Academyddion o Aberystwyth yn cael eu dewis ar gyfer rhaglen ymchwil uchel ei bri 

Dr Praboda Rajapaksha, Dr Yasir Saleem Shaikh, Dr Thomas Wilson

Dr Praboda Rajapaksha, Dr Yasir Saleem Shaikh, Dr Thomas Wilson

14 Mai 2026

Mae tri academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi’u dewis i ymuno â rhaglen datblygiad proffesiynol uchel ei bri sy’n cefnogi arweinwyr ymchwil sy’n dod i’r amlwg.

Mae Dr Praboda Rajapaksha a Dr Yasir Saleem Shaikh, ill dau o’r Adran Gyfrifiadureg, ynghyd â Dr Thomas Wilson o Adran y Gwyddorau Bywyd, ymhlith carfan fechan a ddewiswyd i gymryd rhan yn rhaglen eleni.

Mae Crwsibl Cymru yn rhaglen sy’n dod ag ymchwilwyr o wahanol ddisgyblaethau a sefydliadau ynghyd i feithrin cydweithrediadau newydd, datblygu sgiliau arwain ac ystyried dulliau arloesol o fynd i’r afael â heriau cymdeithasol mawr sy’n wynebu Cymru a thu hwnt.

Mae Dr Praboda Rajapaksha yn Ddarlithydd Gwyddor Data Iechyd, ac mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar wyddor data, deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol, gyda diddordebau penodol mewn prosesu iaith naturiol, DA cynhyrchiol a thechnolegau gefeilliaid digidol. Ar hyn o bryd mae’n cydweithio â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ymchwilio i sut y gellir defnyddio technolegau gefeilliaid digidol i drawsnewid y ffordd y darperir gofal iechyd i gleifion ledled y canolbarth a’r gorllewin. Mae hi hefyd yn cydweithio ag IBERS ar brosiectau diagnosio iechyd planhigion gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial.

Mae Dr Yasir Saleem Shaikh, sy’n Ddarlithydd Cyfrifiadureg, yn cynnal ymchwil ar ddinasoedd clyfar, rhwydweithiau cerbydau a diwifr, systemau trafnidiaeth deallus, cadw preifatrwydd a'r Rhyngrwyd Pethau. Mae ei waith yn cwmpasu’r haenau o raglenni a rhwydweithiau sy’n gysylltiedig â seilwaith digidol newydd, ac mae wedi cyfrannu at ymchwil ryngwladol ar systemau cysylltiedig ac annibynnol, symudedd trefol cynaliadwy a thechnolegau cyfathrebu'r dyfodol.

Mae Dr Thomas Wilson yn ymchwilydd yn Adran y Gwyddorau Bywyd sy'n arbenigo mewn metabolomeg sy'n seiliedig ar sbectrometreg màs. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall y cysylltiadau rhwng diet, metaboledd ac iechyd, gan ddefnyddio technegau uwch i wella’r dulliau asesu maeth, a nodi biofarcwyr cymeriant dietegol a heneiddio.

Dywedodd yr Athro Angela Hatton, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Rydym yn falch iawn o weld tri o'n hacademyddion yn cael eu dewis ar gyfer y cynllun gwerthfawr ac uchel ei barch hwn. Mae'n cynnig cyfle arbennig i arweinwyr ymchwil sy'n dod i'r amlwg ddatblygu ffyrdd rhyngddisgyblaethol o feddwl, meithrin rhwydweithiau parhaol ac ystyried ffyrdd newydd o fynd i'r afael â heriau cymdeithasol cymhleth. Mae cael eu dewis nid yn unig yn tystio i’w rhagoriaeth unigol, ond hefyd yn adlewyrchu traddodiad cryf Prifysgol Aberystwyth o wthio ffiniau gwybodaeth drwy ymchwil sydd gyda’r gorau yn y byd, sy’n newid bywydau er gwell ac yn cryfhau Cymru a’r byd ehangach.”

Bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai preswyl dwys ochr yn ochr ag ymchwilwyr o brifysgolion a sefydliadau ymchwil ledled Cymru.

Mae Crwsibl Cymru yn fenter a ariennir gan gonsortiwm o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.