149. Firysau ar rewlifoedd yn herio safbwyntiau ar ‘ras arfau’ esblygiadol
Dr Arwyn Edwards

Dr Arwyn Edwards on a glacier

Fe wnaeth Dr Arwyn Edwards o Brifysgol Aberystwyth, ynghyd â chydweithwyr o Brifysgolion Innsbruck, Bryste, Reading, Minnesota ac Aarhus, ddilyn a chymharu genomau (cyfanswm eu DNA) o firysau sy’n heintio microbau ar arwyneb rhewlifoedd yn yr Artig a’r Alpau.

Mae’r firysau, a astudiwyd gan y tîm ymchwil, yn tarddu o byllau bach o ddŵr tawdd ar rewlifoedd, sy’n lleoedd delfrydol i brofi sut mae firysau’n esblygu gan eu bod yn gymunedau bychain wedi’u dyblygu o ficrobau sydd i’w cael ar rewlifoedd sydd wedi’u gwahanu’n eang ledled y byd.

Newyddion: Firysau ar rewlifoedd yn herio safbwyntiau ar ‘ras arfau’ esblygiadol

Mwy o wybodaeth

Dr Arwyn Edwards

Adran Academaidd

Adran Gwyddorau Bywyd

Nesaf
Blaenorol