Hyfforddiant llwyddiannus i entrepreneuriaid newydd

19 Mehefin 2019

Cafodd unigolion sydd â syniad busnes blaengar gyfle unigryw i ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd yn ystod Wythnos Dechrau Busnes flynyddol Prifysgol Aberystwyth. 

Cynhaliwyd yr hyfforddiant rhwng 3 a 7 Mehefin a manteisiodd y rhai a fynychodd ar amrywiaeth o weithdai sgiliau busnes rhad ac am ddim yn ymwneud â materion allweddol sy’n wynebu busnes neu fenter gymdeithasol sy’n dechrau.

Eleni, roedd rhaglen yr Wythnos Dechrau Busnes yn cynnwys sesiynau ar ymchwil i'r farchnad, marchnata a brandio, costio a phrisio, marchnata digidol, cynllunio a rheoli cyllidol, treth, eiddo deallusol a materion cyfreithiol. 

Roedd yr amserlen hefyd yn cynnwys cyflwyniadau gan unigolion sydd wedi dechrau busnesau llwyddiannus.

Mae Rheolwr Menter y Brifysgol, Tony Orme, sydd wedi trefnu’r Wythnos Dechrau Busnes yn y Brifysgol am ddegawd a mwy, yn egluro:  “Unwaith eto, cynigiodd Wythnos Dechrau Busnes eleni gyfle gwych i unrhyw un sydd wedi breuddwydio am ddechrau eu busnes eu hunain i ddysgu’r sgiliau angenrheidiol i helpu i droi eu syniad busnes yn realiti. 

“Rhoddwyd cyngor a chyfarwyddyd ymarferol gan ymgynghorwyr busnes a staff y Brifysgol yn ystod yr wythnos, a’r cyfle i glywed o lygad y ffynnon gan entrepreneuriaid llwyddiannus ysbrydoledig.

“Cafodd y rhai a fynychodd y digwyddiad eleni gyflwyniadau gan ddau fodel rôl busnes: Melissa Warren, artist tecstilau o Rondda Cynon Taf, a astudiodd decstilau yn y coleg ac a oedd eisiau parhau â’r gwaith arloesol yr oedd hi’n ei wneud. Dechreuodd yn ei chartref gydag un peiriant gwau domestig ac un diwydiannol, ac mae ganddi bellach 22 a mwy o beiriannau gwnïo a pheiriannau addurno.  Gwnaeth yr ail, Ryan Stephens, ddechrau ei gwmni cyntaf pan oedd yn 19 oed ac mae wedi dechrau nifer o gwmnïau eraill ers hynny. Ar hyn bryd mae’n berchen ar AVARUS, marchnad ffasiwn ar-lein gyda thros 3,500 o gynnyrch.”

Mae'r Wythnos Dechrau Busnes yn bartneriaeth rhwng Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth a Syniadau Mawr Cymru Llywodraeth Cymru.