Atebion adeiladol i greu cynefin i fywyd morol ar amddiffynfeydd llifogydd

Gosod y teils concrit ar yr amddiffynfeydd morol ger y Borth, teils sydd wedi eu dylunio gan ddefnyddio proses o’r enw Ffotogrametreg sydd yn creu delwedd 3D o’r tir ar arfordiroedd creigiog naturiol.

Gosod y teils concrit ar yr amddiffynfeydd morol ger y Borth, teils sydd wedi eu dylunio gan ddefnyddio proses o’r enw Ffotogrametreg sydd yn creu delwedd 3D o’r tir ar arfordiroedd creigiog naturiol.

01 Awst 2019

Mae ymdrechion i droi amddiffynfeydd morol yn gynefin ffyniannus i fywyd gwyllt yn cymryd cam sylweddol ymlaen dros yr haf. 

Mi fydd gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn gosod teils arbennig i strwythurau synthetig sydd yno i atal llifogydd arfordirol yn y Borth, yng Ngheredigion.

Mae’r teils wedi’u dylunio gyda’r bwriad o gopïo’r amgylchiadau delfrydol ar gyfer bywyd gwyllt.

Mae’r fenter yn rhan o ECOSTRUCTURE sydd wedi’i rhan-gyllido gan Gronfa Datblygu Rhanbarthau Ewrop (ERDF) trwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2020.

Fel rhan o gynllun ar y cyd, mae gwyddonwyr mewn prifysgolion yng Nghymru ac yn Iwerddon wedi creu’r teils a fydd yn dynwared nodweddion cynefinoedd naturiol llwyddiannus, mewn ffordd fanwl iawn. 

Mae’r teils wedi’u dylunio i alluogi rhywogaethau amrywiol a phrin i ffynnu arnynt.

Mae’r teils gwreiddiol hyn yn cael eu cynhyrchu ar hyn o bryd gan gydweithwyr yng Ngholeg y Brifysgol, Dulyn yng Ngweriniaeth Iwerddon. 

Maen nhw wedi’u dylunio gan ddefnyddio proses o’r enw Ffotogrametreg sydd yn creu delwedd 3D o’r tir ar arfordiroedd creigiog naturiol gan ddefnyddio cyfres o ffotograffau.

Mae mowldiau cywrain yn cael eu creu gydag argraffydd 3D er mwyn cynhyrchu teils gorffenedig gyda choncrit ecogyfeillgar arbennig.

Mae’r prosiect yn rhan o Ecostructure, cynllun ar y cyd rhwng Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, a Phrifysgol Abertawe yng Nghymru, a Choleg y Brifysgol, Dulyn a Choleg y Brifysgol, Corc yn Iwerddon.

Dywedodd un o arweinwyr y prosiect, Dr Pippa Moore o Brifysgol Aberystwyth: “Rydym yn gwybod bod amddiffynfeydd morol yn cynnal llai o fywyd gwyllt gan nad oes ganddyn nhw’r cymhlethdod o ran y cynefinoedd sydd i’w cael ar arfordiroedd creigiog naturiol.  Felly, rydym ni’n canfod ffyrdd i sicrhau bod rhai o elfennau mwyaf prin ac amrywiol ein bywyd morol yn medru ffynnu yn yr amgylchiadau newydd hyn.

“Mae’r teils sydd wedi’u creu gennym yn fanwl iawn iawn – gan ddynwared rhai o’r arwynebau sydd yn sail i gynnal bywyd rhai rhywogaethau ar hyd ein harfordir.  Rydym wedi cyrraedd pwynt bellach lle gallwn osod y teils hyn ar yr amddiffynfeydd morol am y tro cyntaf, a gweld drosom ni’n hunain faint o wahaniaeth maen nhw’n ei wneud i’r bioamrywiaeth sy’n cael ei chynnal yn yr ardal.  Ar ôl gosod y teils i’r amddiffynfeydd, fe fyddwn yn eu monitro’n agos i weld i ba raddau mae bywyd gwyllt yn ymgartrefu arnyn nhw.  Mae’n gam anhygoel o gyffrous ymlaen yn y maes ymchwil allweddol hwn.”

Mi fydd y gwaith i osod y teils yn y Borth, Ceredigion yn mynd yn ystod mis Awst 2019.