd Yr Athro Andrew Evans, Pennaeth Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth: “O’r Eisteddfod i Wythnos Wyddoniaeth Prydain, a’r Sioe Frenhinol i’n Clwb Roboteg, rydym yn trefnu amrywiaeth o waith allgyrsiol gydag ysgolion yn Aberystwyth, Ceredigion a Chymru. Bydd y cynllun mentora yma’n cryfhau’r cysylltiadau hynny ymhellach a thrwy rannu ein gwybodaeth a’n brwdfrydedd am y gwyddorau, ein gobaith yw ysbrydoli mwy o bobl ifanc i barhau i astudio’r pynciau hyn.”

Dywedodd Lowri Evans, athrawes Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth ym Mhowys: "Mae’r ysgol yn falch iawn o’r cyfle i fod yn rhan o’r prosiect cyffrous yma, gan bydd y disgyblion yn ennill sgiliau hollbwysig bydd yn help mawr iddynt yn y dyfodol.”

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg: "Er mwyn codi safonau yn rhan o’n cenhadaeth genedlaethol mae’n hanfodol ein bod yn dwysáu a chryfhau'r cysylltiadau rhwng prifysgolion Cymru, eu myfyrwyr a'n hysgolion. Yn rhan o’r addewid allweddol yn fy nghytundeb blaengar gyda'r Prif Weinidog rydym eisiau ehangu cynlluniau mentora israddedig mewn gwyddoniaeth, yn ogystal ag ieithoedd a thechnoleg.

"Mae cynlluniau o'r fath yn hanfodol i wella ymgysylltiad dinesig prifysgolion. Dyna pam yr ydym ni fel Llywodraeth, trwy CCAUC, wedi buddsoddi yn y cyfle cyffrous hwn i fyfyrwyr rannu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u brwdfrydedd am wyddoniaeth a thechnoleg.

"Mae gan ein prifysgolion gyfrifoldeb arbennig fel goruchwylwyr eu cymuned. Bydd ymwneud mwy ag ysgolion, a gwneud pynciau fel ffiseg mor ddiddorol ac ysgogol â phosib, yn helpu i ysbrydoli a chymell brwdfrydedd sy'n arwain at ddyfodol newydd, cyfleoedd newydd a gorwelion newydd i'n holl bobl ifanc.

"Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda’r Rhaglen Mentora Ffiseg i chwalu’r rhwystrau rhagdybiedig am bynciau STEM, fel bod ein holl ddisgyblion yn gallu gwerthfawrogi'r cyfleoedd y gall astudiaethau a gyrfaoedd STEM eu cynnig."

Dywedodd Dr Alyson Thomas, Cyfarwyddwr Polisi a Chyllid yn CCAUC: “Ni allwn danbrisio’r effaith gadarnhaol y gallai prifysgolion ei chael ar genedlaethau o wyddonwyr y dyfodol drwy gynlluniau fel yr un hwn. Bydd profiad yr israddedigion o gymryd rhan o fudd iddynt hefyd.

“Rydym yn gobeithio y bydd disgyblion o bob oedran yn mwynhau cymryd rhan yn y cynllun dwyieithog, ac rydym yn arbennig o gyffrous ynghylch y dylanwad y bydd y myfyrwyr sy’n fodelau rôl yn ei gael ar ferched sy’n ymddiddori mewn pynciau STEM. Roedd y rhaglen hon yn gweddu’n dda i gronfa ein cenhadaeth ddinesig, sy’n annog ymgysylltu cymunedol ag ysgolion.”

Dywedodd Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru: “Fel sector, rydym yn croesawu'r Prosiect Mentora Ffiseg. Mae'r prosiect arloesol hwn yn adeiladu ar y gwaith mentora llwyddiannus y mae prifysgolion wedi'i wneud mewn iaith fodern. Mae’n dangos cyfraniad pwysig a gwerthfawr prifysgolion mewn ysgolion a chymunedau yng Nghymru yn rhan o'u cenhadaeth ddinesig.”