Penodi cwmni dylunio er mwyn ailddatblygu’r Hen Goleg Aberystwyth

Hen Goleg

Hen Goleg

16 Hydref 2020

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi penodi cwmni dylunio atyniadau i ymwelwyr Mather & Co i helpu datblygu Hen Goleg eiconig Prifysgol Aberystwyth, un o adeiladau mwyaf rhyfeddol Gradd I Cymru, a chartref Coleg Prifysgol cyntaf Cymru, yn ganolfan ar gyfer diwylliant, treftadaeth, darganfod, dysgu a menter.

Rôl Mather & Co fydd dehongli elfennau dylunio ac adeiladu'r prosiect. Mae'r rhain yn cynnwys tair oriel arddangos barhaol sy'n cyflwyno treftadaeth gyfoethog yr adeilad a chasgliadau'r Brifysgol, Amgueddfa Brifysgol fydd yn adrodd stori'r brifysgol a’i pherthynas agos â'r gymuned a mannau arddangos dros dro a dehongli a chyfeirio ymhellach trwy'r adeilad.

Meddai Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol:

“Mae’n addas iawn bod y cyhoeddiad hwn yn dod heddiw ar Ddiwrnod y Sylfaenwyr, wrth i ni nodi pen-blwydd agor drysau’r Brifysgol am y tro cyntaf ym mis Hydref 1872 a dathlu ein Sylfaenwyr a phawb sydd wedi gwneud Aberystwyth yn Brifysgol a thref mor arbennig, gan gynnwys ein cymuned fyd-eang o 60,000 o gyn-fyfyrwyr. Rydym yn falch iawn o weithio gyda Mather & Co ar y prosiect cyffrous hwn. Mae'r Hen Goleg yn un o'r adeiladau hanesyddol mwyaf adnabyddus yng Nghymru a nod y cynlluniau i ail-bwrpasu'r adeilad yw darparu adnodd gwych i'r Brifysgol, y dref ac i ymwelwyr fel ei gilydd. Gan weithio gyda Mather & Co mae gennym gyfle gwych i ddatblygu profiad ymwelwyr cyfareddol yn yr adeilad eiconig hwn gan arddangos taith y Brifysgol a chynnal arddangosfeydd ysbrydoledig.”

Ychwanegodd Paul Lee, Cyfarwyddwr Dylunio Mather & Co:

“Rydyn ni wrth ein bodd bod Mather & Co wedi cael ei ddewis i weithio ar brosiect mor fawreddog a fydd yn trawsnewid glan y môr Aberystwyth. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r tîm prosiect ehangach i wireddu'r weledigaeth a dod â defnydd newydd i'r gofod hanesyddol hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Bydd yr Hen Goleg ar ei newydd wedd hefyd yn cynnwys sioeau gwyddoniaeth gyhoeddus, rhaglen arddangos dros dro flynyddol, siambr drafod newydd, unedau menter busnes, caffi glan môr a bwyty bar newydd, ynghyd â lle adwerthu. Bydd cyfleusterau eraill yn cynnwys ystod eang o ystafelloedd aros a gofod ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau, cyfleusterau addysgu ac ar gyfer ysgolion, a gofod astudio myfyrwyr 24 awr. Bydd gofodau astudio myfyrwyr newydd a chyfleusterau dysgu gydol oes yn cael eu hintegreiddio i'r holl ofodau.

Yn gynharach eleni, dyfarnwyd bron i £10 miliwn (£9,732,300) o arian y Loteri Genedlaethol i brosiect Bywyd Newydd i’r Hen Goleg i helpu i'w adnewyddu. Bydd £3 miliwn ychwanegol hefyd yn cael ei fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru a £3 miliwn o Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy'r rhaglen Cyrchfan Deniadol i Dwristiaeth i hyrwyddo'r cyfleoedd twristiaeth newydd a ddaw yn sgil ei ailddatblygiad.  Dyfarnwyd  hefyd £957,000  o gymorth WEFO ERDF ar gyfer yr unedau busnes creadigol.

Eisoes codwyd £1 miliwn ar gyfer apêl yr ​​Hen Goleg drwy roddion ac addewidion o bedwar ban byd, gan gynnwys cyfraniadau Diwrnod y Sylfaenwyr gwerth £15,000 gan Gymdeithas y Cyn Fyfyrwyr a rhoddion gan ymdrechion codi arian dan arweiniad myfyrwyr mewn Clybiau a Chymdeithasau. Codwyd £1 miliwn arall o ymddiriedolaethau a sefydliadau.

Bydd y codi arian yn parhau hyd nes y bydd y gwaith o adnewyddu’r adeilad wedi'i gwblhau erbyn 2022/23, wrth i'r Brifysgol ddathlu ei phen-blwydd yn 150 oed.