Helpu ffermwyr i fynd i’r afael â chlefyd llyngyr yr iau a chadw anifeiliaid yn iach

 

Bob blwyddyn, amcangyfrifir fod y diwydiant da byw yn y DG yn colli hyd at £300 miliwn oherwydd effeithiau llyngyr parasitig ar dwf anifeiliaid, eu ffrwythlondeb a chynhyrchiant llaeth yn ogystal â chynnydd mewn marwolaethau a chostau milfeddygol.

Yn arwyddocaol, gallai paraseit llyngyr yr iau ddod yn fwy fyth o fygythiad wrth i newidiadau yn yr hinsawdd arwain at amodau mwy ffafriol lle gall ffynnu.

Pryder ychwanegol yw ymwrthedd cynyddol llyngyr yr iau i’r cyffuriau a ddefnyddir yn helaeth i drin defaid a gwartheg heintiedig.

Ffactor arall sy’n cymhlethu ei reolaeth yw’r Galba truncatula, sef y falwoden mwd lle mae larfâu llyngyr yr iau yn lletya, yn datblygu ac yn lluosi. Mae’r falwoden hon yn hanfodol o ran trosglwyddo’r llyngyr i dda byw sy’n pori ar y tir.

Mae’r heriau hyn wedi bod yn destun astudiaeth i barasitolegwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ers dros ganrif wrth iddyn nhw chwilio am ddulliau o liniaru effeithiau’r clefyd, sy’n endemig yn y DU ac yn arbennig o gyffredin yng Nghymru.

Gan adeiladu ar arbenigedd a gwybodaeth, mae prosiect ymchwil tair blynedd a lansiwyd yn 2023 yn rhoi dull gweithredu gwahanol ar waith er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng llyngyr yr iau sy’n wynebu ffermwyr da byw.

Wedi’i ariannu gan y BBSRC, mae FlukeMAP yn brosiect ymchwil cydweithredol gyda’i fryd ar feithrin dealltwriaeth pellach o lyngyr yr iau mewn defaid a datblygu strategaethau arloesol, cynaliadwy ar gyfer ei reoli. 

Dan arweiniad tîm o arbenigwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’r prosiect yn dwyn partneriaid allweddol ynghyd gan gynnwys Cyswllt Ffermio, Canolfan Gwyddor Milfeddygaeth Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru ac Ymchwil Ridgeway.

Buddion Economaidd, Amgylcheddol a Lles

Prif Ymchwilydd y prosiect yw Dr Rhys Aled Jones o Adran Gwyddorau Bywyd y Brifysgol ac mae’n rhagweld nifer o fuddion posibl:

“Os gall ein hymchwil ni helpu i reoli’r parasit hwn yn fwy effeithiol, bydd yna fuddion economaidd o ran gwella cynhyrchiant yn ogystal â buddion amgylcheddol. Mae llyngyr yr iau yn haint niweidiol felly bydd buddion hefyd o ran lles anifeiliaid – ac mae sicrhau bod anifeiliaid yn iach yn un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o liniaru effaith amgylcheddol systemau cynhyrchu da byw.”

Ers lansio’r prosiect yn 2023, mae parasitolegwyr a gwyddonwyr milfeddygol y Brifysgol wedi bod yn gweithio’n agos gydag 16 o ffermwyr defaid o bob rhan o Gymru.

Mae eu hymchwil helaeth wedi cynnwys cynnal cyfweliadau manwl gyda’r ffermwyr, cynnal arolygon cynhwysfawr i asesu risgiau heintio ar draws tir amaethyddol a monitro lefelau’r haint mewn defaid sy’n pori.

Canfyddiadau Cynnar

Wrth ddadansoddi’r cyfweliadau a’r data a gasglwyd fel rhan o’r prosiect, mae sawl thema gyffredin eisoes wedi dod i’r amlwg fel yr eglura Dr Gwen Rees o Ysgol Milfeddygaeth Aberystwyth:

“Mae llyngyr yr iau yn glefyd cymhleth, ac mae’r cyngor sydd ar gael i ffermwyr gan filfeddygon a’r diwydiant yn gymysg ac weithiau’n anghyson. Nid yw’n syndod efallai ein bod wedi dod ar draws cryn dipyn o ansicrwydd, gyda ffermwyr yn aml yn ansicr ynglŷn â sut i wneud diagnosis, pryd mae angen triniaeth, pa ardaloedd allai fod yn risg uchel o ran yr haint ac a oedd ganddynt broblem llyngyr yr iau ai peidio.

“O ganlyniad i’w ansicrwydd ynghylch risg yr haint a’r ffordd orau i’w reoli, dywedodd ffermwyr yn aml fod angen defnyddio triniaeth llyngyr yr iau fel mesur rhagofal. Mae’r dull hwn yn cael ei ystyried yn symlach ac yn fwy cost-effeithiol na strategaethau amgen.

“Yng Nghymru, lle mae tir fferm yn nodweddiadol wlyb, mae llawer o ffermwyr yn cysylltu amodau gwlyb yn uniongyrchol â risg gynyddol o’r haint, gan atgyfnerthu’r duedd tuag at driniaeth rhagataliol. Ond gall hyn arwain at ymwrthedd i driniaethau llyngyr yr iau yn ogystal at weddillion meddyginiaeth yn yr amgylchedd.”

Technegau eDNA Arloesol

Mae’r tîm ymchwil hefyd wedi canolbwyntio ar ddarganfod mwy am ba rannau o’u tir y mae ffermwyr yn credu sydd â risg uchel o lyngyr yr iau.

Gan ddefnyddio’r dulliau DNA amgylcheddol (eDNA) diweddaraf a ddatblygwyd yn Aberystwyth, fe wnaethon nhw gynnal arolygon manwl o ffermydd yn 2024 a 2025 i weld lle roedd malwod mwd yn bresennol ac yna cymharu’r data ag ardaloedd a nodwyd yn flaenorol gan ffermwyr fel ardaloedd lle roedd llyngyr yr iau yn risg.

Mae canlyniadau rhagarweiniol o wyth o ffermydd wedi dadlennu anghysonderau amlwg rhwng meysydd risg canfyddedig a risg go iawn.

O'r 57 o leoliadau a nodwyd gan y ffermwyr fel rhai risg uchel, dim ond mewn 32 y canfuwyd malwod mwd. Ymhellach, datgelodd yr arolygon 27 ardal arall lle roedd malwod mwd yn bresennol ond nad oedd wedi'u nodi fel ardaloedd risg gan ffermwyr.

Dywed Dr Rhys Aled Jones fod y canfyddiadau cynnar hyn yn arwyddocaol:

“Mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu nad yw meysydd risg llyngyr yr iau bob amser yn cyd-fynd â chanfyddiadau ffermwyr ac mae goblygiadau pwysig yn perthyn i’r diffyg cysondeb yma rhwng meysydd risg gwirioneddol a chanfyddedig. Heb y gallu i nodi meysydd risg yn gywir, gall fod yn anodd gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch pa anifeiliaid dylid eu blaenoriaethu ar gyfer profi a phryd mae amseru triniaethau’n gywir.

“Ymhellach, efallai na fydd mesurau rheoli di-gemegol megis arferion pori a rheoli tir – cam hanfodol wrth i ymwrthedd llyngyr yr iau ddod yn fwyfwy amlwg - yn cael eu gweithredu yn y ffordd orau bosibl. Mae’r canfyddiadau hyn yn amlygu’r angen i gael canllawiau gwell a datblygu dulliau ymarferol i helpu ffermwyr i asesu ac ymateb yn fwy dibynadwy i risgiau haint llyngyr yr iau ar eu tir.”

Mae’r prosiect hefyd yn anelu at ddatblygu ffyrdd o asesu’n gywir ardaloedd o risg llyngyr ar dir amaethyddol gan gynnwys profion DNA amgylcheddol a phrotein amgylcheddol a all ganfod presenoldeb y falwoden mwd a nodi datblygiad llyngyr yr iau ar y tir.

Dywedodd Dr Chelsea Davis o’r Adran Gwyddorau Bywyd:

“Gall dod o hyd i falwod mwd fod yn hynod o heriol oherwydd eu bod yn fach o ran maint a’u gallu i guddliwio’n dda yn yr amgylchedd mwdlyd o’u cwmpas. Dros y degawd diwethaf rydyn ni wedi datblygu prawf dadansoddi DNA amgylcheddol arloesol sy’n gallu canfod presenoldeb y malwod mwd hyn yn gywir ac yn sensitif, ac sy’n gallu amlygu lle mae anifeiliaid mewn perygl o gael eu heintio ar dir pori. Mae’r prawf hwn wedi ein galluogi i astudio a gwella ein dealltwriaeth o’r falwoden hon ar dir ffarm.

“I gyd-fynd â hyn, rydyn ni nawr yn gweithio i ddatblygu prawf protein amgylcheddol newydd a fyddai â’r fantais o allu canfod presenoldeb llyngyr yr iau heintus ar dir pori ac a fyddai’n arwyddo pryd mae anifeiliaid mewn perygl o gael eu heintio.”

Dadansoddi Nodweddion Pridd 

Mae arolygon a gynhaliwyd gan y tîm ymchwil gan ddefnyddio’r profion amgylcheddol hyn hefyd wedi datgelu bod nodweddion pridd yn chwarae rhan hollbwysig wrth benderfynu a yw malwod mwd, ac o ganlyniad llyngyr yr iau, yn bresennol mewn ardaloedd penodol ar ffermydd.

Dywedodd Chris Smith, myfyriwr PhD yn yr Adran Gwyddorau Bywyd:

“Caiff risgiau llyngyr yr iau eu cysylltu’n aml ag amodau gwlyb cyffredinol ar y ffarm ond fe wnaethon ni ddamcaniaethu bod cyfansoddiad y pridd hefyd yn elfen bwysig. I brofi hyn, aethon ni ati i gasglu ystod o greiddiau pridd o fannau dwrlawn ar draws pob ffarm a’u dadansoddi ar gyfer cynnwys clai, silt, tywod a deunydd organig yn ogystal â lefelau pH. Fe welson ni gysylltiad cryf rhwng presenoldeb y falwoden mwd a nodweddion pridd allweddol, gan gynnwys clai, lefelau deunydd organig a lefelau pH y pridd.”  

Yn benodol, dangosodd dadansoddiad o’r samplau pridd y canlynol hefyd:  

  • fewn ystod pH pridd o 5.2 i 7.5, nid oedd unrhyw effaith ar bresenoldeb y malwod. Fodd bynnag, mewn priddoedd hynod asidig (pH < 5.2), roedd yna ostyngiad amwlg yn y tebygolrwydd o ddod o hyd i falwod mwd. 
  • roedd malwod mwd yn llai cyffredin mewn priddoedd lle roedd y cynnwys deunydd organig (OM) yn codi. 
  • canfuwyd cysylltiad cadarnhaol cryf rhwng cynnwys clai a phresenoldeb y falwoden mwd. 

Dywedodd Dr Rhys Aled Jones: “Mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod risg llyngyr yr iau yn gyffredinol is ar briddoedd asidig iawn a phriddoedd â lefelau mawn uchel – ardaloedd y mae ffermwyr yn aml wedi’u nodi fel rhai risg uchel yn ein gwaith mapio. Fodd bynnag, mae presenoldeb malwod mwd mewn ffosydd a nentydd ger mawndiroedd yn dangos y gallai’r mannau dŵr cyfagos hyn barhau i gynnal poblogaethau o falwod a pheri risg os oes gan anifeiliaid fynediad atyn nhw.”

Mae'r tîm ymchwil yn parhau i weithio gyda ffermwyr a sefydliadau diwydiant i wella eu dealltwriaeth o'r clefyd ymhellach ac i rannu eu canfyddiadau a'u hargymhellion. 

Ychwanegodd Dr Jones: “Mae’r cynnydd ry’n ni’n ei weld yn ymwrthedd llyngyr yr iau i’r cyffuriau sydd wedi’u defnyddio’n gyffredin i drin y clefyd yn golygu bod diddordeb cynyddol bellach mewn strategaethau nad ydynt yn gemegol megis pori strategol, ffensio a draenio i leihau’r risg o heintiad ar ffermydd. Fodd bynnag, mae adborth gan ffermwyr a gymerodd ran yn ein prosiect yn amlygu bwlch sylweddol, sef mai ychydig o ganllawiau ymarferol sydd ar gael i gefnogi’r dulliau hyn ac mae hyder i’w rhoi ar waith yn parhau i fod yn isel.  

“Mynegodd llawer o ffermwyr bryderon ynghylch ymarferoldeb dulliau a argymhellir yn gyffredin, megis ffensio neu osgoi pori ardaloedd risg uchel oherwydd natur eu systemau tir a ffermio. O ganlyniad, mae’r nifer sy’n defnyddio’r strategaethau hyn wedi bod yn gyfyngedig. Mewn cyferbyniad â hyn, roedd ffermwyr yn fwy parod i dderbyn y syniad o brofi a thrin da byw yn strategol er mwyn lleihau halogiad wyau llyngyr yr iau mewn cynefinoedd malwod mwd. Mae’r dull targedig hwn yn effeithiol ar y naill law ond yn cael ei danddefnyddio ar y llall, ac mae’n cynnig llwybr addawol ar gyfer gwella rheolaeth llyngyr yn gynaliadwy.

“Wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen, bydd ein hymchwil yn canolbwyntio fwyfwy ar ddeinameg heintiadiau mewn defaid, gyda chanfyddiadau cynnar yn awgrymu amrywiad sylweddol mewn heintiadau o fewn diadelloedd, hyd yn oed wrth bori caeau gyda phoblogaethau sylweddol o falwod mwd. Bydd dylanwad geneteg defaid, ymddygiad pori a dewisiadau dietegol o ran dylanwadu ar risg heintiad yn cael eu harchwilio hefyd.” 

Mae’r prosiect wedi sicrhau cyllid ychwanegol hefyd i ymchwilio i strategaethau rheoli newydd, yn benodol y defnydd o borthiant amgen i dorri ar draws cylch bywyd llyngyr yr iau, ac i ddatblygu offer newydd i fonitro risg clefydau mewn caeau o bell trwy fonitro lefelau lleithder y borfa trwy ddelweddau lloeren. 

Bydd tîm y prosiect, mewn cydweithrediad â phartneriaid y prosiect, yn parhau i hwyluso digwyddiadau cyfnewid gwybodaeth ar y fferm, er mwyn lledaenu canfyddiadau eu hymchwil a hyrwyddo arferion rheoli llyngyr yn gynaliadwy ymhlith ffermwyr a milfeddygon. 

Ariennir prosiect FlukeMAP gan gyngor ymchwil y BBSRC fel rhan o’r fenter Datblygu atebion ar gyfer clefyd da byw endemig ac arweinir y prosiect gan Brifysgol Aberystwyth mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys Cyswllt Ffermio, Undeb Amaethwyr Cymru, Canolfan Gwyddor Milfeddygaeth Cymru a chwmni ymchwil Ridgeway Research.

 

Y Tîm Ymchwil 

Mae aelodau’r tîm ymchwil yn cynnwys:  

Cysylltwch â ni

Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:

ymchwil@aber.ac.uk