Lowri Charles - Seicoleg gyda Chwnsela


Beth yw eich profiad personol hyd yma ar eich cwrs ac yn y Brifysgol?
Dechreuais fy ngradd ym mis Hydref 2020 ar ôl gadael swydd ym maes Darlledu Chwaraeon Teledu. Roedd hynny yn ystod cyfnod Covid, ac roeddwn wedi treulio peth amser yn gwirfoddoli i’r Samariaid, a arweiniodd at newid ffocws a’r posibilrwydd o newid gyrfa. Roedd y ddwy flynedd gyntaf yn heriol, ond mwynheais y broses ddysgu a chefais y cwrs yn hynod ddiddorol. Oherwydd digwyddiadau yn fy mywyd, bu’n rhaid imi gymryd egwyl o ddwy flynedd o’m hastudiaethau, a dychwelais yn rhan-amser ym mis Medi 2024. Roedd cydbwyso gwaith ac astudio yn heriol hefyd, ond nid oes gennyf unrhyw edifeirwch, ac rwy’n falch fy mod wedi cyrraedd diwedd y cwrs ac, gobeithio, y byddaf yn ennill gradd o ganlyniad iddo.

Ydych chi wedi gwneud unrhyw waith gwirfoddol neu brofiad gwaith yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol?
Bûm yn wirfoddolwr gyda’r Samariaid tan 2023. Roedd yn brofiad hynod werth chweil, ac roedd yr hyfforddiant o safon uchel iawn. Mae’n bosibl iawn y byddaf yn dychwelyd at y gwaith hwnnw yn y dyfodol.

Allwch chi awgrymu rhai awgrymiadau a chyngor i fyfyrwyr y dyfodol?
Fel myfyriwr aeddfed nad oedd wedi ysgrifennu traethawd ers canol yr 1980au, roedd y profiad yn llethol ar y dechrau. Fodd bynnag, roedd yr adborth gan ddarlithwyr a thiwtoriaid personol yn amhrisiadwy. Os gallwch fforddio gwneud hynny, byddwn yn argymell astudio’n llawn amser. Mae astudio’n rhan-amser yn gweithio i ryw raddau, ond gall cydbwyso gwaith ac astudio fod yn heriol.

Melissa Eyre - Seicoleg gyda Chwnsela

Allwch chi ddisgrifio eich profiad ar eich cwrs ac yn y Brifysgol?
Mae cefnogaeth y darlithwyr a gwneud y defnydd gorau o holl wasanaethau’r brifysgol, megis y gwasanaeth gyrfaoedd yn y llyfrgell, wedi bod yn gymorth enfawr i mi gael y gorau o’m gradd. Er fy mod wedi cymryd blwyddyn allan cyn dod i’r brifysgol, roedd y newid o’r chweched dosbarth yn un esmwyth. Yn ystod fy amser ym Mhrifysgol Aberystwyth, rwyf wedi gwneud penderfyniadau ac wedi cwrdd â phobl sydd wedi newid cwrs fy mywyd ar ôl graddio. Mae’r sgiliau a’r profiadau a gefais drwy fy nghwrs wedi fy helpu i benderfynu ar fy llwybr gyrfa yn y dyfodol (TAR mewn Addysg Gynradd, ac o bosibl gradd Meistr mewn Seicoleg Glinigol yn ddiweddarach). Drwy fy narlithoedd a’r cymdeithasau yr wyf wedi ymuno â hwy, rwyf wedi ffurfio grŵp cryf o ffrindiau a chwrdd â’m partner oes. Mae’r profiad o fyw oddi cartref wedi bod yn amhrisiadwy, ac rwyf wrth fy modd ag awyrgylch Aber (yn enwedig llwybrau’r coetiroedd a’r pier!). Mae wedi bod yn hyfryd byw yma, a byddaf yn sicr yn gweld ei eisiau pan fyddaf yn graddio ym mis Gorffennaf!

Ydych chi wedi gwneud unrhyw waith gwirfoddol neu brofiad gwaith yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol?
Mae llawer o gyfleoedd ar gael i ennill profiad gwaith neu wirfoddoli, ac rwyf wedi manteisio ar y rhan fwyaf ohonynt! Yn ystod fy nhair blynedd yn Aber, rwyf wedi bod yn Llysgennad Myfyrwyr, yn Dywysydd Cyfoedion, yn Gynrychiolydd Academaidd, yn aelod o Senedd y Myfyrwyr drwy Undeb y Myfyrwyr, yn aelod o bwyllgor cymdeithas, ac yn Brif Arweinydd Prosiect Aber Nightline. Fe wnaeth y gwasanaeth gyrfaoedd fy helpu i drefnu profiad gwaith gydag ysgol leol, ac mae fy holl brofiadau eraill wedi’u trefnu naill ai drwy’r Adran Seicoleg neu Undeb y Myfyrwyr. Nid yn unig yr wyf wedi ennill profiadau, hyfforddiant a thystiolaeth amhrisiadwy ar gyfer fy CV, ond rwyf hefyd wedi cael amser gwych! O ddigwyddiadau gwirfoddolwyr ac aelodau pwyllgor megis y parti dathlu diwedd blwyddyn, i deithiau arbennig o amgylch Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae gwirfoddoli wedi rhoi cymaint o brofiadau i mi ac wedi fy ngalluogi i weld agweddau ar Aber na fyddwn erioed wedi’u gweld fel arall. Byddwn yn argymell yn bendant i unrhyw un gymryd rhan mewn o leiaf un o’r nifer o brosiectau sydd ar gael ar y campws!

Allwch chi awgrymu rhai awgrymiadau a chyngor i fyfyrwyr y dyfodol?
Fy nghyngor pennaf yw: dewch i gymryd rhan! Gwnewch y mwyaf o bopeth sydd gan y brifysgol i’w gynnig, boed hynny’n siarad wyneb yn wyneb â darlithwyr, defnyddio’r gampfa a’r pwll nofio, manteisio ar y llyfrgell sydd ar agor 24/7, neu archwilio’r dref a darganfod y mannau gorau i astudio a chymdeithasu. Mae Undeb y Myfyrwyr a holl wasanaethau’r brifysgol yma i’ch cefnogi, ac maent ar gael yn rhad ac am ddim. Felly, manteisiwch arnynt. Peidiwch â theimlo’n wael am ofyn am help, a pheidiwch â gadael i swildod eich atal rhag cwrdd â phobl newydd. Mae’r darlithwyr a’r staff cymorth yma i’ch helpu, ac mae dros gant o gymdeithasau a chlybiau chwaraeon ar gael, felly mae grŵp addas i bawb. Un o’r penderfyniadau gorau a wnes yn y brifysgol oedd ymuno â chymdeithas yn fy ail flwyddyn o’r diwedd. Fe wnaeth hynny fy helpu i wneud ffrindiau a chwrdd â phobl na fyddwn erioed wedi dod ar eu traws fel arall!

Claudia Jay - Seicoleg


Allwch chi ddisgrifio eich profiad personol ar eich cwrs ac yn y Brifysgol?
Dechreuais astudio’r radd israddedig mewn Seicoleg yn 2023. Roeddwn yn nerfus gan nad oeddwn wedi astudio Seicoleg ar lefel A ac nid oeddwn yn siŵr a fyddwn yn gallu cadw i fyny â’r gwaith. Cafodd fy mhryderon eu tawelu dros y ffôn gan bennaeth yr adran ar y pryd, a eglurodd eu bod yn sicrhau bod y cwrs yn hygyrch i bawb. Dywedwyd wrthyf hefyd, pe bawn yn dal yn ansicr, fod cwrs sylfaen ar gael y gallwn wneud cais amdano. Penderfynais fynd yn syth ymlaen i’r radd israddedig, ac rwy’n falch iawn fy mod wedi gwneud hynny. Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, canolbwyntiais ar geisio dal i fyny â myfyrwyr eraill a oedd wedi astudio Seicoleg Safon Uwch. Roedd fy nhiwtor personol yn ffynhonnell wych o gefnogaeth, ac wrth imi ddweud wrthi nad oeddwn wedi ysgrifennu traethawd ers fy arholiadau TGAU, rhoddodd gyngor i mi ar lyfrau a gwefannau defnyddiol. Rwy’n cofio bod mor bryderus wrth gael canlyniad fy nhraethawd cyntaf cyn y Nadolig, dim ond i ddarganfod fy mod wedi ennill marc Dosbarth Cyntaf. Fe wnaeth hynny fy synnu a rhoi hyder newydd imi yn fy ngallu i wneud yn dda. Treuliais weddill fy mlwyddyn gyntaf yn mwynhau cynnwys y darlithoedd ac yn manteisio ar y profiadau sy’n dod gyda bod yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf. Wrth ddechrau fy ail flwyddyn, roeddwn yn gwybod y byddai’r flwyddyn hon yn cyfrannu at fy ngradd ac roeddwn eisiau ennill profiad ym maes Seicoleg er mwyn canfod yn well beth oedd fy niddordebau ar gyfer y dyfodol. Dewisais fodiwlau dewisol ar bynciau yr oeddwn yn meddwl y byddwn yn mwynhau eu hastudio, a dechreuais ddatblygu fy niddordebau mewn Seicoleg Wybyddol, Seicoleg Iaith a Seicoleg Datblygiadol. Fel rhan o fy ymdrech i ennill profiad, cymerais ran mewn cwrs Iaith Arwyddion Prydain (BSL) am ddim drwy’r Brifysgol. Rhoddodd hyn gyfle imi gwrdd â llawer o bobl newydd ac arsylwi rhai o’r dulliau iaith yr oeddwn wedi dysgu amdanynt yn cael eu defnyddio yn ymarferol. Ar ôl fy ail flwyddyn, penderfynais aros yn Aberystwyth dros yr haf, sef fy hoff gyfnod o’r flwyddyn, tra oeddwn yn gweithio yn yr ysbyty lleol. Trwy ffrind ar fy nghwrs, cysylltais â’r cydlynydd lleoliadau gwaith yn yr ysbyty a chefais brofiad gwaith dros yr haf. Yno y sylweddolais fy mod wrth fy modd â Seicoleg Datblygiadol, a dechreuais ymchwilio i gyrsiau Meistr. Daeth fy nhrydedd flwyddyn a’m blwyddyn olaf yn llawer rhy gyflym, ac aeth heibio’n gynt nag yr oeddwn yn ei ddisgwyl. Yn ogystal â gweithio ochr yn ochr â’m hastudiaethau, deuthum o hyd i grŵp gwirfoddoli drwy dudalen cymdeithasau’r Brifysgol a oedd yn canolbwyntio ar leihau niwed sy’n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol ymhlith y gymuned fyfyrwyr. Er fy mod bellach bron â chwblhau fy astudiaethau, mae fy nghyd-fyfyrwyr a minnau wedi trafod pa mor drist ydym o orfod ffarwelio ag Aberystwyth. Mae’r Brifysgol wir wedi ein galluogi i ddatblygu ein diddordebau mewn Seicoleg, yn ogystal â datblygu fel oedolion.

Ydych chi wedi gwneud unrhyw waith gwirfoddol neu brofiad gwaith yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol?
Cefais ddau leoliad gwaith yn ystod fy nghyfnod yn y Brifysgol. Ar gyfer fy lleoliad cyntaf, cysylltais â chydlynydd lleoliadau gwaith yr ysbyty fy hun ar ôl i un o’m ffrindiau gymryd rhan yn y modiwl lleoliad gwaith. Cefais brofiad deuddydd yn yr adran Therapi Galwedigaethol. Ar un diwrnod gwelais asesiadau seicolegol a chorfforol yn cael eu cynnal gyda chleifion strôc, ac ar y llall arsylwais sut yr oedd addasiadau’n cael eu gwneud ar gyfer cleifion cardiaidd pan oeddent yn barod i gael eu rhyddhau o’r ysbyty. Er bod tîm y Therapi Galwedigaethol yn groesawgar iawn ac imi fwynhau’n fawr gweld ymarferion seicolegol ar waith, gwnaeth y profiad imi sylweddoli fy mod eisiau canolbwyntio mwy ar therapïau seicolegol yn hytrach na therapi galwedigaethol. Ar gyfer fy ail leoliad, cymerais ran mewn profiad tridiau ar ward plant, gan gysgodi arbenigwr chwarae. Mae arbenigwyr chwarae yn defnyddio chwarae fel ffordd o helpu plant i deimlo’n gyfforddus mewn amgylchedd ysbyty. Roedd hyn yn cynnwys egluro i blentyn 24 mis oed sut yr oedd sampl gwaed yn mynd i gael ei chymryd gan ddefnyddio doliau, ac egluro i blentyn pum mlwydd oed sut roedd peiriant MRI yn gweithio gan ddefnyddio Lego. Cadarnhaodd y profiad hwn fy niddordeb mewn Seicoleg Datblygiadol, gan fod y gwahaniaethau yn y dulliau gweithredu yn ôl oedran yn hynod ddiddorol i mi. Cefais hyd yn oed gyfle i gwrdd â chi therapi o’r enw Milo! Ar ôl fy lleoliadau, roeddwn yn gwybod fy mod eisiau gwirfoddoli naill ai yn y gymuned leol neu gyda’r Brifysgol yn ystod fy mlwyddyn olaf. Deuthum o hyd i New Narratives drwy dudalen cymdeithasau’r Brifysgol ac anfonais e-bost yn gofyn a allwn ymuno. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, cefais hyfforddiant ochr yn ochr â gwirfoddolwyr newydd eraill drwy Wasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed (DDAS). Ar ôl dilyn modiwl ar gyffuriau ac ymddygiad yn fy nhrydedd flwyddyn, roedd yn ddiddorol gweld sut yr oedd ymchwil yn cael ei haddasu’n ddulliau cymunedol ymarferol. Gwirfoddolais i redeg cyfryngau cymdeithasol y prosiect a helpu mewn clinigau er mwyn rhoi cyfle i fyfyrwyr leisio unrhyw bryderon oedd ganddynt. Roedd hyn yn brofiad pleserus yn ystod fy nhrydedd flwyddyn gan ei fod yn hyblyg, ac oherwydd ei fod yn brosiect a arweiniwyd gan fyfyrwyr, roedd pawb yn deall bod gwaith prifysgol yn dod yn gyntaf.

Allwch chi awgrymu rhai awgrymiadau a chyngor i fyfyrwyr y dyfodol?
Fy nghyngor i fyfyrwyr y dyfodol fyddai: “Byddwch yn agored i roi cynnig ar unrhyw brofiad, hyd yn oed os nad yw’n ymddangos yn ddiddorol ar y pryd.” Mae Aberystwyth yn cynnig cyfleoedd di-ri os ydych yn mentro estyn allan. Mae cyrsiau dysgu gydol oes ar gael yn rhad ac am ddim, a gallant ychwanegu cymaint at eich profiad. Mae’r tîm cyngor gyrfaoedd mewn cysylltiad cyson i helpu gydag unrhyw fater, mawr neu fach, ac mae cyfleoedd niferus i wirfoddoli, boed drwy’r myfyrwyr neu’r gymuned leol. Nid oes unrhyw frys i wybod yn union beth rydych eisiau ei wneud yn eich blwyddyn gyntaf, ond ni fyddwch byth yn gwybod beth sy’n addas i chi os na fyddwch yn rhoi cynnig ar ychydig bach o bopeth!

Jia Yao Lee - Seicoleg gyda Chwnsela

Allwch chi ddisgrifio eich profiad ar eich cwrs ac yn y Brifysgol?
Mae astudio Seicoleg gyda Chwnsela ar lefel israddedig wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn i mi hyd yma. Rwy’n arbennig o fwynhau’r modiwlau cwnsela oherwydd eu bod yn teimlo’n ymarferol ac yn berthnasol i fywyd bob dydd, ac rwyf wedi dysgu llawer am gyfathrebu, iechyd meddwl, a deall pobl yn well. Yn fy mhrofiad i, mae’r darlithwyr wedi bod yn gefnogol iawn ac yn hawdd mynd atynt, ac mae hynny wedi gwneud y broses o ymgartrefu yn y brifysgol yn llawer haws. Mae gan y Brifysgol wasanaethau cymorth iechyd meddwl rhagorol hefyd, gan gynnwys cwnsela am ddim a gwasanaethau gyrfaoedd i fyfyrwyr, a chanfûm y rhain yn hynod o ddefnyddiol yn bersonol. Y tu allan i’m cwrs, rwyf wedi mwynhau cymryd rhan ym mywyd y Brifysgol. Deuthum yn llywydd Cymdeithas Malaysia Aberystwyth, ymunais â’r tîm pêl-droed pum ochr (futsal), a gwirfoddolais hefyd fel gwirfoddolwr gwrando gyda Nightline Aberystwyth. Mae’r profiadau hyn wedi fy helpu i gwrdd â phobl newydd, magu hyder, a datblygu sgiliau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Mae llawer o gymdeithasau a chyfleoedd gwych i gymryd rhan ynddynt, a byddwn yn sicr yn eu hargymell i fyfyrwyr newydd. Peth arall rwy’n ei garu am astudio yn Aberystwyth yw’r amgylchedd ei hun. Os ydych yn hoffi tref lan môr dawelach gyda chymuned fach ond glos, yna Aberystwyth yw’r lle perffaith i chi. Mae’r golygfeydd a’r natur o amgylch y dref yn ei gwneud yn lle hynod ymlaciol i fyw ac astudio.

Ydych chi wedi gwneud unrhyw waith gwirfoddol neu brofiad gwaith yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol?
 Dros 40 awr fel gwirfoddolwr gwrando gyda Nightline. Mae hon yn wasanaeth a redir gan fyfyrwyr sy’n darparu gwasanaeth gwrando cyfrinachol, dienw ac an-gyfarwyddol, ynghyd â chefnogaeth emosiynol dros y ffôn i fyfyrwyr prifysgol. • Dros 50 awr yn gweithio fel cynorthwyydd lletygarwch ym Mhrifysgol Aberystwyth. Roedd y gwaith yn cynnwys bod yn farista, gweini bwyd, cynorthwyo gyda llety myfyrwyr, a gwneud gwaith glanhau.

Allwch chi awgrymu rhai awgrymiadau a chyngor i fyfyrwyr y dyfodol?
Cadwch yn egnïol, dewch o hyd i’ch grŵp o bobl, a heriwch eich hun i gamu y tu allan i’ch parth cysur drwy roi cynnig ar bethau newydd a manteisio ar y systemau cymorth sydd ar gael, megis eich tiwtor personol. Mae yna hefyd lawer o lefydd cudd a diddorol yn Aberystwyth, does ond angen i chi fynd allan i archwilio ychydig!

Paulina Palinkiewicz - Seicoleg

Allwch chi ddisgrifio eich profiad ar eich cwrs ac yn y Brifysgol?
Dyma wedi bod y profiad gorau yn fy mywyd addysgol. Mae wedi ehangu fy ngorwelion ac wedi profi bod popeth yn bosibl os ydych yn benderfynol o’i gyflawni. Dysgais feddwl yn feirniadol, sydd wedi fy ngalluogi i edrych ar nifer o agweddau ar wyddoniaeth mewn ffordd fwy diddorol a dyfnach. Rwy’n 57 oed erbyn hyn, ac rwy’n hynod falch fy mod wedi gallu gwireddu fy mreuddwyd o ddysgu am gyfrinachau Seicoleg.

Ydych chi wedi gwneud unrhyw waith gwirfoddol neu brofiad gwaith yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol?
Na.

Allwch chi awgrymu rhai awgrymiadau a chyngor i fyfyrwyr y dyfodol?
Byddwn yn argymell Prifysgol Aberystwyth fel lle hynod gyfeillgar a chefnogol i astudio. Yr Adran Seicoleg yw fy hoff adran yn ddiamau. Manteisiwch i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael, peidiwch â bod ofn gofyn am gymorth, a chredwch yn eich gallu eich hun. Gyda gwaith caled a phenderfyniad, mae modd cyflawni mwy nag y credwch.

Abigail Redhead - Seicoleg gyda Chwnsela (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Allwch chi ddisgrifio eich profiad ar eich cwrs ac yn y Brifysgol?
Penderfynais ddod i Aberystwyth ar ôl derbyn Ysgoloriaeth Mynediad Teilyngdod ar gyfer Seicoleg, ac ni allwn fod yn hapusach fy mod wedi dewis astudio yma. Mae pawb yma yn frwdfrydig iawn dros ddysgu, beth bynnag fo’u pwnc, ac mae hynny’n ei gwneud hi’n hawdd iawn i mi deimlo’n llawn cymhelliant, o fewn y ddarlithfa a thu hwnt. Mae’n hawdd iawn cysylltu â darlithwyr am unrhyw beth, hyd yn oed os yw’n ymddangos yn fater dibwys, ac rwyf wedi dysgu cymaint am sut i fynd ati gyda’m gwaith dim ond trwy’r sgyrsiau hynny. Roeddwn yn ffodus iawn i ddod ar draws Ffair Cyfleoedd Byd-eang yn ystod fy semester cyntaf, a bu modd imi ddechrau ystyried treulio blwyddyn dramor er mwyn ehangu fy astudiaethau. Mae’r broses o newid cynllun gradd wedi bod yn hynod o syml, a chafodd hynny ei hwyluso gan y Swyddfa Cyfleoedd Byd-eang a’r cydlynydd blwyddyn dramor yn y Seicoleg. Bellach, rwy’n methu aros i ehangu fy addysg mewn meysydd na fyddwn erioed wedi meddwl y byddwn yn eu hastudio eto. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf fel myfyriwr israddedig, rwyf wedi cael y cyfle i weithio fel llysgennad i’r adran, rhywbeth yr wyf wedi ei fwynhau’n fawr. Rwy’n gwybod y gall profiad gyda llysgennad adran gael dylanwad mawr ar farn rhywun am gwrs prifysgol, felly rwy’n gobeithio y gallaf barhau i hyrwyddo’r adran hyd eithaf fy ngallu. Mae wedi bod yn amgylchedd mor groesawgar a chefnogol i mi, ac rwyf eisiau rhannu’r teimlad hwnnw gyda myfyrwyr y dyfodol.

Ydych chi wedi gwneud unrhyw waith gwirfoddol neu brofiad gwaith yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol?
Ar hyn o bryd, rwy’n gwirfoddoli i’r Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ystod diwrnodau agored a diwrnodau ymgeiswyr, ac rwyf wedi mwynhau’r profiad yn fawr. Y tu allan i hynny, rwy’n gynorthwyydd bugeiliol gyda Chôr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, gan weithio ar eu cyrsiau preswyl dros yr haf a’r Pasg. Mae fy rôl yn cynnwys darparu gofal dros nos a gwasanaethu fel cymorth cyntafwr, sy’n caniatáu imi ddatblygu sgiliau newydd wrth weithio o fewn côr yr wyf wedi bod yn aelod ohono ers oeddwn yn naw mlwydd oed. Yn ogystal, mae gennyf gyfnod o brofiad arsylwi gyda therapydd galwedigaethol sy’n arbenigo mewn gweithio gyda chleifion sglerosis ymledol (MS) a strôc wedi’i drefnu ar gyfer yr haf hwn cyn imi adael am fy mlwyddyn dramor. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn rhoi profiad ymarferol gwerthfawr imi ym maes cymorth a gofal, yn ogystal â’m helpu i benderfynu a allai hwn fod yn lwybr gyrfa posibl i mi yn y dyfodol.

Allwch chi awgrymu rhai awgrymiadau a chyngor i fyfyrwyr y dyfodol?
Edrychwch ar dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau’r Brifysgol. Mae gan Aberystwyth un o’r cynlluniau mwyaf hael yn y wlad, a gall derbyn rhywbeth fel cynnig diamod dynnu cryn dipyn o’r pwysau oddi arnoch cyn dechrau eich Safon Uwch. Hefyd, nid yw treulio blwyddyn dramor mor ddrud ag y byddech efallai yn ei ddychmygu, ac mae’n bosibl y gallwch ddewis treulio un semester dramor os yw blwyddyn lawn yn teimlo’n rhy hir. Edrychwch ar y wybodaeth ar-lein neu siaradwch â’r tîm Cyfleoedd Byd-eang cyn dod yma. Byddant yn gallu eich tywys drwy’r holl broses a rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch, a gallant hefyd eich cynghori ynghylch lleoliadau tramor os oes gennych ddiddordeb mewn blwyddyn mewn diwydiant.

Casey Charlotte Reader - Seicoleg gyda Seicoleg Fforensig ac Ymchwiliol


Allwch chi ddisgrifio eich profiad ar eich cwrs ac yn y Brifysgol?

Mae astudio BSc Seicoleg gyda Seicoleg Fforensig (C802) ym Mhrifysgol Aberystwyth ers 2023 wedi bod yn brofiad gwerth chweil a hynod ddifyr. Mae’r cwrs wedi fy ngalluogi i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o ymddygiad troseddol a’r ffordd y caiff seicoleg ei chymhwyso mewn cyd-destunau byd go iawn, gan gryfhau fy sgiliau ymchwil, dadansoddi a meddwl beirniadol ar yr un pryd. Rwyf wedi mwynhau’n arbennig archwilio pynciau ym maes seicoleg fforensig a chymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol i sefyllfaoedd ymarferol. Mae’r amgylchedd dysgu cefnogol a’r staff hawdd mynd atynt wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol i’m datblygiad academaidd ac wedi fy helpu i dyfu mewn hyder drwy gydol fy ngradd. Ar y cyfan, mae fy mhrofiad yn y Brifysgol wedi bod yn hynod gadarnhaol, ac mae’r cwrs wedi cryfhau fy niddordeb mewn dilyn gyrfa mewn meysydd sy’n gysylltiedig â seicoleg.

Ydych chi wedi gwneud unrhyw waith gwirfoddol neu brofiad gwaith yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol?
Hyd yma, mae fy amser yn y Brifysgol wedi bod yn werthfawr ac yn ddifyr iawn. Rwyf wedi datblygu mwy o hyder yn fy ngalluoedd academaidd, yn ogystal â chryfhau fy sgiliau ymchwil, dadansoddi a meddwl yn feirniadol. Mae’r amgylchedd cefnogol a’r staff hawdd mynd atynt wedi cael effaith gadarnhaol ar fy mhrofiad ac wedi fy helpu i ddatblygu yn academaidd ac yn bersonol. Ochr yn ochr â’m hastudiaethau, rwyf wedi ennill profiad gwaith fel Gweithiwr Cymorth Cymunedol. Mae’r rôl hon wedi rhoi mewnwelediad gwerthfawr i ymddygiad, iechyd meddwl ac anghenion unigolion, gan ganiatáu imi ddatblygu sgiliau ymarferol a chymhwyso fy nealltwriaeth mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn.

Allwch chi awgrymu rhai awgrymiadau a chyngor i fyfyrwyr y dyfodol?
Cadwch yn drefnus, cymerwch ran weithredol mewn darlithoedd a seminarau, a gwnewch ddefnydd o’r cymorth sydd ar gael o fewn yr adran. Bydd cadw i fyny â’r darllen a mynd ati i archwilio meysydd sydd o ddiddordeb i chi yn eich helpu i gael y gorau o’r cwrs a datblygu sgiliau gwerthfawr ar gyfer cyfleoedd gyrfa yn y dyfodol.

Priyanka Singh - Seicoleg


Allwch chi ddisgrifio eich profiad ar eich cwrs ac yn y Brifysgol?

Roedd dod i Aberystwyth fel myfyriwr rhyngwladol o India yn newid mawr iawn – gwlad newydd, hinsawdd newydd, a ffordd hollol wahanol o ddysgu. Roedd y misoedd cyntaf yn teimlo’n llethol, ond gwnaeth awyrgylch glòs Aberystwyth a chynhesrwydd gwirioneddol yr Adran Seicoleg wneud y broses o ymgartrefu yn llawer haws nag yr oeddwn wedi’i ddisgwyl. Yr hyn sydd wedi sefyll allan fwyaf i mi yw’r cyfleoedd ymchwil. Treuliais semester ym Mhrifysgol Talaith Arizona, a’m hannogodd i feddwl am seicoleg mewn ffordd fwy rhyngddisgyblaethol. Yn ôl yn Aber, rwyf wedi gweithio ar brosiectau yn amrywio o gategoreiddio mynegiadau wyneb i gydweithrediad cyfredol gyda Phrifysgol Humboldt Berlin sy’n ymchwilio i ymatebion ehangu disgyblion y llygaid i gerddoriaeth. Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl oni bai am y darlithwyr sy’n gwneud amser i fyfyrwyr sydd eisiau cymryd rhan. Y tu allan i ddarlithoedd, mae gwirfoddoli fel Cyfaill Cleifion ar y Ward Strôc wedi bod yn un o rannau mwyaf ystyrlon fy mhrofiad prifysgol. Mae wedi fy atgoffa dro ar ôl tro pam yr wyf am weithio ym maes seicoleg. Mae eistedd gyda rhywun, gwrando’n ofalus, a bod yn bresenoldeb tawel a chefnogol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Byddaf yn gadael Aber gyda syniad llawer cliriach o’r cyfeiriad yr wyf am ei ddilyn yn y dyfodol.


Ydych chi wedi gwneud unrhyw waith gwirfoddol neu brofiad gwaith yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol?
Ydw. Rwyf wedi bod yn Gyfaill Cleifion ar y Ward Strôc yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais (GIG Cymru) ers mis Tachwedd 2024, gan gefnogi cleifion drwy sgyrsiau a gweithgareddau sy’n helpu i leihau’r teimlad o unigedd yn ystod eu cyfnod adfer. Derbyniais lythyr canmoliaeth gan GIG Cymru ym mis Mehefin 2025 am fy ngwaith gwirfoddol. Cwblheais hefyd leoliad gwaith ar Ward y Plant yn Ysbyty Bronglais ym mis Gorffennaf 2025 o dan oruchwyliaeth Arbenigwr Chwarae Iechyd Cofrestredig. Yn ogystal â hyn, rwyf wedi cymryd rhan mewn nifer o interniaethau mewn Seicoleg Glinigol. Yn y Brifysgol, rwyf hefyd yn Llysgennad i’r Adran Seicoleg, yn Dywysydd Cyfoedion, ac yn Gynrychiolydd Academaidd.

Allwch chi awgrymu rhai awgrymiadau a chyngor i fyfyrwyr y dyfodol?

  1. Cymerwch ran yn gynnar. Mae cynlluniau Llysgennad a Thywysydd Cyfoedion yr Adran Seicoleg yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a theimlo eich bod yn rhan o gymuned.
  2. Gwirfoddolwch mewn maes sy’n bwysig i chi. Yn aml, byddwch yn dysgu mwy o brofiadau gwirfoddol nag o unrhyw fodiwl academaidd.
  3. Peidiwch â bod ofn anfon e-bost at ddarlithwyr. Maent yn llawer mwy hawdd mynd atynt nag y byddech yn ei feddwl, a gallant agor drysau at brosiectau ymchwil a chyfleoedd newydd.
  4. Defnyddiwch adnoddau academaidd am ddim i archwilio pynciau y tu hwnt i gynnwys eich modiwlau. Mae hyn yn wych ar gyfer eich CV ac yn eich helpu i ddarganfod beth sy’n eich ysbrydoli fwyaf.
  5. Gofalwch am eich iechyd meddwl, yn enwedig yn ystod cyfnod yr arholiadau. Mae gwasanaethau lles a chymorth Aberystwyth yno am reswm, felly peidiwch ag oedi cyn eu defnyddio.

Sioned Walters - Seicoleg a Throseddeg


Allwch chi ddisgrifio eich profiad ar eich cwrs ac yn y Brifysgol?

Yn bersonol, mae fy mhrofiad ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn rhagorol! Mae’r cyfleoedd yr wyf wedi’u cael drwy astudio yn Aber ac o fewn fy ngradd wedi bod yn hynod werthfawr ac wedi gwneud fy mhrofiad yma hyd yn oed yn well. Mae’r cyfleoedd hyn yn cynnwys bod yn gynrychiolydd academaidd Cymraeg, cymryd rhan mewn cyrsiau gyda’r Adran Gyrfaoedd (Flourish), a llawer mwy. Nid yn unig y mae’r rhain wedi cynyddu fy hyder, ond maent hefyd wedi fy helpu i gwrdd â phobl newydd ar hyd y daith. Mae gallu cynrychioli’r Gymraeg yn fy adran wedi bod yn arbennig o fuddiol i mi. O ran y Gymraeg, mae’r adrannau Seicoleg a Throseddeg yn hyrwyddo’r iaith yn eithriadol o dda drwy gynnig seminarau penodol i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn ogystal â darlithwyr cwbl rhugl sy’n hynod gefnogol. Mae hyn, ynghyd â’r gallu i gwblhau fy ngwaith cwrs, gan gynnwys fy nhraethawd hir, drwy gyfrwng y Gymraeg, wedi bod yn ffactor cadarnhaol iawn i mi fel rhywun a ddaeth o ysgol Gymraeg. Mae wedi gwneud fy mhrofiad academaidd yma yn un gwirioneddol werth chweil. Fel myfyriwr gradd anrhydedd ar y cyd, mae’r gallu i gyfuno cysyniadau Seicoleg a Throseddeg wedi bod yn brofiad diddorol a goleuedig iawn. Mae’r ddau bwnc wedi cynnig safbwyntiau gwahanol i mi, ac oherwydd hyn rwyf wedi cael y cyfle i archwilio ystod eang o bynciau seicolegol a throseddolegol. Os ydych yn ystyried gradd anrhydedd ar y cyd, byddwn yn sicr yn eich annog i roi cynnig arni! Mae gallu cwrdd â myfyrwyr yn y ddau bwnc a bod yn rhan o ddwy adran yn rhoi’r gorau o’r ddau fyd i chi. Mae’n wir iawn pan fydd pobl yn dweud y dylech fanteisio ar bob cyfle, a byddwn yn annog unrhyw un i wneud hynny. Heb os nac oni bai, ni fyddwn wedi gwneud y cysylltiadau na chael y cyfleoedd a gefais pe na bawn wedi mentro a rhoi fy hun allan yna. Felly fy nghyngor yw: ewch amdani a manteisiwch ar bob cyfle sy’n dod i’ch rhan! Dyma restr o rai o’r cyfleoedd yr wyf wedi manteisio arnynt yn ystod fy nghyfnod yma:

  • Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg
  • Flourish (cyfres o weithdai gyda’r Adran Gyrfaoedd)
  • Cynrychiolydd Academaidd Cymraeg yr Adran Seicoleg
  • Cynrychiolydd Troseddeg Blwyddyn 2 a 3 BSc
  • Cwrs Rheoli Straen Dysgu Gydol Oes
  • Rhaglen Parodrwydd ar gyfer Gyrfa

Ydych chi wedi gwneud unrhyw waith gwirfoddol neu brofiad gwaith yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol?
Ydw. Rwyf wedi cwblhau amrywiaeth o waith gwirfoddol gyda'r GIG, yn bennaf yn Ysbyty Bronglais. Roedd fy amserlen astudio yn gweithio’n dda gyda gwirfoddoli unwaith yr wythnos, ac roedd hefyd yn rhoi cyfle i mi gymryd hoe oddi wrth waith fy nghwrs. Roedd yn brofiad gwerthfawr a phleserus iawn, a roddodd gyfle imi gyfrannu at y gymuned leol a datblygu sgiliau newydd.

Allwch chi awgrymu rhai awgrymiadau a chyngor i fyfyrwyr y dyfodol?
Yn ogystal â’r awgrymiadau a grybwyllwyd uchod, byddwn yn cynnig y cyngor canlynol:

  • Peidiwch â bod ofn siarad â phobl neu fyfyrwyr eraill yn ystod yr wythnos gyntaf. Mae’n debygol iawn eu bod hwythau hefyd yn teimlo’n unig, yn swil neu ychydig ar goll.
  • Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cwrs, anfonwch e-bost cyn dod i Aberystwyth. Mae pawb yn hynod barod eu cymwynas ac yn awyddus i helpu.
  • Manteisiwch i’r eithaf ar eich amser yma, oherwydd mae’n mynd heibio’n llawer cyflymach nag y byddech yn ei ddisgwyl.
  • Peidiwch â rhoi gormod o bwysau arnoch eich hun. Ewch allan, mwynhewch y prom, a manteisiwch ar fywyd cymdeithasol Aberystwyth. Mae’n lle gwych i dreulio amser gyda ffrindiau.
  • I fyfyrwyr Cymraeg: mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Brifysgol yn cynnig cymhellion ariannol ar gyfer astudio modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg. Cadwch lygad am wybodaeth am hyn yn ystod eich wythnosau cyntaf.
  • Os ydych yn awyddus i ddilyn cwrs ychwanegol tra byddwch yma, byddwn yn argymell yn gryf eich bod yn edrych ar gyrsiau Dysgu Gydol Oes, gan fod llawer ohonynt ar gael yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr.
  • Defnyddiwch y Gwasanaeth Gyrfaoedd. Maent yn wych ac yn gallu cynnig cymorth gwerthfawr ar bob cam o’ch taith.

Teleri Williams - Seicoleg gyda Chwnsela



Allwch chi ddisgrifio eich profiad ar eich cwrs ac yn y Brifysgol?

Mae fy nghyfnod fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn brofiad sy’n newid bywyd. Mae’r cyfle i ddysgu ochr yn ochr â phobl o’r un anian ac i gael fy nysgu gan ddarlithwyr arbenigol wedi bod yn brofiad gwych. Mae’r cyrsiau wedi bod yn ddiddorol iawn, gyda phob modiwl yn fy ysbrydoli i ymchwilio ymhellach i’r pynciau a drafodwyd yn y darlithoedd, yn enwedig y modiwl cwnsela. Gall gwaith cwrs fod yn straenus ar adegau, ond mae’n fath o straen sydd wedi fy ngwthio i ddyfalbarhau a cheisio gwneud yn well. Rwyf wedi gwerthfawrogi’n arbennig y berthynas rhwng darlithwyr a myfyrwyr. Nid wyf erioed wedi cael fy ngwneud i deimlo’n wirion os nad oeddwn yn deall cysyniad, ac rwyf bob amser wedi cael fy nhrin ag amynedd a dealltwriaeth. Mae hyn wedi fy helpu’n fawr, yn enwedig yn ystod fy ail a’m trydedd flwyddyn. Mae’r cyfleusterau yn y Brifysgol wedi bod yn amhrisiadwy. Mae cael mynediad i’r llyfrgell 24 awr y dydd wedi bod yn rhyddhad mawr i mi, gan wybod bod lle ar gael i mi fynd i astudio os nad wyf yn teimlo y gallaf ganolbwyntio yn fy llety. Un peth a oedd yn achosi ychydig o rwystredigaeth i mi oedd nad yw ail lawr y llyfrgell ar agor 24 awr fel y llawr cyntaf. Ar adegau, yn enwedig yn ystod cyfnod yr arholiadau, gallai’r llawr cyntaf fod yn orlawn.

Ydych chi wedi gwneud unrhyw waith gwirfoddol neu brofiad gwaith yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol?
Na.

Allwch chi awgrymu rhai awgrymiadau a chyngor i fyfyrwyr y dyfodol?
Y prif gyngor yr hoffwn ei roi i fyfyrwyr y dyfodol yw manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd y mae eich cwrs a’ch darlithwyr yn eu cynnig. Mae’r nifer o weithiau rwyf wedi anfon e-bost, gofyn cwestiynau ar ôl darlithoedd, neu drefnu cyfarfodydd gyda darlithwyr, fy nhiwtor personol a chynghorwyr gyrfaoedd wedi bod yn gymorth aruthrol wrth reoli fy mhryderon a dod o hyd i atebion i faterion yr oeddwn yn ansicr yn eu cylch. Peth arall pwysig i’w gofio yw nad yw’r Brifysgol yn lle beirniadol. Ni chewch eich gwrthod nac eich anwybyddu beth bynnag fo’ch pryder, boed yn fawr neu’n fach. Byddwch bob amser yn cael eich trin â pharch. Felly, beth bynnag yr ydych yn ei feddwl neu’n ei deimlo, cofiwch fod y bobl o’ch cwmpas yn poeni am eich lles ac am sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau posibl. Yn ail, yn fy mhrofiad i, mae paratoi cyn darlithoedd yn gwneud gwahaniaeth mawr. Er enghraifft, mae gwneud nodiadau ymlaen llaw yn ffordd wych o baratoi. Mae hyn yn lleihau’r angen i deipio’n gyflym yn ystod y ddarlith ac yn rhoi mwy o amser i chi ychwanegu nodiadau ac esboniadau ychwanegol ar bynciau nad ydych yn hollol sicr ohonynt, heb fynd ar ei hôl hi o gymharu â chyflymder y ddarlith.