Prif Weinidog yn dathlu 10 mlynedd o fuddsoddi er mwyn adeiladu economi gwyrddach

Ymchwilwyr BEACON wrth eu gwaith

Ymchwilwyr BEACON wrth eu gwaith

14 Hydref 2020

Bydd Prif Weinidog Cymru yn ymuno ag arbenigwyr bio-ymchwil a thechnoleg mewn prifysgolion a chynrychiolwyr diwydiant arloesol mewn digwyddiad rhithiol yfory (dydd Iau, 15fed Hydref) i nodi deng mlynedd o fuddsoddi mewn swyddi gwyrdd.

Bydd y digwyddiad yn dathlu degawd o gynllun BEACON, sy’n hybu cydweithio er mwyn tyfu’r economi a chreu swyddi gwyrdd. Ers ei lansio yn 2010, mae prosiect £30M+ BEACON a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd wedi adeiladu sylfaen sgiliau gref yn y sector bio-fusnes, trwy ddarparu cefnogaeth Ymchwil a Datblygu cydweithredol i fusnesau gwyrdd o Gymru; a lleoli Cymru fel arweinydd byd mewn ymchwil ac arloesi o'r radd flaenaf yn yr economi carbon isel.

Mae datblygu cynhyrchion a gwasanaethau sy'n gynaliadwy yn helpu Cymru i gyrraedd targedau rhyngwladol ar gyfer mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac ailgylchu.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Rwy'n falch ein bod wedi gallu cefnogi estyniad prosiect BEACON + yng Nghymru am ddwy flynedd arall. Bydd hyn yn galluogi hyd yn oed mwy o fusnesau i arloesi gyda chymorth arbenigwyr a manteisio ar yr economi bio. Bydd hyn yn helpu Cymru i adeiladu ein harbenigedd ein hunain yn y maes hwn.

“Tra ein bod yn delio â’r pandemig coronafeirws, rhaid inni edrych tuag at sut y byddwn yn adeiladu Cymru mwy gwydn, gwyrddach a chyfartal i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd ac amgylcheddol. Mae ymchwil rhagorol BEACON a BEACON + i ynni adnewyddadwy a thechnolegau cynaliadwy, ynghyd â’u cydweithio â busnesau, yn rhan hanfodol o fframwaith cynaliadwy Cymru.”

Mae BEACON yn gydweithrediad dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth, gyda Phrifysgolion Bangor ac Abertawe a Phrifysgol De Cymru

Mae tîm BEACON wedi'i leoli mewn pedwar safle prifysgol ac wedi bod yn darparu arbenigedd Ymchwil a Datblygu i gefnogi busnesau bio-arloesol ledled Cymru ers 10 mlynedd.

Mae'r pwyslais ar ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau gwyrdd newydd o ffynonellau naturiol a chreu gwerth ychwanegol o wastraff a gweddillion o brosesau bio-ddiwydiannol.

Ymhlith y cynhyrchion mae bio-blastigau, ychwanegion bwyd, deunyddiau adeiladu, tanwydd, colur a deunyddiau fferyllol.

Mae BEACON wedi gweithio'n llwyddiannus gyda channoedd o gwmnïau, gan eu galluogi i ddatblygu a threialu syniadau ar raddfa ddiwydiannol, ac i gael eu cynhyrchion a'u gwasanaethau yn agosach at y farchnad.

Dywedodd yr Athro Iain Donnison Cyfarwyddwr BEACON: “Mae heriau byd-eang fel yr angen i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a defnyddio adnoddau naturiol yn fwy cynaliadwy yn mynnu bod angen i ni fod yn gweithredu nawr, a dros y degawd nesaf yn benodol, i ddod o hyd i amnewidion ar gyfer tanwydd ffosil, lleihau gwastraff a chyflawni allyriadau carbon net sero.

“Mae tîm BEACON a’r busnesau sy'n cydweithredu yn rhannu nod cyffredin o weithio tuag at yr amcanion hyn ac i greu economi di-wastraff.

“Mae'r cyfnod heriol presennol yn rhoi cyfle inni adeiladu ymhellach ar y sylfaen gadarn hon, ac adeiladu'n ôl yn wyrddach ac yn well, i greu economi fwy cynaliadwy i ni'n hunain nawr a hefyd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. ”