Rhagfyr 2023

Croeso i rifyn cyntaf bwletin newydd prosiect yr Hen Goleg sy’n cynnwys y diweddaraf am ein cynlluniau uchelgeisiol i roi bywyd newydd i gartref Addysg Prifysgol yma yng Nghymru, yr Hen Goleg.

Dechrau’r gwaith adnewyddu

Ym mis Mehefin eleni, dechreuwyd ar y gwaith adnewyddu. Gwelwyd cynnydd sylweddol a daeth llawer o nodweddion gwreiddiol yr adeilad hanesyddol i’r amlwg wedi i newidiadau gafodd eu gwneud yn y 1960au gael eu tynnu lawr.

• Darllenwch fwy yma.

Siambr y Cyngor wedi i’r newidiadau gafodd eu gwneud yn y 1960au gael eu tynnu allan (chwith), a (dde) llun o sut fydd y Ganolfan Ddeialog newydd yn edrych wedi i’r gwaith gael ei gwblhau.

Mae gwaith hefyd wedi dechrau ar ailddatblygu maes parcio Eglwys Mihangel Sant a fydd yn darparu llefydd parcio ar gyfer gwesteion ystafelloedd gwesty 4* yr Hen Goleg. 

• Darllenwch fwy yma.

Apêl yr Hen Goleg

Apêl yr Hen Goleg yw un o ymgyrchoedd codi arian mwyaf llwyddiannus yn hanes Prifysgol Aberystwyth.

Mae dros £4m wedi'i godi gan ymddiriedolaethau, sefydliadau ac unigolion, ac mae rhoddion newydd yn parhau i gyrraedd. 

Ynghyd ag arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Cymunedau'r Arfordir, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Chronfa Ffyniant Bro mae'r prosiect bellach wedi denu dros £30m gan gyllidwyr.

• Darllenwch fwy am yr Apêl a chydnabod rhoddwyr yma.
• Mae prif gyllidwyr a phartneriaid y prosiect i’w gweld ar ddelwedd-lyfr yr Hen Goleg

Joy Welch, yn 1943 (chwith) ac yn 1998 (dde) pan gafodd ei hurddo’n Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Anrhydeddu un o dorwyr cod Enigma

Ym mis Hydref, roedd hi’n bleser gennym gyhoeddi cyfraniad o £170,000 gan Ymddiriedolaeth Elusennol Addysgol Joy Welch er cof am un o’n graddedigion a gyfrannodd at dorri’r cod Enigma yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bydd yr arian yn mynd at sefydlu Ystafell Seminar Joy Welch yn yr Hen Goleg. 

Darllenwch fwy yma.

Mosaic Voysey

Un o nodweddion amlycaf yr Hen Goleg yw'r mosaic sy'n wynebu'r castell. Darn gan yr artist o Lundain C A F Voysey yw hwn ac mae’n cynnwys delwedd y credir iddi gynrychioli’r mathemategydd, ffisegydd, peiriannydd a seryddwr o wlad Groeg, Archimedes. Un sydd wedi bod yn astudio’r gwaith yw’r artist Alison Pierse.

Darllenwch fwy yma.

Sylw yn y cyfryngau

Cafodd gwaith ar yr Hen Goleg sylw helaeth ar sianelau teledu, radio ac arlein BBC Cymru/Wales ym mis Hydref, gyda chyfraniadau gan y prif gontractwr Andrew Scott Ltd, yr arbenigwyr toi Greenough and Sons a’r saer treftadaeth Gary Davies sy’n gweithio ar adfer ffenestri’r adeilad. Gallwch ddarllen dwy o’r eitemau arlein islaw:

• BBC Wales Online: Aberystwyth: Hotel and museum plan to rejuvenate Old College.
• BBC Cymru Fyw: Datgelu hanes wrth adnewyddu Hen Goleg Aberystwyth.

Y diweddaraf i chi

Gobeithiwn yn fawr y bydd y diweddariad hwn o ddiddordeb i chi. 

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth,

Tîm Prosiect yr Hen Goleg