15. Amlinelliad/Outline: Cydweithrediadau celf-gwyddor mewn cyfnod o newid amgylcheddol, cymdeithasol a thechnolegol
Yr Athro Stephen Tooth

Coeden

Prosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Aberystwyth a’r elusen Art+Science sy’n mynd i’r afael â’r cwestiynau hyn.

Prosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Aberystwyth a’r elusen Art+Science sy’n mynd i’r afael â’r cwestiynau hyn. Mae Cymru yn un o’r ychydig wledydd sydd â llwybr cerdded o amgylch ei harfordir cyfan.

Bydd y prosiect Amlinelliad/Outline dwyieithog yn creu cyfres o weithiau celf rhithwir, safle-benodol, geo-leoli o amgylch yr arfordir y gellir eu gweld gan ddefnyddio ap ar ddyfais symudol. Bydd delweddau, ffilmiau, cerfluniau, cerddi a pherfformiadau yn weladwy/clywadwy yn unig ar bwyntiau tirwedd penodol, pob un yn mynd i'r afael â themâu cyflenwol megis codiad yn lefel y môr, newid tirwedd, hanes/chwedl, a pherthyn i le.

Bydd y prosiect yn annog y cyhoedd i ymweld ag ardaloedd na fyddent fel arfer yn eu hystyried, wrth arddangos mawredd arfordir Cymru (newidiol).

Ein gweledigaeth yw creu corff o weithiau celf a fydd gyda’i gilydd yn gamau cyntaf ar gyfer casgliad digidol cenedlaethol, efallai y cyntaf o’i fath yn y byd.    

Amlinelliad/Outline

LinkedIn – Outline Wales

Mwy o wybodaeth

Yr Athro Stephen Tooth

Adran Academaidd

Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

Nesaf
Blaenorol