Pedwar Peth
5 Rhagfyr 2025
Hir yw pob aros.
Mae’r gwaith ar fin dechrau ar sinema newydd o'r radd flaenaf a fydd yn rhan o’r parth Byd Gwybodaeth.
Wrth i waliau a nenfydau ffug gael eu tynnu i lawr gan ddatgelu rhai o nodweddion gwreiddiol yr Hen Goleg, daeth cromen drawiadol i'r golwg uwchben hen Theatr Ddarlithio'r Celfyddydau yn Ne Seddon.
Bydd y theatr ddarlithio yn cael ei thrawsnewid yn sinema newydd a’i henwi ar ôl cyn-fyfyriwr a ddechreuodd ei yrfa academaidd yma.
Yn wreiddiol o Drefin yn Sir Benfro, graddiodd Dr Rhidian Lawrence gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Ffiseg ym 1962.
Yn y ffotograff du a gwyn a dynnwyd pan oedd yn fyfyriwr doethuriaeth yng ngrŵp ymchwil tonnau sioc y Brifysgol, gwelir Rhidian yn sefyll ac yn gwenu â’u freichiau wedi'u plethu.
Roedd yn arbenigwr ar dechnoleg laser, a bu'n gweithio i gwmnïau awyrofod yn Alabama a Seattle, a'r Weinyddiaeth Gefnforol ac Atmosfferig Genedlaethol yn Colorado yn ystod gyrfa o bron i 40 mlynedd.
Bu farw Rhidian yn 2023. Mae ei gymynrodd hael i Brifysgol Aberystwyth yn ariannu myfyrwyr PhD yn yr Adran Ffiseg a'r Ganolfan Wyddoniaeth yn yr Hen Goleg, lle bydd eitemau hanesyddol o'r casgliad Ffiseg yn cael eu rhannu gyda'r cyhoedd.
Mae’n cynnwys yr arbrawf hiraf o ran amser yn y byd o bosibl, sef yr Arbrawf Diferu Pyg, a ddechreuwyd gan G.T. R. Evans ar 23 Ebrill, 1914.
Mae'r arbrawf, y tynnwyd llun ohono gan y ffotograffydd Rolant Dafis, yn un o'r 150 o eitemau sydd i’w gweld yn ‘Ceiniogau’r Werin’ a gyhoeddwyd i nodi pen-blwydd y Brifysgol yn 150 oed yn 2022.
Er bod arbrofion diweddarach tebyg wedi cynhyrchu diferion, amcangyfrifir na fydd arbrawf Aberystwyth yn cynhyrchu diferyn am o leiaf 1000 o flynyddoedd.
Ymddengys y gallem ni fod yma am beth amser...
Yn y cyfamser, os oes gennych chi funud ac yr hoffech chi ein helpu ni i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer yr Hen Goleg, un o dirnodau pensaernïol mawr y Deyrnas Gyfunol, cliciwch ar y ddolen isod i Apêl Nadolig yr Hen Goleg.
Dolenni diddorol:
28 Tachwedd 2025
Dewch dan ddaear.
Mae seler yr Hen Goleg yn ymestyn bron o un pen o'r adeilad i’r llall.
Yma mae'r gwasanaethau sydd eu hangen mewn adeilad sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif yn cael eu gosod.
Mae'r ffenestri newydd yn seler adeilad Ferguson, gafodd ei agor yn 1898, a’r waliau o’u hamgylch wedi'u hadfer yn unol â statws rhestredig Gradd 1 yr Hen Goleg.
Mae ystafelloedd yma wedi'u neilltuo ar gyfer Argraffwyr Aberystwyth sydd ar hyn o bryd ar gampws Gogerddan.
Yn adroddiad blynyddol yr Adran Amaeth o 1893/4, y cyfeiriwyd ato yn ein post blaenorol, mae cyfeiriad at wneud caws.
Sefydlwyd Ysgolion Llaeth Teithiol ym 1891 i wella'r ffordd y cynhyrchwyd menyn a chaws.
Gallai myfyrwyr hefyd fynychu'r Brifysgol am chwe wythnos i ddilyn cwrs Addysg Uwch mewn llaethyddiaeth.
Erbyn 1893 roedd y Brifysgol wedi neilltuo pedair ystafell yn seler yr Hen Goleg lle byddai’r myfyrwyr yn cynhyrchu chwe math o gaws - Caerffili, Stilton, Cheddar, Camembert, Gervais a Coulommier.
Byddai'r gwaith yn dechrau ym mis Ebrill ac, yn ôl pob golwg, roedd rhaid diffodd y gwres ar gyfer yr adeilad cyfan i atal y caws rhag toddi.
Ar ôl tyfu'n rhy fawr i'r Hen Goleg, adeiladwyd Adran Laeth bwrpasol gan y Brifysgol yn 1937 yn Llangawsai (enw addas!) ar Ffordd Llanbadarn (gweler y llun du a gwyn).
Mae stori hyfforddiant llaeth i’w gweld yn ‘Ceiniogau’r Werin, Prifysgol Aberystwyth mewn 150 gwrthrych’ a gyhoeddwyd yn 2022 i nodi pen-blwydd y Brifysgol yn 150 oed.
21 Tachwedd 2025
Drychwch be’ ni ‘di ffindio!
Mae ein contractwyr yn parhau i ddod o hyd i eitemau sy'n adlewyrchu hanes hynod cartref coleg prifysgol cyntaf Cymru.
Tra’n gweithio mewn ystafelloedd ger y Cwad, daeth pedair dogfen i'r amlwg; prosbectws o 1892-93, adroddiad yr Adran Amaeth o 1893-94, Trafodion Cymdeithas Anrhydeddus y Cymrodorion o 1968 a chopi o Questions on Herodotus o 1824.
Mae'r prosbectws yn cyfeirio at y penderfyniad i gymeradwyo’r Brifysgol fel ‘Coleg Hyfforddi Dydd’ i fyfyrwyr gwrywaidd a benywaidd gan Arglwyddi Pwyllgor y Cyngor Addysg.
Mae "safle'r Coleg" (Yr Hen Goleg) yn cael ei disgrifio fel lle "helaeth, ac wedi'i addasu'n dda at ddibenion addysgol", ac Aberystwyth fel "lle dymunol i fyw” ac “adnabyddus fel cyrchfan iechyd".
Ymhlith y “Swyddogion” mae’r Pennaeth, Thomas Francis Roberts (Groeg), H Lloyd Snape (Cemeg), Edward Annwyl (Cymraeg) a Miss E A Carpenter, Pennaeth y Neuadd Breswyl i Fyfyrwyr Benywaidd.
Un arall sydd yma yw’r Dr Herman Ethé sy’n cynnig Hebraeg, Arabeg, Syrieg, Sansgrit, Almaeneg, Ffrangeg ac Eidaleg.
Mae troednodyn yn nodi y byddai Dr Ethé yn fodlon darllen Ieithoedd eraill o’r dwyrain gyda myfyrwyr.
Cafodd Ethé ei erlid o Aberystwyth ym mis Hydref 1914 gan dorf ddig oedd yn chwilio am ddinasyddion o’r Almaen yn dilyn dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Diddorol nodi fod y ddelwedd ar y clawr yn adlewyrchu gweledigaeth y pensaer J P Seddon ar gyfer yr Hen Goleg a’i ailddatblygiad ar ôl tân 1885.
Rhoddodd y Brifysgol derfyn ar wasanaethau Seddon ym 1891 am resymau cost cyn cyflogi C J Ferguson o Gaerliwelydd.
Aeth Ferguson ymlaen i ddymchwel Tŷ'r Castell, a ddyluniwyd gan Nash, ac adeiladu bloc pedwar llawr newydd yn ei le.
Agorwyd hwn, a oedd yn gartref i swyddfeydd y Pennaeth, y Cofrestrydd, gweinyddwyr y coleg ac adrannau Amaethyddiaeth, Sŵoleg a Botaneg, yn 1898.
Ferguson hefyd ddyluniodd neuadd breswyl gyntaf y Brifysgol i fyfyrwyr benywaidd, Neuadd Alexandra, gafodd ei hagor ym mis Mehefin 1896 gan Dywysoges Cymru, Alexandra o Ddenmarc.
14 Tachwedd 2025
Dyna wahaniaeth mae blwyddyn yn ei wneud!
Mae ychydig dros ddeuddeg mis ers i ni nodi cwblhau'r gwaith o gloddio seler yr atriwm newydd.
Mae’r atriwm yn allweddol ar gyfer agor yr Hen Goleg ar bob lefel gan wneud yr adeilad yn hygyrch i bawb am y tro cyntaf erioed.
Gan weithio mewn gofod cyfyng iawn ac yn ofalus o'r effaith ar ein cymdogion agos, mae ein contractwyr wedi gwneud cynnydd rhagorol a newydd gyrraedd y seithfed lefel, y to.
Y cam nesaf fydd gosod grisiau concrit sydd wedi eu castio ymlaen llaw a’u gostwng i'w lle gan graen.
Yn dilyn hynny daw’r gwaith dur a fydd yn lwyfan ar gyfer yr ystafell ddigwyddiadau newydd drawiadol â’i ffenest wydr fawr a golygfeydd godidog dros Fae Ceredigion.
Yna bydd yr atriwm yn cael ei gapio â 'tho gwyrdd'.
Yn y cyfamser, mae’r gwaith o gysylltu'r atriwm â Gogledd Seddon wedi dechrau gydag agor mynedfa newydd ar y llawr gwaelod wrth gefn yr Hen Neuadd.
7 Tachwedd 2025
Er gwaetha’r tywydd, mae'r gwaith ar y to yn parhau.
To hirgrwn a thyredau'r hen ystafell biliards, ystafell gyffredin y myfyrwyr gwrywaidd, ac yn fwy diweddar siambr Cyngor y Brifysgol sydd nesaf.
Dyma fydd lleoliad y Ganolfan Ddeialog newydd. Mae lluniau cynnar o’r adeilad yn dangos bod ffenestr do yn rhan o’r to hirgrwn gwreiddiol.
Dinistriwyd yr adeilad gan dân yn 1885 a’i ailadeiladu heb y ffenestr. Bellach mae’r hen lechi wedi eu tynnu a ffelt a choed newydd yn eu lle.
Mae’r gwaith i atgyweirio fframiau pren y tyredau yn mynd rhagddo hefyd a da gweld bod llawer o'r coed gwreiddiol mewn cyflwr da.
Yn unol â statws rhestredig Gradd 1 yr Hen Goleg, bydd llechi glas o Chwarel y Penrhyn yng Ngwynedd yn cael eu gosod ar y to hirgrwn gan taw dyna’r chwarel fyddai wedi cyflenwi’r rhai gwreiddiol.
Nid yw llechu gwyrdd y tyredau, a oedd o Ddyffryn Nantlle fwy na thebyg, ar gael mwyach.
Felly, bydd llechi gwyrdd o Vermont yn New England, UDA yn cael eu defnyddio, fel y rhai a osodwyd ar dyredau De Seddon.
Mae cywreindra’r sgaffaldiau, sy'n gwneud yr holl waith hwn yn bosibl, yn amlwg unwaith eto.
31 Hydref 2025
Rydyn ni y tu mewn a'r tu allan yr wythnos hon.
Gyda'r to newydd yn ei le dros y Cwad, mae’r gwaith yn mynd rhagddo i adfer yr hen do gwydr.
Tynnwyd y to polycarbonad, a osodwyd yn ôl pob tebyg yn y 1980au neu'r 1990au, gan ddatgelu'r gwydr gwreiddiol sy’n amlwg wedi torri dros y blynyddoedd.
Mae’r hyn sy’n weddill o’r system pwli ar gyfer agor y nenfwd ar gyfer awyru’r Cwad ar ddiwrnodau heulog poeth i’w weld o hyd, er bod y rhaffau wedi hen fynd. Mae'r fentiau gwreiddiol yn parhau yn eu lle a byddant yn cael eu hadnewyddu.
Wrth edrych ar hyd y to, mae'r coed tywyll yn dyddio'n ôl i 1889/90 pan gafodd 'coridor y coleg' ei gau am y tro cyntaf. Y coed sydd wedi’u paentio’n wyn yw ffrâm y to polycarbonad. Bydd gwahanu'r ddau yn dipyn o dasg.
Ac ar y ddau ben, mae’r gwaith wedi dechrau ar y llwybrau cerdded newydd a fydd yn cynnig golygfa oddi uchod o nenfwd gwydr lliw y Cwad.
Yn ôl y tu allan, ac mae'r sgaffaldiau wedi bod yn dod i lawr ar De Seddon a’r ddwy fila Sioraidd.
Ac yn olaf, mae’r drudwy wedi dychwelyd ac yn gwneud yn fawr o’n craen a’r scaffaldiau!
24 Hydref 2025
Agorwch dipyn o gîl y drws!
Yr wythnos ddiwethaf bu’r Brifysgol yn dathlu Diwrnod y Sylfaenwyr ac agor ei drysau am y tro cyntaf.
Mae'n briodol felly ein bod yn trafod drws yr wythnos hon.
Yn sgil tynnu'r amryw waliau a choridorau a ychwanegwyd at yr Hen Goleg yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif daeth nifer o nodweddion pensaernïol cynharach i’r amlwg.
Ar y llawr gwaelod, ar hyd y coridor sy'n arwain at bwynt mwyaf deheuol yr Hen Goleg, canfuwyd hen ddrws.
Mae drysau tebyg yn y rhan hon o’r adeilad yn cynnwys ffenestri gwydr lliw trawiadol.
Yn ei weithdy yn yr Ystafell Seddon, mae'r saer treftadaeth Gary Davies wedi creu ffrâm ar gyfer y drws ‘newydd’ sy’n seiliedig ar y lleill.
Dyma’r cam diweddaraf yn ailddatblygiad De Seddon fel ardal astudio i fyfyrwyr, menter ac arloesi.
Daw cyfle eto i drafod gwydr lliw, ond am y tro mae'n bleser gweld bod y gwaith yn y rhan hon o’r Hen Goleg yn agos at ei gwblhau.
10 Hydref 2025
Celfyddyd y sgaffaldiau yw hi’r wythnos hon a chipolwg arall ar waith cydweithwyr o Rowecord Total Access Ltd.
Rob Jenkins, sgaffaldiwr gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn y maes, sy’n arwain y tîm.
Mae Rob wedi gweithio ar adeiladau o bob lliw a llun, o dai i burfeydd olew a phrosiectau treftadaeth megis Pont Gludo Casnewydd.
Yn gweithio gyda Rob mae (o'r chwith i'r dde) Craig Locke, Richard Newton, Matthew Davies, John Donne a Richard Cope.
Un o'r prif heriau i'r tîm fu adeiladu’r sgaffaldiau tra’n diogelu gwaith carreg gain yr Hen Goleg.
Yn rhyfeddol, mae hyn yn golygu nad yw'r sgaffaldiau prin yn cyffwrdd â thu allan yr adeilad o gwbl.
Wrth i'r gwaith fynd rhagddo, maent wedi parhau i addasu'r strwythur i ganiatáu i'r 70,000 o lechi ar y toeau niferus gael eu gosod ac adnewyddu neu ail osod yr 873 o ffenestri pren a metel.
Yn ogystal, mae’r gwaith carreg a'r gargoeliau a'r grotesgau sy'n addurno'r adeilad, ail-bwyntio'r ffasâd cerrig, adnewyddu’r 17 simnai, y to newydd dros y Cwad a'r atriwm saith llawr newydd.
Hyn oll diolch i Rob a'i dîm ymroddedig o sgaffaldwyr.
I ddarllen mwy am waith tîm sgaffaldiau'r Hen Goleg dilynwch y ddolen isod: https://www.aber.ac.uk/cy/oldcollege/news/news-article/title-284468-cy.html
3 Hydref 2025
Rydyn ni ar y sgaffaldiau eto'r wythnos hon, yn edrych ar ffenestri llyfrgell yr Hen Goleg.
Adeiladwyd y llyfrgell ar ôl tân mawr 1885 ac mae’n ofod trawiadol gyda'i nenfwd bwaog.
Yn uchel i fyny ac yn edrych dros y bae mae cyfres o ffenestri gwydr lliw.
Ar y tu allan, mae’r gwaith wedi dechrau i dynnu’r gwydr allanol sy’n diogelu’r gwydr lliw rhag y tywydd a gosod dalennau o bolycarbonad i’w hamddiffyn dros dro.
Yna bydd yn bosibl tynnu pob ffenestr gwydr lliw allan mewn un darn cyn iddynt gael eu pacio i'w hadfer.
Mae'r gwaith carreg sy'n amgylchynu'r ffenestri yn dangos bod yr adeilad wedi symud, hyd at 5 centimetr mewn mannau.
Er mwyn cywiro hyn gosodwyd trawst derw a rhodenni dur drwy fframiau'r ffenestri.
Gydag amser, mae'r trawst wedi pydru a’r rhodenni wedi rhydu, gan ddifrodi’r ffenestri.
Ar ôl tynnu'r trawst, bydd rhodenni dur ‘stainless’ yn cael eu gosod yn y gwaith carreg i sefydlogi'r adeilad cyn ail-osod y ffenestri.
Ac yn olaf, yr olygfa dros y ‘tŵr’ a fwriadwyd gan y pensaer J P Seddon ond na chafodd ei gwblhau.
26 Medi 2025
Mae hi ychydig yn oerach i fyny ar y to y dyddiau hyn â ninnau ar drothwy’r hydref.
I fyny uwch law Stryd y Brenin, ac mae’r saith talcen ar adeilad Gogledd Seddon yn cael eu hadnewyddu gan gydweithwyr o Stoneguard Northern.
Yn goron ar bob un mae pinacl tair deilen.
Mae'r saith wedi ildio ers tro i effeithiau'r gwynt, y glaw a'r heli, â rhai newydd yn cael eu gosod yn eu lle.
Fodd bynnag, nid yw'r hen garreg yn cael ei thaflu. Mae rhai o'r pinaclau gwreiddiol yn cael eu torri o’r newydd a’r garreg yn cael ei defnyddio unwaith eto.
Nid yw effaith y gwynt i fyny yma yr hyn y byddai rhywun wedi'i ddisgwyl.
Wrth edrych ar y cerrig eraill ar y talcenni gellir gweld sut mae'r rhai sy'n wynebu i ffwrdd o'r gwyntoedd de-orllewinol yn aml wedi dioddef mwy wrth i’r gwynt droi a throelli dros ac o amgylch to cymhleth yr Hen Goleg.
Yn olaf, roedd hyd yn oed y dur oedd yn atgyfnerthu’r gwaith maen gwreiddiol wedi mynd i ben.
Gydag amser ac effaith y tywydd bydd y garreg newydd yn ymdebygu i’r hyn oedd yna gynt, gan gadw estheteg yr adeilad rhyfeddol rhestredig Gradd 1 hwn.
19 Medi 2025
Rydyn ni'n ôl yn y filas Sioraidd yr wythnos hon.
Mae'r pen-blastrwr Gary Jones wedi bod yn adfer y rhosyn ar nenfwd y grisiau yn fila 2 yn ofalus.
Ers i ni bostio ddiwethaf am y filas, mae’n ymddangos iddynt gael eu hadeiladu cyn 1811 fel yr ydym wedi sôn o’r blaen.
Yn ei lyfr 'Born on a Perilous Rock - Aberystwyth past and present', a gyhoeddwyd gan y Cambrian News ym 1980, mae W J Lewis yn cyfeirio at "ddau dŷ mawr o'r enw 'Mount Pleasant' a oedd yn gartref i ymwelwyr" ar y safle ym 1807.
Dros 200 mlynedd yn ddiweddarach, ac mae Gary o G.J.Plastermouldings a'r tîm o Lime Plastering Wales yn adfer y gwaith plastr cymhleth gan ddefnyddio technegau traddodiadol.
Ar ôl tynnu a glanhau'r hyn oedd ar ôl o'r rhosyn gwreiddiol, gwnaed mowldiau o'r hyn a achubwyd i greu nodweddion newydd sy'n union yr un fath â'r gwreiddiol.
Eu hunig gonsesiwn i dechnegau modern yw'r ffordd y mae'r mowldiau'n cael eu gwneud. Lle byddai cwyr neu gelatin wedi cael eu defnyddio yn y blynyddoedd a fu, defnyddir silicon heddiw.
Ac felly y crëwyd hen rosyn newydd.
12 Medi 2025
Wrth i'r sgaffaldiau o amglych De Seddon ddechrau dod i lawr, daw rhywfaint o'r gwaith gorffenedig i’r golwg.
Y to fflat newydd cywrain o waith Greenough & Sons Roofing Contractors o Ynys Môn yw’r peth cyntaf.
Fel yr ydym wedi sôn o’r blaen, cafodd y to hwn ei adfer pan ailddatblygwyd y rhan hon o'r Hen Goleg fel bloc gwyddoniaeth ym 1886/7.
Y elfen nesaf i ymddangos fydd y mosaig a osodwyd ym 1887.
Y pensaer J P Seddon gomisiynodd ac a dalodd am y darn hwn o waith gan yr artist Charles F. A. Voysey.
Wedi'i wneud o wydr wedi'i ailgylchu wedi'i asio â thywod a phigmentiau, fe'i cynhyrchwyd gan Gwmni Mosaig Jesse Rust o Battersea.
Bu cryn ddadlau am y darn sydd, mae’n debyg, yn cynrychioli'r mathemategydd, ffisegydd, peiriannydd a seryddwr Groegaidd Archimedes.
Roedd y fersiwn wreiddiol yn cynnwys symbolau o’r offeiriadaeth a thiara pabaidd. Cafodd rhain eu tynnu'n oddi yno’n ddiweddarach.
Ac yna yn 1897 penderfynodd Pwyllgor Adeiladau’r Coleg waredu’r mosaic cyfan, ond roedd y gost yn ormodol.
5 Medi 2025
Mae’ n bryd dechrau gostwng y sgaffaldiau.
Yr wythnos hon oedd ein cyfle olaf i ddringo i fyny at dyrau De Seddon a gwerthfawrogi gwaith y crefftwyr cyn i’r sgaffaldiau gael eu gostwng.
Mae’r gwaith datgymalu wedi dechrau a bydd yn parhau yn ystod yr wythnosau nesaf wedi i’r manion olaf ar do fflat De Seddon gael eu cwblhau.
Mae’n werth oedi ychydig i ystyried anferthedd y sgaffaldiau ar yr Hen Goleg.
Mae sgaffaldwyr y prosiect, Rowecord Total Access, wedi dod â dros 400 tunnell o diwbiau dur i’r safle.
O’u gosod ben wrth gynffon, dyna 93 cilomedr o diwbiau - digon i gyrraedd o Aberystwyth i bencadlys ein prif gontractwr Andrew Scott yn Abertawe.
Mae yna hefyd 17,600 o estyllod a 138,000 o ffitiadau sgaffaldiau.
Dyna i chi set Meccano enfawr!
Mae hefyd yn fyd arall o’i gymharu gyda’r drefn pan yr oedd Thomas Savin yn adeiladu Gwesty’r Castell ganol y 1860au.
29 Awst 2025
Dewch yn agosach…
Welwch chi’r gylfinir…a’r broga? Neu ai llyffant yw e?
Ac mae rhagor…
Rydym wedi bod yn glanhau rhai o waliau allanol yr Hen Goleg yr wythnos hon.
Disgrifir blaen crwm ysblennydd yr Ystafell Seddon fel “un o ddyluniadau mwyaf gwreiddiol pensaernïaeth Fictoraidd” ac yn “gerflun” gan J Roger Webster yn ei lyfr ‘Old College Aberystwyth, The evolution of a High Victorian Building’.
Ond wrth edrych yn agosach ar rai o’r manylion, fe welwch waith carreg rhyfeddol o gain ar y pileri a’r bwâu sy’n fframio ffenestri’r hyn a fu’n gartref i amgueddfa’r Brifysgol.
Wedi 160 mlynedd o wynebu’r tywydd, mae’n hen bryd eu glanhau.
Mae gan Paul Marron o Stoneguard Northern dros 40 mlynedd o brofiad o lanhau adeiladau hanesyddol ledled y DU.
Mae Paul yn defnyddio TORC, proses lanhau a ddatblygwyd ar gyfer adeiladau hanesyddol, a DOFF sy’n defnyddio dŵr wedi’i gynhesu hyd at 140ºC i gael gwared ar haenau o faw tra’n diogelu ffabrig yr adeilad.
Maen nhw hefyd yn tynnu haenen o ‘slyri’ sydd wedi’i hychwanegu at y garreg ac sy’n cynnwys ocsid haearn, gan achosi iddi droi’n frown tywyll mewn rhai mannau.
22 Awst 2025
Rydyn ni wedi bod yn codi'r to!
Panel wrth banel, mae'r to gwydr newydd dros y Cwad wedi'i osod diolch i gydweithwyr o Whitesales a Davies Crane Hire.
Er gwaethaf ambell gwthwm o wynt, ers dydd Llun codwyd 34 o baneli gwydr yn ofalus dros adeilad Gogledd Seddon o ochr y promenâd a'u gostwng i'w lle.
Ychydig funudau yn unig oedd ei angen i godi pob panel i'w le diolch i fedrusrwydd a gwaith tîm gwych Randeep Sidhu a Dan Bradley o Whitesales a Dan Roberts o Davies Crane Hire (yn y llun).
Clod hefyd i yrwyr y craen James Williams o Davies Crane Hire am ei gywirdeb wrth i'r gwydr gael ei ostwng i'w le.
Mae hyn yn paratoi'r ffordd ar gyfer cam nesaf y gwaith a fydd yn gweld tynnu'r hen do polycarbonad a oedd yn diogelu nenfwd trawiadol y Cwad a’i wydr lliw rhag y tywydd.
Gyda phob cam, mae’r diwrnod pan fydd yr haul yn dychwelyd i’r Cwad yn agosáu.
15 Awst 2025
Dyma’r ail ddiweddariad yr wythnos hon (mae llawer yn digwydd yma) ac ry ni’n barod am y gwydr ar gyfer to newydd y Cwad.
Y Cwad oedd y “lle i weld a chael eich gweld” ac roedd ei gyfraniad “yr un mor bwysig i addysg myfyrwyr Aberystwyth ag unrhyw ystafell ddarlithio neu labordy” yn ôl yr hanesydd Dr E L Ellis.
Dyma oedd “coridor y Coleg” tan i’r to gwreiddiol gael ei ychwanegu yn 1889-90, diolch i haelioni’r gŵr busnes llwyddiannus o Aberystwyth W T Jones.
Bydd y to gwydr newydd yn eistedd uwchlaw nenfwd cromennog y Cwad a’r to gwydr gwreiddiol a orchuddiwyd yn ddiweddarach gan ddarnau o bolicarbonad.
Bydd yn 25 metr o hyd a chwe metr ar draws â 34 panel gwydr dwbl wedi'u gosod mewn ffrâm alwminiwm wedi ei hanodeiddio.
Pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau golygfeydd dramatig o'r nenfwd cromennog oddi uchod.
12 Awst 2025
To fflat De Seddon.
Wrth gerdded ar hyd y promenâd, nid yw'n amlwg bod 'to fflat' ar y rhan hon o'r Hen Goleg.
Wedi'i osod yn wreiddiol yn ystod adeiladu Gwesty'r Castell, cafodd ei dynnu oddi yno pan gyfarwyddwyd y pensaer J P Seddon i ychwanegu 'fflat enfawr' ar gyfer myfyrwyr i astudio a hamddena.
Yn ddiweddarach, pan gomisiynwyd bloc gwyddoniaeth newydd gan y Brifysgol ar y safle, gosododd Seddon do fflat newydd arno.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae cydweithwyr o Greenough & Sons Roofing Contractors wedi bod yn tynnu'r hen do, a oedd wedi'i orchuddio ag asffalt, oddi yno.
Mae tynnu'r hen do a gosod yr un newydd wedi gofyn am goreograffi gofalus.
Mae'r towyr a chydweithwyr o Rowecord Total Access wedi bod yn cydweithio’n agos wrth i'r sgaffaldiau gael eu haddasu'n barhaus i ganiatáu i'r to newydd gael ei osod.
Mae pob panel yn cael ei dorri'n unigol a'i guro i siâp cyn ei osod ar y fframwaith pren newydd.
Yn y llun mae Dale Canning yn gosod panel newydd ei dorri yn ei le.
A phetai mellten yn taro, bydd dargludydd mellt newydd yn rhedeg o ben tyredau De Seddon ac ar hyd y to newydd. Bydd yn cael ei ddal yn ei le gan gyfres o 'strapiau' sy'n cael eu sodro i'w lle.
8 Awst 2025
Rydyn ni yn Siambr y Cyngor yr wythnos hon.
Wedi'i dylunio'n wreiddiol gan y pensaer J P Seddon fel ystafell biliards, roedd digon o le yn y gofod hirgrwn hwn i dri bwrdd maint llawn, chwaraewyr a gwylwyr.
Byddai'n ystafell gyffredin i fyfyrwyr yn ddiweddarach.
Wrth i’r Brifysgol symud yn raddol i gampws Penglais yn ystod y 1960au a'r 1970au, cafodd ei haddasu at ddefnydd Cyngor y Brifysgol.
Fel y nodwyd gan J Roger Webster yn ei lyfr Old College Aberystwyth – The evolution of a High Victorian building, roedd hyn ‘ar draul llawer o'i nodweddion gwreiddiol’.
Mae'r gofod bellach yn cael ei drawsnewid yn gartref 'mawreddog ac unigryw' i Ganolfan Ddeialog y Brifysgol.
Fel rhan o'r broses hon, mae'r gwaith plastr ar ei golofnau wedi'i adfer yn ofalus gan dîm Stoneguard Northern.
25 Gorffennaf 2025
Rydym wedi cyrraedd y pwynt uchaf!
Mae paratoadau ar y gweill ar gyfer adnewyddu tŵr yr Hen Goleg ac mae'r cyferbyniad â'r sgaffaldiau a ddefnyddiwyd yn ôl yn y 1860au yn amlwg.
Diolch i'r tîm o Rowecord Total Access mae canopi wedi’i adeiladu i amddiffyn y tŵr a'r rhai sy'n gweithio arno rhag y tywydd.
Yn y cyfamser, mae'r atriwm newydd yn dod yn ei flaen yn dda.
Yr wythnos diwethaf, arllwyswyd y concrît ar gyfer y drydedd lefel uwchlaw’r llawr ac mae'r pileri eisoes yn mynd i mewn wrth i ni weithio ein ffordd i fyny i'r lefel nesaf.
Gan gynnwys y seler a'r llawr gwaelod, dyna bum lefel wedi'u cwblhau a dau i fynd.
Ac i wneud hyn yn bosibl, mae craen newydd gan Davies Crane Hire o Gaerfyrddin ar y safle.
Gyda dwy lifft i bobl, bydd yr atriwm newydd yn cynnig mynediad hwylus i bob lefel o'r Hen Goleg a’r Cambria.
18 Gorffennaf 2025
Golwg ar simneiau’r Hen Goleg yr wythnos hon. Mae 17 corn simnai gyda chymaint â 12 ffliw ar ambell un.
Maent wedi eu hadeiladu o dywodfaen a chalchfaen ac wedi eu creithio gan yr amgylchedd morol llym.
Dros 160 mlynedd mae halen wedi treiddio i'r garreg fandyllog, gan grisialu, ehangu ac achosi iddynt ddirywio’n raddol.
Yn uchel uwchben Stryd y Brenin mae tair simnai bedair metr o daldra a oroesedd y tân mawr yn 1885.
Maent yn pwyso dros 10 tunnell yr un ac yn cael eu datgymalu a'i hailadeiladu.
Lle bo modd cadwyd y cerrig gwreiddiol, ond defnyddiwyd cerrig newydd lle bu’r dirywiad yn ormod.
Mae'r gwaith gan Stoneguard Northern yn gofyn am fedrusrwydd a chywirdeb gan fod cerrig unigol yn pwyso hyd at 280 cilogram.
Does dim tanau glo agored yn yr Hen Goleg mwyach - gallai fod mwy na 140 yno ar un adeg!
Bydd rhai o’r simneiau ar eu newydd wedd yn darparu awyru goddefol naturiol, tra bydd eraill yn anadlu er mwyn eu diogelu yn yr hirdymor.
4 Gorffennaf 2025
Rydym yn peintio'r ddwy fila Sioraidd yr wythnos hon.
Mae Ben Sturgeon o Swansea Decorating Services i'w weld yn gweithio ar Fila 1.
Mae'r paent sy'n cael ei ddefnyddio wedi'i seilio ar fwynau ac yn caniatáu i’r adeilad i anadlu wrth ei amddiffyn rhag hinsawdd forol llym y promenâd.
Adeiladwyd y ddwy fila yn 1811 a’r enw gwreiddiol arnynt oedd Mount Pleasant. Daethant yn rhan o ystâd y Brifysgol yn gynnar yn y 1920au er bod Fila 1, yr agosaf at yr Hen Goleg, wedi bod ar brydles gan y Brifysgol ers 1901 fel neuadd breswyl.
Yn ôl pensaer cadwraeth prosiect yr Hen Goleg, Matthew Dyer, byddai'r adeiladau gwreiddiol wedi bod yn symlach, gydag agoriadau sgwâr ar gyfer y ffenestri a siliau llechi.
Gwnaethpwyd newidiadau iddynt yn ystod ail hanner y 19eg ganrif; ychwanegwyd mowldinau wedi'u rendro at ffenestri Fila 1 a ffenestri bae i Fila 2.
Llywiodd y newidiadau hyn, dadansoddiadau o'r haenau o baent a dynnwyd yn ystod y gwaith adfer a ffotograffau hanesyddol wedi eu lliwio, y penderfyniad i fabwysiadu'r cynllun lliw ar yr adeg pan gafodd yr adeiladau eu prynu gan y Brifysgol.
Fel y gwelir yn y darlun, mae'r rhain yn liwiau daearol clasurol fel brown siocled, lliwiau taupe meddal a hufen.
Gellir gweld y gwahaniaeth rhwng y ddau dŷ yn y llun du a gwyn o'r cyfnod.
29 Mehefin 2025
Rhai o’r datblygiadau diweddaraf ar y safle.
Mae hi wedi bod yn wythnos boeth arall. Gan fod y llanw’n isel, roeddem yn meddwl y byddech yn gwerthfawrogi'r olygfa o'r traeth wrth ymyl y pier.
Agorwyd y pier yn 1865, y cyntaf yng Nghymru ac yn wreiddiol roedd yn 242 metr o hyd. Dinistriwyd llawer o'r promenâd gan storm enbyd ym mis Chwefror 1938 ac ysgubwyd 61 metr o’r pier i ffwrdd gan y môr.
Y tu mewn i Dde Seddon, mae cydweithiwr o Lime Plastering Wales yn canolbwyntio ar y ‘plinths’; yr hyn y byddai llawer yn eu hadnabod fel ‘byrddau sgyrtin’.
Yn hytrach na choed, mae rhain wedi eu gwneud o blastr calch.
Lle bo modd, mae’r plinthiau gwreiddiol yn cael eu cadw, ond mae’n anochel bod angen ambell ran newydd. Ychwanegir hyd at bedair haen o blastr calch, gan gynnwys y got olaf.
Yn ôl uwchlaw to'r Cwad ac mae’r sgaffaldiau’n dod i lawr wrth i'r ffrâm bren gael ei gosod ar gyfer y to gwydr newydd.
Ac yn olaf, i fyny bo’r nod! Cafodd y concrid ei arllwys ar gyfer ail lefel yr atriwm newydd yr wythnos hon wrth i ni weithio ein ffordd i fyny tuag at yr ystafell ddigwyddiadau newydd syfrdanol a fydd yn eistedd uwchben y ddwy fila Sioraidd.
17 Mehefin 2025
Rhai o’r datblygiadau diweddaraf ar y safle.
Ychydig o waith carreg i chi’r wythnos hon. Mae cydweithwyr o Stoneguard Northern yn gweithio ar du fas y prif dŵr. Mae un o’r seiri maen, Ren, wedi bod yn pwyntio'r gwaith carreg gyda morter traddodiadol tywod a chalch.
Mae ’na waith rhagorol wedi'i wneud hefyd ar y bwâu ffenestri sy'n edrych dros Stryd y Brenin.
Mae’r gwaith o ailadeiladu un o'r cyrn simnai uwchben Heol y Brenin hefyd yn dod yn ei flaen.
Yn y llun mae Lou Brandrett o Stoneguard Northern yn gweithio ar simnai 15 sydd bron yn bedwar metr o uchder ac yn pwyso dros 10 tunnell.
Mae rhai o'r cerrig ar y cyrn simnai hyn yn pwyso dros chwarter tunnell.
Yn ôl ar Dde Seddon ac mae'r sgaffald wedi'i ostwng er mwyn gosod to fflat newydd, nawr bod y gwaith ar y tyredau wedi'i orffen.
O, a dyma i chi wylanod, cwmnïaeth gyson i'r rhai sy'n gweithio'n uchel uwchben yr Hen Goleg.
12 Mehefin 2025
Cwrdd â’r prentisiaid
Mae’r Hen Goleg yn cynnig amgylchedd dysgu cyfoethog i genhedlaeth newydd o adeiladwyr proffesiynol.
Mae Ellis Evans, 22, yn Brentis Technegol Peirianneg Sifil ac yn astudio ar gyfer cymhwyster Tystysgrif Cenedlaethol Uwch yng Ngholeg Afan, Port Talbot, sy’n rhan o grŵp NPCT.
Ymunodd Tomi Williams, 19, Prentis Technegol Syrfëwr Meintiau gyda’r prosiect drwy Gynllun Prentisiaeth Ar y Cyd Sgiliau Adeiladu Cyfle ac mae’n astudio ar gyfer cymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Adeiladu yng Ngholeg Castell Nedd.
Doedd gan Kitty Gooch, 27, adferwr ffenestri, ddim profiad o weithio ar safle adeiladu, ond mae prosiect yr Hen Goleg wedi codi awydd arni i astudio am gymhwyster ffurfiol mewn gwaith treftadaeth.
Cymhwysodd Richard Blinston, 35, Saer Coed Treftadaeth gyda NVQ lefel 3 mewn Sgiliau Adeiladu Treftadaeth o Ganolfan Tywi, Llandeilo ym mis Rhagfyr 2024.
Mae Mark Knight, 19, yn Brentis Töwr ac yn mynychu Canolfan Hyfforddi Gwaith To Simian yn Warrington ac ef yw Prentis To Pitch y Flwyddyn Simian am 2025.
Daeth Daniel Knight, 18, yn Brentis Töwr yn 2023. Mae hefyd yn mynychu Canolfan Hyfforddi Gwaith To Simian yn Warrington ac roedd yn ail yng nghystadleuaeth Prentis To Pitch y Flwyddyn Simian 2025.
I ddarllen rhagor, cliciwch ar y ddolen isod: Prentisiaid yn dysgu eu crefft yn yr Heg Goleg
6 Mehefin 2025
Yr Hen Goleg – rhai o’r datblygiadau diweddaraf ar y safle.
Yr wythnos hon rydym yn paentio! Mae'r gôt gyntaf wedi bod yn mynd ar waliau’r Ganolfan Menter a Busnes newydd yn Ne Seddon.
Mi fydd y paent calch a chlai yn caniatáu i’r waliau sydd wedi’u plastro â chalch i anadlu.
Yn y cyfamser, mae plastro’n parhau ar lawr gwaelod De Seddon. Gary Smith o Lime Plaster Wales sydd wedi bod yn paratoi'r waliau ar gyfer y gôt olaf.
Mae angen i blastr calch sychu'n raddol ac felly mae’r waliau’n cael eu chwistrellu â dŵr yn rheolaidd fel rhan o'r broses hon.
Yn ôl ar y to ac mae cynnydd wedi bod ar gopa Lifft yr Athrawon gyda cherrig newydd yn eu lle a gwaith pwyntio gyda morter calch wedi ei wneud.
Ac yn olaf, mae’r gwaith ar yr atriwm newydd yn dod yn ei flaen. Rydyn ni wedi cyrraedd y llawr cyntaf, sef yr ail lefel uwchlaw’r ddaear.
Er mwyn drysu pethau, mae lefelau lloriau’r atriwm yn adlewyrchu'r rhai yn yr Hen Goleg; y mesanîn yw’r llawr cyntaf ar ochr Stryd y Brenin, a'r llawr cyntaf yw’r ail lefel.
1 Mehefin 2025
Yr Hen Goleg – rhai o’r datblygiadau diweddaraf ar y safle.
Mae’r sgaffaldiau ar yr Hen Goleg yn cynnig golygfeydd godidog o Aberystwyth, yn yr achos hwn Maes Lowri, yr hen Undeb y Myfyrwyr â Pen Dinas yn y pellter.
Ac mae cymhlethdod y sgaffaldiau yn rhyfeddol. Dyma ran fach ar ochr Stryd y Brenin ar adeilad Ferguson, y bloc gwyddoniaeth gafodd ei adeiladu yn yr 1980au.
Pan fydd wedi ei gwblhau, bydd adeilad Ferguson yn gartref i Byd o Wybodaeth ac yn cynnwys gofodau astudio, canolfan wyddoniaeth, arddangosfa o hanes Prifysgol Aberystwyth a gofod ieuenctid.
Yn ôl yn y filas Sioraidd, ac mae’r gwaith llechu o amgylch y llefydd tân yn cael eu gosod nol yn eu lle wedi i waith glanhau a thynnu’r haenau o baint sydd wedi’u hychwanegu dros y degawdau.
Ac yn ddwfn islaw’r ddaear, gyda llawr newydd y Cwad yn ei le, mae rhai o’r gwasanaethau allweddol yn cael eu gosod.
23 Mai 2025
Yr Hen Goleg – rhai o’r datblygiadau diweddaraf ar y safle.
Y datguddiad! Mae’r sgaffaldiau o amgylch tyredau De Seddon yn dod i lawr gan ddatgelu gwaith llechi a phlwm cywrain Greenough & Sons Roofing Contractors Ltd.
Bydd Llyfrgell yr Hen Goleg yn lleoliad dramatig newydd ar gyfer cyngherddau, priodasau a digwyddiadau, ac mae sgaffaldiau bellach yn eu lle gyfer gwaith ar y ffenestri gwydr lliw.
Bu’r filas Sioraidd, sy’n dyddio o 1811, yn rhan o'r Brifysgol ers y 1920au ac yn gartref i’r ganolfan feddygol am flynyddoedd lawer. Dyma fydd prif fynedfa’r Hen Goleg o'r promenâd.
Mae’r ffenestri bae wedi eu hadnewyddu ynghyd â llawer o’r gwaith plastr, ac mae to cywrain newydd ar un o’r cynteddau.
Ac yn olaf, a heb eu hagor, mae cyflenwad newydd o gerrig wedi cyrraedd ar gyfer ailadeiladu rhai o simneiau dramatig yr Hen Goleg.
2 Mai 2025
Yr Hen Goleg yr wythnos hon – rhai o’r datblygiadau diweddaraf ar y safle.
Wrth i’r tywydd braf barhau, mae’r teclyn codi bellach yn ei le fel rhan o’r paratoadau ar gyfer dechrau ar y gwaith o adnewyddu tŵr yr Hen Goleg.
Y tu mewn i’r tŵr, mae cenedlaethau o fyfyrwyr wedi ysgrifennu ar y waliau ac felly’n rhan o hanes yr adeilad hynod hwn.
A'r olygfa oddi uchod, yn edrych i lawr dros De Seddon a'r castell. I’r dde mae pen uchaf Lifft yr Athrawon, rhan o’r bloc gwyddoniaeth gafodd ei adeiladu gan C J Ferguson yn y 1890au.
Edrych tua'r gogledd ac mae'r gwaith llechi uwchlaw’r Cwad yn dod yn ei flaen. Mae'r sgaffaldiau cantilifer cymhleth sy’n gorchuddio to gwreiddiol y Cwad yn cael ei addasu'n barhaus wrth i'r gwaith fynd rhagddo.
26 Ebrill 2025
Yr Hen Goleg yr wythnos hon – rhai o’r datblygiadau diweddaraf ar y safle.
Mae cynnydd rhagorol yn cael ei wneud ar y Ganolfan Fenter i Fusnesau Creadigol newydd yn Ne Seddon gyda’r gwaith brics yn cael ei lanhau.
Yn ôl ar y balconi uwchben prif fynedfa Stryd y Brenin ac mae calchfaen Cadeby sydd newydd ei thorri bellach yn ei lle ac yn edrych yn wych.
Mae gwaith ais a phlastr traddodiadol yn cael ei adnewyddu ar draws yr Hen Goleg. Yn yr orielau celf newydd drws nesaf i'r Cwad yng Ngogledd Seddon mae ais newydd yn barod i'w plastro.
Draw yn y filas Sioraidd, ac mae gwaith manwl ar y cilfwâu calch yn dod yn ei flaen yn dda. Daw Gary Jones, sy’n gweithio gyda Lime Plastering Wales, â dros 40 mlynedd o brofiad i brosiect yr Hen Goleg.
Ac yn olaf, roeddem yn meddwl y byddech yn gwerthfawrogi llun o safle’r Hen Goleg ar ddiwrnod braf o Ebrill.
