Adroddiad gwyddonol yn tynnu sylw at heriau cyrraedd targedau di-garbon net y DU ar gyfer da byw

02 Hydref 2020

Mae adroddiad annibynnol sy'n asesu dwysedd carbon holl systemau cynhyrchu da byw'r DU wedi nodi na all technolegau sydd ar gael ar hyn o bryd gyrraedd hyd yn oed hanner targed y diwydiant ar gyfer lleihau allyriadau carbon erbyn 2050.

Pam na all DA fyth gyrraedd ei lawn botensial heb gorff corfforol

06 Hydref 2020

Yn ysgrifennu yn The Conversation, mae Dr Mark Lee, Athro Emeritws mewn Cyfrifiadureg, yn trafod ymchwil ym maes newydd roboteg ddatblygiadol sy'n archwilio sut y gall robotiaid ennill ymdeimlad o hunan trwy ddysgu o'r dechrau, fel babanod.

Astudiaeth yn amlygu sut gall annog adfywiad naturiol coedwigoedd liniaru ar effeithiau newid hinsawdd

12 Hydref 2020

Dylid ystyried caniatáu i goedwigoedd dyfu'n ôl yn naturiol ochr yn ochr â mesurau eraill fel plannu coed ar raddfa eang fel dull critigiol yn seiliedig ar natur i liniaru newid hinsawdd, yn ôl astudiaeth newydd o bwys sy'n mapio cyfraddau cronni carbon drwy aildyfiant coedwigoedd ledled y byd.

Prifardd yn cael ei phenodi’n Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth

13 Hydref 2020

Mae’r Prifardd Mererid Hopwood wedi ei phenodi’n Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Prif Weinidog yn dathlu 10 mlynedd o fuddsoddi er mwyn adeiladu economi gwyrddach

14 Hydref 2020

Bydd Prif Weinidog Cymru yn ymuno ag arbenigwyr bio-ymchwil a thechnoleg mewn prifysgolion a chynrychiolwyr diwydiant arloesol mewn digwyddiad rhithiol yfory (dydd Iau, 15fed Hydref) i nodi deng mlynedd o fuddsoddi mewn swyddi gwyrdd.

Gwobr ‘seren y dyfodol’ i academydd o Aberystwyth am ei brosiect bwyd cynaliadwy

15 Hydref 2020

Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth yn un o ‘ser y dyfodol’ ym maes bwyd cynaliadwy yn ôl UKRI, prif gorff cyllido ymchwil ac arloesedd y DU.

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Gŵyl Dewi Prifysgol Aberystwyth

16 Hydref 2020

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi anrhydeddu unigolion am eu cyfraniad at y Gymraeg. 

Academyddion bwyd praffaf i gael eu hyfforddi yn Aberystwyth wedi llwyddiant grant

16 Hydref 2020

Bydd bwyd mwy fforddiadwy a chynaliadwy ar y fwydlen diolch i grant mawr i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr systemau bwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Penodi cwmni dylunio er mwyn ailddatblygu’r Hen Goleg Aberystwyth

16 Hydref 2020

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi penodi cwmni dylunio atyniadau i ymwelwyr Mather & Co i helpu datblygu Hen Goleg eiconig Prifysgol Aberystwyth, un o adeiladau mwyaf rhyfeddol Gradd I Cymru, a chartref Coleg Prifysgol cyntaf Cymru, yn ganolfan ar gyfer diwylliant, treftadaeth, darganfod, dysgu a menter.

Darganfyddiad bioleg genom gan dîm rhyngwladol yn hwb i fio-ynni a thaclo newid hinsawdd

28 Hydref 2020

Bydd ffynonellau ynni biomas newydd yn cael eu datgloi diolch i ddilyniannu genom planhigyn arloesol gan dîm o wyddonwyr, gan gynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth.

Gwobrau llenyddol a'r broblem gyda diwydiant cyhoeddi'r DU

30 Hydref 2020

Yn ysgrifennu yn The Conversation mae Dr Jamie Harris o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, yn trafod crynhoad pŵer cyhoeddi’r DU o hyd ym mhrifddinas Lloegr a sut mae meini prawf dethol Booker yn anfantais i’r rhai sy’n byw y tu allan i Lundain.