Pantycelyn yn croesawu cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr Cymraeg

Chwith i’r Dde: Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams AS; Moc Lewis, Llywyd UMCA; Gwerfyl Pierce Jones, cyn-Cadeirydd Bwrdd Proseict Pantycelyn; Dr Emyr Roberts, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth a’r Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn nodi ail agor Neuadd Pantycelyn ddydd Gwener 18 2020.

Chwith i’r Dde: Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams AS; Moc Lewis, Llywyd UMCA; Gwerfyl Pierce Jones, cyn-Cadeirydd Bwrdd Proseict Pantycelyn; Dr Emyr Roberts, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth a’r Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn nodi ail agor Neuadd Pantycelyn ddydd Gwener 18 2020.

18 Medi 2020

Mae neuadd breswyl enwocaf Cymru wedi ailagor ei drysau heddiw, ddydd Gwener 18 Medi 2020, gyda’r myfyrwyr yn dychwelyd i Brifysgol Aberystwyth ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd newydd.

Ar ei newydd wedd mae Neuadd Pantycelyn, sydd wedi ei thrawsnewid gan fuddsoddiad o £16.5m, yn cynnig llety o’r radd flaenaf i hyd at 200 o fyfyrwyr a chartref modern a chyfoes i gymuned fyrlymus myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol.

Mae pob un o’r ystafelloedd gwely wedi ei hadeiladu o’r newydd ac yn cynnwys ystafell ymolchi en-suite, ac mae rhai o ystafelloedd mwyaf adnabyddus y Neuadd – y Lolfa Fawr, y Lolfa Fach a’r Ystafelloedd Cyffredin Hŷn ac Iau wedi eu gweddnewid.  

Ac, yn unol â dymuniadau caredigion y neuadd, mi fydd y traddodiad o gydfwyta yn y Neuadd yn parhau gyda brecwast a phryd bwyd â’r hwyr ar gael yn y Ffreutur o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Yn ogystal â buddsoddiad y Brifysgol ei hun, derbyniodd y prosiect gyfraniad o £5m gan raglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, a bydd Gweinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams AS, yn ymweld â’r neuadd ddydd Gwener 18 Medi i’w hailagor, ochr yn ochr ag Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro Elizabeth Treasure. 

Dywedodd Yr Athro Treasure; “Mae hwn yn ddiwrnod mawr i ni yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn benllanw taith bwysig i ni. Wrth ailagor Pantycelyn rydym yn datgan yn glir ein hymroddiad at y Gymraeg a diwylliant Cymru, ac at ddarparu cartref cyfoes a chyffrous i do newydd o fyfyrwyr sydd wedi dewis ymuno gyda ni yma yn Aberystwyth, a phrofi rhagoriaeth academaidd ein Prifysgol, mewn cymuned lle mae’r Gymraeg yn iaith naturiol dydd i ddydd. Mae’n gyfle hefyd i ni gydnabod a diolch i bawb a gyfrannodd at hanes cyfoethog y neuadd unigryw hon, yn fyfyrwyr, yn gyn-fyfyrwyr, yn gyfeillion ac yn aelodau staff, ac sydd wedi chwarae eu rhan wrth wireddu’r freuddwyd o ail-agor Pantycelyn.”

Dywedodd Kirsty Williams: “Mae Neuadd Pantycelyn yn adeilad eiconig o fewn y gymuned Gymraeg ei hiaith ac mae wedi bod yn rhan o wead yr iaith yn lleol ers degawdau, yn ogystal â bod yn bair o dalent i fyfyrwyr sy'n mynd ymlaen i chwarae rhan bwysig yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

“Fel rhan o'n nod i gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rydym am ddatblygu addysg ôl-orfodol sy'n cefnogi pobl i ddatblygu sgiliau yn y Gymraeg i'w defnyddio'n gymdeithasol a thrwy gydol eu gyrfaoedd. Mae Pantycelyn, a chymuned ehangach Aberystwyth, yn bwysig wrth feithrin y defnydd o'r Gymraeg ym mhob sefyllfa a chan bawb sy’n medru rhywfaint o’r iaith.

“Rwy’n falch iawn o allu cefnogi adnewyddiad Neuadd Pantycelyn ac edrychaf ymlaen at weld hwn yn gartref i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith am flynyddoedd lawer i ddod.”

Gydag ailagor y Neuadd, mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) yn dychwelyd i’r neuadd gan ymgartrefu mewn swyddfa newydd sbon lle bydd cymorth a chyngor i fyfyrwyr ar gael, a rhaglen lawn o weithgareddau yn cael ei threfnu.

Dywedodd Moc Lewis, Llywydd UMCA: “Mae ail agor Pantycelyn yn gam pwysig iawn i bawb yma ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae’r cyfleusterau yn y neuadd newydd yn wych. Fel llais y myfyrwyr, mae’n bwysig i ni fod swyddfa UMCA yma yn y Neuadd fel ein bod yn rhan o’i bywyd dyddiol ac yn cefnogi’r gymuned bwysig hon. Rydym yn ymwybodol iawn o gyfraniad anhygoel y Neuadd dros y degawdau; ein tro ni yw hi nawr i lunio’r bennod nesaf, ac mae heddiw yn ddechrau cyffrous i’r bennod honno yn hanes Pantycelyn.”

Agorwyd Pantycelyn am y tro cyntaf yn 1951 fel neuadd i fechgyn a daeth yn Neuadd Gymraeg ym 1974.

Ar hyd y blynyddoedd profodd cymuned Pantycelyn yn feithrinfa greadigol lenyddol a cherddorol heb ei hail, gyda llu o awduron a beirdd llwyddiannus ymhlith ei chyn breswylwyr, yn ogystal â bandiau sydd wedi gwneud eu marc ar y byd roc a phop Cymraeg.

Fe fu’r neuadd yn gartref i’r hanesydd blaenllaw ac awdur Hanes Cymru, y diweddar Dr John Davies Bwlchllan, a fu’n warden yno rhwng 1974 a 1992.

Daeth Pantycelyn i amlygrwydd rhyngwladol yng ngwanwyn 1969, wrth iddi ddod yn gartref i’r Tywysog Siarl. Daeth y Tywysog i Brifysgol Aberystwyth i astudio’r Gymraeg cyn ei arwisgiad ddechrau Gorffennaf 1969. Ymddangosodd y Neuadd yng nghyfres 3 o’r gyfres Netflix boblogaidd, The Crown a ryddhawyd yn hydref 2019.