Addewidion Cymraeg newydd i fyfyrwyr Aberystwyth – canmoliaeth gan y Comisiynydd

20 Gorffennaf 2020

Bydd myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn elwa ar ymroddiad newydd i gynnig cyfleoedd a chyfleusterau trwy gyfrwng y Gymraeg, wedi i’r Brifysgol lansio cyfres o addewidion newydd heddiw.

Mae ‘Addewidion Aber’ yn nodi wyth ymrwymiad gan y Brifysgol i fyfyrwyr Cymraeg yn ystod eu cwrs. Yn eu plith mae darparu:  

-    Cyrsiau cyfrwng Cymraeg o bob math ar draws y Brifysgol;

-    Llety Cymraeg i fyfyrwyr, gan gynnwys yn Neuadd Pantycelyn ar ei newydd wedd; 

-    Tiwtor sgiliau academaidd i gynorthwyo myfyrwyr gyda'u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd Dr Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor sydd yn gyfrifol am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg Prifysgol Aberystwyth:

“Mae ymestyn cyfleoedd a darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn fater o flaenoriaeth i mi’n bersonol, ac i Brifysgol Aberystwyth fel sefydliad. Rydyn ni am i fyfyrwyr gael y profiad gorau a llawnaf oll drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae’r addewidion hyn yn gam arall ar y ffordd i gyflawni’r uchelgais honno.

“Mae gan y myfyrwyr hawliau cyfreithiol pendant sy’n ymwneud â’r Gymraeg, wrth gwrs, ond rydyn ni am fynd gam ymhellach a chynnig rhagor o wasanaethau a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol, ac fel rhan o’u bywydau academaidd a chymdeithasol.”

“Mae dyfnder ein darpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg yn galluogi myfyrwyr i ddilyn cynlluniau gradd cyfan drwy gyfrwng yr iaith. Yn ogystal, rydym yn cynnig profiad cymdeithasol Cymraeg heb ei ail yma. Mae hi’n adeg gyffrous iawn yn Aberystwyth wrth i ni baratoi ail-agor drysau Neuadd Pantycelyn i fyfyrwyr unwaith eto. Heb os, dyma gyfle unwaith-mewn-bywyd i’r genhedlaeth nesaf.”

Ychwanegodd Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), Morgan Lewis:

"Rydym ni fel Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) yn ymfalchïo fod y Brifysgol yn mynd gam ymhellach gyda'i hymrwymiadau i fyfyrwyr Cymraeg er mwyn sicrhau y cânt y profiad gorau posibl. Mae'n bleser i weld a bod yn rhan o'r addewidion a fydd yn hwyluso a helpu llunio bywydau'r myfyrwyr yn ystod eu cyfnod yma yn Aberystwyth."

Mae Addewidion Aber yn mynd tu hwnt i ofynion statudol Safonau’r Gymraeg. Mae  Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, yn croesawu ac yn canmol y cyhoeddiad, gan ddweud:

“Mae gan fyfyrwyr yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg yng ngholegau a phrifysgolion Cymru ers Ebrill 2018, ac mae’n wych fod Prifysgol Aberystwyth wedi mynd gam ymhellach trwy gynnig yr addewidion hyn. Felly, fyfyrwyr, mae gennych chi’r hawl ac addewidion pellach gan eich Prifysgol i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Manteisiwch ar y cyfle, a gadael i’r Gymraeg dreiddio i bob rhan o’ch bywyd yn y brifysgol.”