Lleoliadau ac Iechyd Meddwl

06 Tachwedd 2019

Beth sy'n gwneud lleoliad iach? Ble rydyn ni'n teimlo ar ein gorau? Sut mae ein hamgylchedd yn dylanwadu ar y ffyrdd rydyn ni'n byw, meddwl a theimlo?  Dyma rai o’r cwestiynau fydd yn cael eu trafod yn ystod 'Lleoliadau ac Iechyd Meddwl', digwyddiad yn yr Hen Goleg, ddydd Sadwrn 9 Tachwedd.

Nawdd gan y Loteri Genedlaethol i astudiaeth am ffoaduriaid yr Ail Ryfel Byd yng Nghymru

06 Tachwedd 2019

Mae prosiect wedi ennill cyfran o grant £2m gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i astudio profiadau ffoaduriaid a ddaeth i Gymru wrth ddianc oddi wrth y Natsïaid.

Defnyddwyr yn helpu i lunio dyfodol cig eidion Cymru

07 Tachwedd 2019

Y mis hwn, mae aelodau’r cyhoedd yn cael eu gwahodd i flasu cig a rhoi eu barn amdano er mwyn helpu ffermwyr Cymru i wneud yn siŵr eu bod yn cynhyrchu cig eidion o’r safon uchaf drwy’r amser. Mae prosiect ‘BeefQ’ sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth mewn cydweithrediad ag amryw o bartneriaid o’r diwydiant amaethyddol.

Prifysgol Aberystwyth i groesawu Taith Sgriblwyr Gŵyl y Gelli

07 Tachwedd 2019

Bydd Taith Sgriblwyr Gŵyl y Gelli yn ymweld â Phrifysgol yn 2020, wrth i bum awdur oedolion ifanc arobryn weithio gyda phobl ifanc ar draws Cymru.

Estyn cefnogaeth gyfreithiol i gyn-filwyr

08 Tachwedd 2019

Mae prosiect ymchwil cyfreithiol unigryw ledled Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth yn anelu at estyn cymorth i 1,000 o gyn-filwyr a'u teuluoedd.

Gwell gwerthuso a chyllido i gynorthwyo ymdrechion i hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol

12 Tachwedd 2019

Byddai ymdrechion i hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol ymysg plant a phobl ifanc yn elwa o wella’r ffordd y mae prosiectau yn cael eu gwerthuso, ac o gyllid digonol yn ol ymchwilwyr o brifysgolion Aberystwyth a Chaeredin.

Digwyddiad yn dathlu arfer dda ac arloesi wrth hybu’r iaith Gymraeg

12 Tachwedd 2019

Trin, trafod a dathlu ymdrechion hybu’r Gymraeg a chynllunio iaith mewn cyd-destun rhyngwladol fydd canolbwynt y sylw mewn digwyddiad ddeuddydd gaiff ei gynnal yn yr Hen Goleg ar 28-29 Tachwedd.

Gôl-geidwad talentog yw’r diweddaraf i dderbyn Ysgoloriaeth Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth

13 Tachwedd 2019

Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Prifysgol Aberystwyth a Chlwb Pêl-droed Tref Aberystwyth i’r gôl-geidwad talentog, Alex Pennock.

Gwasanaeth cyfreithiol am ddim ar restr fer gwobr fawreddog

13 Tachwedd 2019

Mae gwasanaeth cyngor cyfreithiol am ddim, a ddarperir gan Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y cyd â chwmni cyfreithiol Emma Williams Family Law, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr fawreddog Pro Bono.

‘Eicon cenedlaethol’ o Wlad yr Iâ wedi ei ddarganfod yn Ysgol Gelf Aberystwyth

14 Tachwedd 2019

Arwyddocâd diwylliannol Menyw’r Mynydd gan yr arlunydd Johann Baptist Zwecker (1814-1876) i bobl Gwlad yr Iâ yn dod i’r amlwg yn ystod ymweliad academaidd.

Lansio cod urddas a pharch

19 Tachwedd 2019

Mae'r Brifysgol wedi lansio cod urddas a pharch newydd i fyfyrwyr, sy’n dangos ei hymrwymiad i sicrhau diogelwch a lles ei myfyrwyr.

Darlith Gyhoeddus: Y GIG ac Iechyd Byd-eang

19 Tachwedd 2019

Gallu afiechydon i ledu’n gyflym ar draws ffiniau a chyfandiroedd mewn oes fyd-eang, a’r her i’r syniad o wasanaeth iechyd ‘cenedlaethol yn sgil hynny, fydd pwnc darlith gyhoeddus, ddydd Mercher, 27 Tachwedd.

Prifysgol Aberystwyth yn datgan argyfwng hinsawdd ac yn ymrwymo i leihau buddsoddiadau mewn tanwydd ffosil

25 Tachwedd 2019

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymuno â sefydliadau ledled y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd ac wedi cymryd camau i leihau ei buddsoddiadau mewn tanwydd ffosil.

Sut beth oedd bywyd mewn ysbytai meddwl ar ddechrau’r 20fed ganrif

25 Tachwedd 2019

Mewn erthygl yn ‘The Conversation’ mae Dr Elizabeth Gagen, o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau’r Ddaear, yn creu portread o Ysbyty Cefn Coed, a fu’n gweithredu yng Nghymru rhwng 1932-2018, ac yn rhoi golwg unigryw ar fywyd mewn ysbyty meddwl.

Awduron o Gymru ac India yn lansio cyfrol unigryw o gerddi i blant

27 Tachwedd 2019

Lansio The Bhyabachyaka and Other Wild Poems, casgliad unigryw o farddoniaeth i blant gan yr awdur Indiaidd Sampurna Chattarji ac Eurig Salisbury o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, yn India.

Gwobr £10,000 ar gael i fyfyrwyr mentrus

28 Tachwedd 2019

Mae'r Brifysgol wedi lansio ei chystadleuaeth menter i fyfyrwyr ar gyfer 2020, gyda gwobr o £10,000 i’r ymgeisydd buddugol.

Cyfleusterau astudio newydd o’r radd flaenaf i fyfyrwyr

28 Tachwedd 2019

Cafodd dwy ardal astudio sydd wedi’u hadnewyddu’n llwyr ar Gampws Penglais eu hagor yn swyddogol gan David Allen OBE, Cadeirydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, yn ystod ymweliad â Phrifysgol Aberystwyth ddydd Mercher 27 Tachwedd 2019.

Philomusica i berfformio teyrnged i Syr Henry Walford Davies ar achlysur ei ganmlwyddiant

28 Tachwedd 2019

Ddydd Sadwrn, 7 Rhagfyr bydd cerddorfa symffonig Aberystwyth, Philomusica, ar lwyfan y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth i nodi canmlwyddiant o bwys ym myd cerddoriaeth, yn Aberystwyth ac yng Nghymru.

Yr Hen Goleg yn serennu ar y sgrin fach

29 Tachwedd 2019

Yr Hen Goleg Aberystwyth yw un o sêr cyfres boblogaidd Netflix, The Crown, gafodd ei rhyddhau ddydd Sul 17 Tachwedd 2019.