Gwobr am gyfraniad eithriadol i drafnidiaeth gymunedol

Yr Athro Charles Musselwhite yn derbyn Gwobr Cynghreiriad Trafnidiaeth Gymunedol y Flwyddyn gan y Gymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol.  Llun gan Henry Bird: www.hjbphotography.com.

Yr Athro Charles Musselwhite yn derbyn Gwobr Cynghreiriad Trafnidiaeth Gymunedol y Flwyddyn gan y Gymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol.  Llun gan Henry Bird: www.hjbphotography.com.

22 Mehefin 2026

Mae arbenigwr blaenllaw ar drafnidiaeth a heneiddio wedi derbyn gwobr genedlaethol sy'n cydnabod ei gyfraniad eithriadol i drafnidiaeth gymunedol.

Mae'r Athro Charles Musselwhite, Pennaeth yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi cael ei enwi'n Gynghreiriad Trafnidiaeth Gymunedol y Flwyddyn gan y Gymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol.

Wedi’i noddi gan Mellor a Treka, mae’r wobr yn dathlu unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i drafnidiaeth gymunedol, naill ai trwy ddarparu gwasanaethau uniongyrchol neu drwy weithredu fel eiriolwr cryf i'r sector.

Mae ymchwil yr Athro Musselwhite yn canolbwyntio ar y croestoriad rhwng trafnidiaeth, symudedd a heneiddio. Mae'n gyd-gyfarwyddwr Canolfan Trafnidiaeth a Symudedd Prifysgol Aberystwyth.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd yr Athro Charles Musselwhite:

"Rwy'n falch iawn o dderbyn y wobr hon -ac ychydig dan deimlad - ac rwy’n teimlo ei bod yn anrhydedd cael fy nghydnabod gan sector sy’n golygu cymaint i mi. Mae wedi bod yn fraint cael cydweithio â sefydliadau trafnidiaeth gymunedol, gwirfoddolwyr, ymarferwyr, llunwyr polisi a chymunedau ledled y DU, ac mae'r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu ein hymdrechion ni i gyd."

"Fel ymchwilwyr, rydym yn aml yn gobeithio y bydd ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth. Mae gwobrau fel hyn yn ein hatgoffa bod ymchwil yn gallu cael effaith yn y byd go iawn pan y caiff ei ddatblygu ar y cyd â chymunedau, yn hytrach nag edrych arnynt o’r tu allan."

Dywedodd Gemma Lelliott, Cyfarwyddwr Cymru y Gymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol:

"Mae pawb yn y Gymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol yn llongyfarch yr Athro Charles Musselwhite yn wresog ar dderbyn y wobr hon. Mae Charles wedi bod yn gynghreiriad ystyriol i drafnidiaeth gymunedol ers blynyddoedd, gan helpu i dynnu sylw at ei phwysigrwydd ar gyfer annibyniaeth, cysylltiadau a lles.

"Trwy ei waith ymchwil, addysgu a dylanwadu, mae wedi helpu eraill i weld trafnidiaeth gymunedol nid fel rhywbeth sy’n ‘braf i’w gael’, ond fel seilwaith hanfodol ar gyfer byw’n dda. Crëwyd argraff arbennig ar y beirniaid gan y ffordd mae ei ymrwymiad yn mynd ymhell y tu hwnt i'r swydd bob dydd.”