Llyfr newydd yn trafod gwreiddiau esblygol ymddygiad bob dydd

14 Hydref 2026

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi llyfr newydd sy'n taflu goleuni ar pam mae pobl yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn fel y maent.

Mae ‘Psychology of Everyday Life:  An Evolutionary Approach'yn trafod profiadau dynol cyffredin trwy lens seicoleg esblygol. 

Gan edrych ar bynciau sy'n amrywio o berthnasoedd, hiwmor a bywyd teuluol i grefydd, chwarae, cerddoriaeth, bwyd, y cyfryngau a thechnoleg, mae'r llyfr yn ystyried ymddygiadau a phrofiadau sy'n gyfarwydd i bobl ar draws diwylliannau, gan ddatgelu sut mae esblygiad dynol yn parhau i ffurfio bywyd cyfoes. 

Gan ddefnyddio syniadau o feysydd seicoleg, bioleg ac anthropoleg, mae'r llyfr wedi'i ysgrifennu ar y cyd gan Dr Gil Greengross a'r Athro Nigel Holt o Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth, a'r Athro Lance Workman, Athro Gwadd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol De Cymru.

O fewn y penodau, mae'r awduron yn esbonio sut mae mecanweithiau seicolegol a esblygodd yn ein gorffennol hen yn parhau i ddylanwadu ar ymddygiad a phenderfyniadau yn y cyfnod modern, gan gynnig safbwyntiau newydd i ddarllenwyr ar rai o gwestiynau mwyaf cyfarwydd bywyd.

Dywedodd Dr Gil Greengross, Uwch Ddarlithydd Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Mae'r llyfr hwn yn dod â degawdau o waith ymchwil at ei gilydd i ddangos sut y gall meddwl yn esblygol ein helpu i ddeall ein hunain a'r bobl o'n cwmpas yn well.  Pam rydyn ni'n dewis partneriaid penodol?  Pam rydyn ni'n mwynhau hiwmor, cerddoriaeth a straeon?  Pam mae perthnasoedd teuluol mor bwysig i ni?

"Trwy gymryd persbectif esblygol, gallwn weld bod llawer o ymddygiadau sy'n ymddangos yn unigryw fodern yn aml yn ymatebion i heriau a wynebodd ein hynafiaid dros filoedd o genedlaethau.  Gall deall y tarddiad hynny roi dealltwriaeth werthfawr i ni i'r o’r ffordd rydyn ni'n byw heddiw."

Ychwanegodd Nigel Holt, Athro Seicoleg:

"Ein nod oedd gwneud seicoleg yn ddiddorol, yn berthnasol ac yn hygyrch heb aberthu cywirdeb gwyddonol.  Roedden ni eisiau ysgrifennu llyfr sy'n dangos sut y gall seicoleg esblygol helpu i esbonio profiadau bob dydd, ac annog darllenwyr i feddwl yn wahanol am ymddygiad dynol.

"Er y bydd y llyfr yn arbennig o werthfawr i fyfyrwyr seicoleg israddedig, mae wedi'i ysgrifennu ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn deall eu hunain, y bobl o'u cwmpas, a'r wyddoniaeth y tu ôl i fywyd bob dydd."

Mae'r cyhoeddiad yn adlewyrchu diddordebau ymchwil ac addysgu hirsefydlog yr awduron mewn seicoleg esblygol ac ymddygiad dynol, gan ddod â dealltwriaeth o sawl disgyblaeth ynghyd ar gyfer myfyrwyr a darllenwyr cyffredinol.

CyhoeddwydPsychology of Everyday Life:  An Evolutionary Approach ar 14 Hydref 2026 gan Routledge.

 

AU22326