Pam dewis Seicoleg?

Seicoleg yw'r astudiaeth wyddonol o'r meddwl ac ymddygiad dynol. Ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae Seicoleg yn ymarferol, yn berthnasol ac wedi'i chysylltu'n agos â'r byd o'n cwmpas. Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso'r wybodaeth a gewch yn y ddarlithfa i heriau'r byd go iawn, gan ddatblygu'r sgiliau i ddadansoddi problemau dynol cymhleth, gweithio gyda data, a meddwl fel seicolegydd.
Ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn archwilio:
- Yr Ymennydd a'r Meddwl: Deallwch sut mae'r ymennydd yn gweithredu a sut mae prosesau niwrowyddonol yn dylanwadu ar ymddygiad dynol.
- Deinameg Gymdeithasol: Darganfyddwch sut mae cymdeithas yn dylanwadu ar benderfyniadau unigolion a sut y gall unigolion, yn eu tro, lunio cymdeithas.
- Datblygiad ar Draws Rhychwant Oes: Archwiliwch ddatblygiad seicolegol o'r cyfnod cyn geni hyd at oedolaeth hŷn.
- Seicoleg Wybyddol: Ymchwiliwch i'r prosesau sy'n sail i feddwl, canfyddiad, cof a dysgu.
- Seicoleg Droseddol: Archwiliwch y ffactorau seicolegol sy'n cyfrannu at ymddygiad troseddol.
- Emosiynau ac Affeithioldeb: Dadansoddwch sut mae emosiynau'n dylanwadu ar benderfyniadau, ymddygiad ac iechyd meddwl.
- Gwahaniaethau Unigol: Deallwch sut mae personoliaeth, deallusrwydd a nodweddion unigol yn datblygu ac yn amrywio.
- Ymchwil ac Arbrofi: Datblygwch sgiliau ymarferol wrth gynllunio, cynnal a gwerthuso ymchwil ym maes gwyddor ymddygiad.
- Sgiliau sy'n Barod ar gyfer Gyrfa: Troswch eich gwybodaeth academaidd yn sgiliau gwerthfawr a throsglwyddadwy i gefnogi eich uchelgeisiau gyrfaol.

Ochr yn ochr â’r radd y byddwch yn gweithio tuag ati, rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd ychwanegol i gyfoethogi eich CV a’ch helpu i sefyll allan o’r dorf. Dyma ‘Mantais Seicoleg Aberystwyth’ , sy’n cynnwys cyrsiau a digwyddiadau a drefnir gan y Brifysgol a’r adran, ynghyd â modiwlau a luniwyd yn benodol i ehangu eich gwybodaeth a gwella eich cyflogadwyedd ar ôl graddio.
Pam Aberystwyth?
Wedi’i lleoli ar arfordir garw Canolbarth Cymru, mae Aberystwyth yn dref lan môr fywiog a chroesawgar lle mae cymuned fyfyrwyr ryngwladol ffyniannus yn cydfodoli â harddwch naturiol trawiadol. Wedi’i hamgylchynu gan fryniau gwyrdd tonnog ac ehangder Bae Ceredigion, mae Aber yn cynnig hafan unigryw o dawelwch, sef lle y gallwch ganolbwyntio, ailwefru, a byw mewn cytgord â natur.
Y tu hwnt i’w thirwedd syfrdanol rhwng y tir a’r môr, mae Aberystwyth yn cael ei nodweddu gan ei hawyrgylch cynnes a chynhwysol. Yma, byddwch yn rhan o gymuned agored ei meddwl sy’n dathlu amrywiaeth, yn cefnogi ei gilydd, ac yn gwneud i’r dref arfordirol fywiog hon deimlo fel cartref.
