Rheoliadau Traffig a Pharcio

Gofynnwn i chi ddarllen y rheoliadau traffig a pharcio isod ac ymgyfarwyddo â nhw.

1.0 - Cyffredinol

1.1 - Mae Rheoliadau Traffig a Pharcio’r Brifysgol yn berthnasol i staff, myfyrwyr ac aelodau o’r cyhoedd sy’n defnyddio cerbydau modur ar ystâd y Brifysgol.

1.1.1 - At ddibenion y rheoliadau hyn, mae Cerbyd Modur yn golygu unrhyw gerbyd sydd angen arddangos Disg Dreth Gyfredol. Ni chaniateir parcio cerbydau sydd heb eu trethu o safbwynt Deddf (Tollau) Cerbydau, neu gerbydau eraill sy’n anaddas i’r ffordd fawr, ar eiddo’r Brifysgol. Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i drin cerbydau o’r fath fel rhai sydd wedi cael eu gadael, ac fe allai gymryd camau i’w symud ar gost y perchennog.

1.1.2 - Bydd unrhyw gerbyd y bernir ei fod yn anaddas i’r ffordd fawr neu ei fod wedi cael ei adael ar eiddo’r Brifysgol yn gorfod cael ei symud oddi yno. Os nad fydd perchennog y cerbyd wedi symud y cerbyd o fewn 30 diwrnod ar ôl derbyn rhybudd ysgrifenedig, bydd y Brifysgol yn gwneud trefniadau i gasglu a chael gwared â’r cerbyd yn ôl ei disgresiwn ac adennill unrhyw gostau cysylltiedig. Ni fydd y Brifysgol na’i swyddogion yn gyfrifol am unrhyw ddifrod a achosir i gerbyd o dan amgylchiadau o’r fath.

1.1.3 - Caniateir parcio mewn lleoedd parcio dynodedig i ddeiliaid trwyddedau parcio priodol a dilys Prifysgol Aberystwyth yn unig. Ni chaniateir parcio ar unrhyw ardal arall o dir y Brifysgol. Rheolir pob maes parcio gan aelodau awdurdodedig o staff y Brifysgol.

1.2.1 - Mae’r gweithredoedd canlynol wedi’u gwahardd yn llwyr ar eiddo’r Brifysgol:

Parcio neu ddefnyddio carafanau, cerbydau gwersylla neu gerbydau tebyg i aros dros nos

a. gwaith atgyweirio neu gynnal a chadw sylweddol ar gerbydau;

b. gyrru gan bobl sy’n dysgu gyrru.

1.2.2 - Rhaid i’r sawl sy’n defnyddio neu barcio cerbyd modur ar eiddo’r Brifysgol:

a. dderbyn cyfrifoldeb amdanynt eu hunain, eu cyd-deithwyr, y cerbyd a chynnwys y cerbyd;

b. dilyn holl ddarpariaethau’r gyfraith sy’n ymwneud â defnyddio cerbydau ar ffyrdd cyhoeddus, yn ogystal â gofynion ychwanegol y rheoliadau hyn

c. cydymffurfio â therfyn cyflymder y Campws, sef 20 mya.

1.3 - Rhaid i gerbydau gael eu gyrru yn unol â Rheolau’r Ffordd Fawr bob amser, gyda gofal a chan roi ystyriaeth briodol i draffig cerbydol, cerddwyr, eiddo’r Brifysgol a bywyd gwyllt. Rhaid i yrwyr drin croesfannau i gerddwyr yn yr un modd â’r rhai a ddefnyddir ar y priffyrdd cyhoeddus.

1.4 - Os bydd defnyddwyr cerbydau modur yn mynd yn groes i’r rheoliadau hyn yn barhaus, neu’n ymddwyn mewn modd sy’n beryglus neu’n anystyriol i ddefnyddwyr eraill ar y campws, gellir tynnu eu trwyddedau parcio yn ôl, a gwahardd eu cerbydau o’r safle.

1.5 - Mae natur campysau’r Brifysgol a niferoedd y cerddwyr yn golygu eu bod yn lleoedd anodd i yrru cerbydau. Er y gwneir pob ymdrech i gadw cerddwyr a cherbydau ar wahân, cyfrifoldeb y gyrwyr yw bod yn effro i symudiadau cerddwyr ac i yrru yn briodol. Yn gyffredinol, cerddwyr sy’n cael y flaenoriaeth ar gerbydau modur.

1.6 - Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i dynnu trwyddedau yn ôl, diweddaru’r rheoliadau hyn yn ôl yr angen neu newid yr ardaloedd lle caniateir parcio ceir.

1.7 - Gwaherddir defnyddio sgwteri trydan ar ein ffyrdd, llwybrau troed a phalmentydd.

2.0 - Trwyddedau Parcio

2.1 - Bwriad y drwydded yw galluogi deiliad y drwydded i barcio ar gyfer busnes y brifysgol, neu i ddefnyddio ei chyfleusterau cysylltiedig.


2.2 – Pwy sy’n gymwys i gael Trwydded
a. Aelodau staff Amser Llawn neu Ran-Amser. Bydd gan aelod o staff gontract cyfredol gyda Phrifysgol Aberystwyth a bydd yn gallu darparu rhif cyflogres.
b. Myfyrwyr cofrestredig sydd naill ai'n byw mewn neuaddau sy'n eiddo i'r Brifysgol neu'n byw 3 milltir neu fwy o Gampws Penglais.
c. Gellir rhoi trwyddedau i bobl eraill a ddaw i’r Brifysgol ar fusnes swyddogol yn rheolaidd.


2.3 - Os bydd trwydded/au wedi mynd ar goll neu wedi eu difrodi, dylid hysbysu’r adran Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd. Codir tâl gweinyddol o £10 am drwydded newydd. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i dynnu trwyddedau yn ôl heb roi ad-daliad.


2.4 – Mae trwyddedau parcio yn parhau yn eiddo i'r Brifysgol. Os ydych yn gadael cyflogaeth y Brifysgol, neu os nad ydych bellach yn fyfyriwr cofrestredig, neu'n aelod o staff, rhaid i chi ddychwelyd y drwydded i’r adran Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd ar unwaith.

2.5 - Mae trwyddedau parcio yn parhau i fod yn eiddo i'r Brifysgol. Os byddwch yn gadael cyflogaeth y Brifysgol, ac yn aelod o staff, rhaid i chi ddychwelyd y drwydded i'ch rheolwr llinell,  fydd yn trefnu I ddychwelyd i Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd.

3.0 - Parcio Cerbydau

3.1 - Dim ond mewn mannau parcio dynodedig y mae caniatâd i barcio, ac yn y mannau a nodir, i ddeiliaid trwyddedau parcio priodol a dilys y Brifysgol. Mae parcio mewn unrhyw fan arall ar dir y Brifysgol wedi ei wahardd yn llwyr. Rheolir pob maes parcio gan staff awdurdodedig y Brifysgol.


3.2 - Rhaid i unrhyw aelod o staff neu fyfyriwr sydd am ddod â cherbyd ar dir y Brifysgol gofrestru ei fanylion yn gyntaf a chael trwydded barcio.  


3.3 - Mae cod lliw ar gyfer trwyddedau parcio yn ôl ardaloedd lle caniateir parcio awdurdodedig:-
a. Cyfyngedig - mae trwydded Las yn ddilys ar gyfer pob maes parcio ar gyfer unrhyw un sydd â Bathodyn Glas yn ei feddiant;
b. Staff -­ Mae trwydded Gwyn a Glas yn ddilys ar gyfer meysydd parcio Staff;
c. Neuaddau -­ Mae trwydded Borffor yn ddilys ar gyfer meysydd parcio Neuaddau yn unig  

3.4 - Rhaid arddangos trwyddedau parcio mewn safle amlwg y tu mewn i ffenestr flaen y car neu mewn lle hawdd ei weld ar feic modur.


3.5 - Er diogelwch y safle, mae'n ofynnol i ddeiliaid trwyddedau hysbysu Staff Diogelwch os ydynt am adael eu cerbyd dros nos ym meysydd parcio Staff.


3.6 - Mae’r defnydd anghyson a wneir gan ddefnyddwyr o feysydd parcio yn golygu y gellir caniatáu dosbarthu nifer fwy o drwyddedau nag sydd o leoedd parcio. I fanteisio'n llawn ar y sefyllfa hon, cyfyngir ar leoedd cadw a mannau parcio cyfyngedig yn ôl yr amgylchiadau hynny y gellir eu cyfiawnhau:
a. Man llwytho cerbydau’r adrannau
b. Gyrrwr anabl
c. Man cyrraedd a chodi ar gyfer tacsis
d. Nifer annigonol o lefydd i alluogi gweithredu amrywiaeth defnydd.

3.7 – Dyma’r eithriadau lle nad oes angen prynu trwydded parcio:
a. Ymwelwyr Gwyliau – Caiff trwydded bwrpasol ei rhoi trwy law staff y Swyddfa Gynadleddau.
bMynychwyr cynadleddau (Ystafell MedRus yn unig) – Trwy law staff y swyddfa Gynadleddau.
cMynychwyr y gynhadledd (mewn mannau eraill yn y Brifysgol) - Ar gyfer cynrychiolwyr sy'n mynychu cynadleddau, seminarau, neu ddigwyddiadau arbennig eraill a drefnwyd ymlaen llaw, dylai’r adrannau sy’n trefnu gysylltu â Staff Diogelwch ymhell ymlaen llaw. Gellir wedyn ystyried a chytuno ar drefniadau parcio arbennig er mwyn sicrhau y bydd effaith y digwyddiad ar weithgaredd arferol y Brifysgol yn cael ei lliniaru.
dCanolfan Chwaraeon - Caniateir i ddefnyddwyr y Ganolfan Chwaraeon sydd am barcio cerbyd ar y campws ddefnyddio meysydd parcio pwrpasol y Ganolfan Chwaraeon gyda therfyn parcio o 3 awr, heb ddychwelyd cyn pen 2 awr.

3.8 - Caniateir i ymwelwyr barcio yn y maes parcio Talu ac Arddangos yng Nghanolfan y Celfyddydau trwy dalu’r ffi gywir a dangos tocyn dilys.
3.8.1 - Gellir anfon Trwydded Barcio Undydd ymlaen llaw at ymwelwyr achlysurol ag adrannau. Mae Trwyddedau Parcio Undydd ar gael ar gais gan yr adran Diogelwch Safle yn rhad ac am ddim. Fel arall, gall adrannau ofyn ymlaen llaw i’r adran Diogelwch Safle baratoi ac argraffu Trwydded Barcio Undydd i ymwelwyr achlysurol ar ôl iddynt nodi eu presenoldeb hunain yn Nerbynfa Campws Penglais wrth gyrraedd.
3.8.2 – Gellir rhoi Trwydded Dros Dro i gontractwyr a gweithwyr allanol eraill. Mae’r drwydded ar gael yn y Bloc Amwynderau, Cwrt Mawr (Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd).

6.0 - Amodau a thramgwyddau parcio

4.1 - Yr adran Diogelwch Safle sy’n gyfrifol am gynnal a gweithredu Rheoliadau Traffig a Pharcio'r Brifysgol, gan ddilyn y camau canlynol:

4.2 – Torri rheolau

4.2.1 - Mae ‘contract parcio’ yn gysylltiedig â pharcio ar dir y Brifysgol, ac mae’r telerau i’w gweld ar arwyddion wrth fynedfeydd y Brifysgol ac yn y fynedfa neu wrth y fynedfa i’r meysydd parcio. Mae'r Brifysgol yn gweithredu cosb o Hysbysiad Tâl Parcio (PCN) i gerbydau sy'n torri'r rheoliadau parcio.
4.2.2 - Os oes rhywun yn torri'r telerau hyn, gall swyddog diogelwch benderfynu rhoi dirwy PCN. Mae'r ddirwy yn rhoi manylion yr achos o dorri rheolau i’r gyrrwr a chyfle i dalu’r ddyled i'r cwmni rheoli. Mae'r ddirwy yn £80, ond trwy dalu’n brydlon (o fewn 14 diwrnod) mae modd manteisio ar ostyngiad o 50% (£40)
4.2.3 - Y tro cyntaf y bydd unrhyw gerbyd yn torri Rheoliadau Parcio Prifysgol Aberystwyth, bydd y gyrrwr yn derbyn rhybudd, trwy gael nodyn gludiog wedi ei osod ar ffenestr flaen y cerbyd.
4.2.4 - Ar yr ail dro, bydd hysbysiad PCN yn cael ei lenwi a'i atodi ar y ffenestr flaen.
4.2.5 - Er mai staff Diogelwch y Brifysgol sy’n gosod y tocyn parcio, mae’r holl gamau dilynol, yn cynnwys casglu taliadau a rheoli apeliadau, yn cael eu gwneud gan y cwmni Car Parking Partnership, ac mae eu manylion i’w gweld ar yr Hysbysiad Parcio Sifil.
4.2.6 - Os na fydd y ddirwy wedi ei thalu o fewn 28 diwrnod, bydd y cwmni rheoli yn gofyn i’r DVLA am fanylion y ceidwad cofrestredig. Yna byddan nhw'n ysgrifennu at y ceidwad cofrestredig i roi gwybod iddo fod tâl parcio yn daladwy. Os na all y ceidwad nodi pwy yw’r gyrrwr, neu os nad yw am wneud hynny, y ceidwad fydd yn atebol. (Deddf Diogelu Rhyddid 2010-12).

4.3 – Telerau Parcio 

4.3.1 – Mae’r 'Contract Parcio' yn dweud na ddylai gyrrwr:

  • Dalu llai na’r swm priodol am barcio am gyfnod llawn yr arhosiad.
  • Aros am gyfnod hwy nag a ganiateir.
  • Parcio ar draws mwy nag un lle parcio sydd wedi ei farcio.
  • Parcio mewn cilfach barcio anabl heb arddangos bathodyn parcio dilys.
  • Parcio mewn bae llwytho yn ystod oriau cyfyngedig pan nad yw'n dadlwytho mewn gwirionedd.
  • Parcio mewn lle parcio wedi'i gadw heb arddangos trwydded ddilys yn glir.
  • Parcio mewn man sydd wedi'i gadw ar gyfer cerbydau brys.
  • Parcio mewn man lle nad oes caniatâd i barcio.
  • Parcio mewn ardal 'Deiliaid Trwyddedau yn Unig' os mai tocyn Talu ac Arddangos sydd gennych chi.
  • Parcio ar linellau melyn dwbl neu ar fannau gyda marciau croes.
  • Parcio ar laswellt neu raean mewn mannau nad ydynt wedi'u bwriadu ar gyfer parcio heb gael caniatâd gan Staff Diogelwch ar gyfer yr achlysur hwnnw.
  • Parcio mewn ffordd sy’n achosi rhwystr neu anghyfleustra i eraill.
  • Parcio heb arddangos y drwydded ofynnol neu docyn Talu ac Arddangos yn glir.

7.0 - Gweithredu’r gosb ac Apeliadau

5.1 - Mae proses apelio lawn ar gael ac mae’r camau ar gyfer apelio ar y Rhybudd Tâl Parcio. Caiff yr holl apeliadau eu trin yn deg ac mewn ffordd foesegol gan y cwmni gorfodi. Mae’r cwmni’n cael ei reoleiddio gan y British Parking Association.


5.2 - Caiff pob apêl ei thrin a’i hystyried yn unigol. Bydd amgylchiadau'r PCN a gafodd ei roi yn cael eu hystyried yn unol â'n rheoliadau parcio.


5.3 - Unwaith y bydd y cwmni'n derbyn eich gohebiaeth, bydd y broses yn cael ei gohirio tra bod yr apêl yn cael ei hystyried. Os daw'r apêl o fewn y cyfnod disgownt o 14 diwrnod, bydd yr achos yn cael ei ohirio ar y ffi is. Mae achosion yn cael eu rhoi mewn ciw awtomatig ac yn cael eu hadolygu mewn trefn ddilynol erbyn y dyddiad y derbynnir yr her. Os daw gohebu pellach cyn i'r apêl gael ei hadolygu bydd yr achos yn cael ei ail-drefnu.


5.4 - Er mwyn sicrhau bod llwybr archwilio llawn yn bodoli, rhaid gwneud pob apêl yn ysgrifenedig. Mae'r manylion cyswllt ar gyfer apeliadau a thaliadau wedi'u hargraffu ar gefn y PCN ac ar arwyddion ar y safle.


5.5 - COFIWCH: Os bydd PCN wedi ei dalu, nid oes modd cyflwyno apêl ôl-weithredol.