Awduron o Gymru ac India yn lansio cyfrol unigryw o gerddi i blant

Eurig Salisbury sy’n cyhoeddi cyfrol newydd o farddoniaeth i blant - The Bhyabachyaka and Other Wild Poems - ar y cyd â’r awdur Sampurna Chattarji o India.

Eurig Salisbury sy’n cyhoeddi cyfrol newydd o farddoniaeth i blant - The Bhyabachyaka and Other Wild Poems - ar y cyd â’r awdur Sampurna Chattarji o India.

27 Tachwedd 2019

Bydd y gynghanedd yn cael lle amlwg mewn casgliad unigryw o farddoniaeth i blant a gaiff ei lansio yn India ar 1 Rhagfyr 2019.

Mae The Bhyabachyaka and Other Wild Poems wedi’i ysgrifennu ar y cyd gan yr awdur Indiaidd Sampurna Chattarji ac Eurig Salisbury, bardd a darlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth.

Scholastic India sy’n cyhoeddi’r gyfrol ac fe fydd yn cael ei lansio yn Delhi Newydd yn ystod Bookaroo, gŵyl llenyddiaeth plant sy’n cael ei chynnal yn flynyddol yn India ers 2008.

Mae’r cerddi i gyd wedi’u hysgrifennu yn Saesneg ac wedi’u hysbrydoli gan eiriau yn ieithoedd brodorol yr awduron sef y Gymraeg a Bangla.

Ar gyfer rhan gyntaf y llyfr, fe gyfansoddodd y ddau fardd benillion yn seiliedig ar sain  geiriau anghyfarwydd yn eu hieithoedd ei gilydd fel Bhyabachyaka (dryslyd) yn Bangla a Ffrwchnedd yn Gymraeg.

Mae tair rhan arall y gyfrol yn cynnwys cerddi a ysbrydolwyd gan eiriau gwneud, gan eiriau ag iddyn nhw arwyddocâd diwylliannol fel cynghanedd neu pujo (defod addoli), a chan enwau lleoedd, gan gynnwys enw'r orsaf reilffordd hiraf yn y DU – Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch.

Wrth siarad cyn lansiad The Bhyabachyaka and Other Wild Poems, dywedodd Eurig Salisbury: “Amcan y gyfrol hon yw cyflwyno’r ddwy iaith a’u traddodiadau i gynulleidfa ehangach o blant a rhieni yn India a thu hwnt, a hynny mewn ffordd fywiog, ddiddorol a doniol.

“Mae nifer o fy ngherddi i ac un o gerddi Sampurna yn cynnwys llinellau o gynghanedd. Mae yna hefyd ganllaw syml i reolau’r gynghanedd yn y llyfr a’r gred yw mai dyma’r tro cyntaf i’r ffurf hynafol hon o gyfansoddi gael ei chyflwyno mewn print i gynulleidfaoedd ifanc yn India.”

Bydd Eurig Salisbury, a fu’n Fardd Plant Cymru rhwng 2011 a 2013, hefyd yn cynnal cyfres o weithdai gyda Sampurna Chattarji mewn ysgolion cynradd yn Delhi Newydd ar 2-3 Rhagfyr 2019.

Dywedodd Sampurna Chattarji: “Mae’r llyfr hwn yn nodi taith tuag at gydgyfeiriant (Cymraeg-Bangla) sydd wedi dod trwy rannu profiadau yng ngwledydd ein gilydd, a throchi yn nhirweddau diwylliannol ein gilydd. Mae'r Bhyabachyaka yn antur mewn barddoniaeth sy'n ail-ddychmygu'r cysyniad bod diwylliant yn diriogaethol, llais yn undonnog, ac iaith yn peri rhwyg.

“Mae’n arddull newydd o gyfieithu sy’n arwain at eirfa newydd: yn disodli hierarchaethau ac yn gwyrdroi disgwyliadau - yn ddrygionus, yn fympwyol, ac ie, yn ddifrifol. Er enghraifft, mae fy ngherdd am 'Bara Lawr' (sydd mor Gymraeg!) yn dechrau fel pregeth am enwi, ac yn mynd ymlaen i ddathlu'r “byd polyglot sydd ohonni” trwy gyfeirio at eiriau Tamil, Hindi, Marathi, ac wrth gwrs, Bangla. Neu fy ngherdd ‘Hiraeth’ sy’n cyd-fynd â’r geiriau Hindi am ddynoliaeth a realiti. Rwy'n gobeithio y bydd y llyfr hwn yn gwneud i blant, rhieni ac athrawon sylweddoli bod barddoniaeth yn gallu bod yn gymaint hwyliog, a bod ein byd, yn y bôn, yn un.”

Dywedodd Pennaeth Cyhoeddi Scholastic India, Shantanu Duttagupta: “Mae The Bhyabachyaka a Other Wild Poems wedi bod yn un o’r llyfrau mwyaf hwyliog a gwallgof erioed i’w gyhoeddi gan Scholastic India ac mae wedi bod yn bleser pur. Heb os, bydd y smorgasbord traws-ddiwylliannol hwn o nonsens yn cynnig oriau diddiwedd o chwerthin gogleisiog i blant Indiaidd a Chymru fel ei gilydd.”

Mae Eurig Salisbury a Sampurna Chattarji wedi bod yn cydweithio ar gyfres o brosiectau llenyddol yng Nghymru ac yn India ers iddynt gyfarfod am y tro cyntaf mewn gweithdy cyfieithu yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn 2011 a drefnwyd gan Cyfnewidfa Lên Cymru.

Dyma eu hail lyfr ar y cyd, yn dilyn cyhoeddi casgliad o farddoniaeth o'r enw Elsewhere Where Else / Lle Arall Ble Arall (Poetrywala) yn 2018 fel rhan o brosiect a drefnwyd gan Lenyddiaeth ar draws Ffiniau.