Taclo haint cyffredin mewn da byw gyda thechnolegau newydd - astudiaeth newydd

Defaid ar un o ffermydd Prifysgol Aberystwyth

Defaid ar un o ffermydd Prifysgol Aberystwyth

12 Medi 2023

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn ymchwilio i dechnolegau newydd, gan gynnwys dadansoddi DNA amgylcheddol a defnydd synwyryddion ymddygiad gwisgadwy, i fynd i’r afael â pharaseit sy’n heintio’r rhan fwyaf o breiddiau defaid.

Mae llyngyr yr iau yn barasit pathogenig iawn ac amcangyfrifir ei fod yn heintio 85% o ddefaid a 76% o fuchesi llaeth yn y Deyrnas Gyfunol.

Credir ei fod yn costio hyd at £300 miliwn y flwyddyn i ddiwydiant da byw'r Deyrnas Gyfunol oherwydd ei effaith i ostwng cyfraddau twf, ffrwythlondeb a chynnyrch llaeth ynghyd â chynnydd mewn marwolaethau a chostau milfeddygol sy’n gysylltiedig â’r haint.

Mae'r diwydiant amaeth yn ei ystyried ymhlith y pum afiechyd endemig mwyaf sy'n effeithio ar gynhyrchiant defaid a gwartheg a'u lles yn y wlad.

Mae rheolaeth lwyddiannus o lyngyr yr iau yn bwysig er mwyn cynhyrchu defaid yn gynaliadwy. Ar hyn o bryd, mae hynny’n bennaf ddibynnol ar driniaethau cyffuriau, ond mae gorddefnydd ohonynt dros y degawdau diwethaf wedi arwain at y parasit yn datblygu ymwrthedd.

Mae newid hinsawdd, gyda’i lawiad cynyddol yn yr haf a gaeafau mwynach, wedi cynyddu nifer yr achosion o heintiau dros yr 50 mlynedd diwethaf. Mae hyn yn ffafrio llu canolradd y parasit sef y falwoden mwd, sy’n hanfodol er mwyn i lyngyr yr iau heintio’r da byw.

Bydd yr astudiaeth tair blynedd newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn datblygu dulliau newydd i helpu i reoli llyngyr yr iau mewn defaid yn gynaliadwy. Bydd y technegau hyn yn cynnwys defnyddio profion DNA a phrotein amgylcheddol er mwyn adnabod ardaloedd ar ffermydd lle mae llyngyr yr iau yn heintio defaid a thrwy ddatblygu offer i adnabod yn gywir pa anifeiliaid sydd angen triniaeth a phryd.

Dywedodd Dr Rhys Aled Jones o Brifysgol Aberystwyth sy’n arwain y prosiect:

“Mae cynhyrchwyr da byw yn wynebu bygythiad digynsail gan yr haint dros y degawdau nesaf. Bydd newid hinsawdd, ymwrthedd i gyffuriau a newidiadau polisi rheoli tir i gyd yn cyfrannu at fygythiad cynyddol llyngyr yr iau, a fydd, os na chaiff ei liniaru, yn effeithio’n negyddol ar gynhyrchiant anifeiliaid, lles ac allyriadau carbon.

“Gyda phoblogaethau llyngyr yr iau yn datblygu ymwrthedd yn gyflym i rai triniaethau cyffuriau, mae'n rhaid defnyddio strategaethau rheoli amgen sy'n canolbwyntio ar osgoi heintiau trwy bori a rheoli tir ar ffermydd. Fodd bynnag, er mwyn i’r mesurau hyn fod yn effeithiol, mae’n hollbwysig ein bod yn gallu adnabod yn gywir yr ardaloedd ar ffermydd a chaeau lle mae risg o haint llyngyr yr iau.

“Bydd y prosiect hwn yn defnyddio technegau dadansoddi DNA amgylcheddol a gafodd eu datblygu’n flaenorol ym Mhrifysgol Aberystwyth i adnabod cynefinoedd malwod y mwd ar ffermydd prosiect a gwerthuso nodweddion amgylcheddol yr ardaloedd risg hyn i wella ein dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar bresenoldeb ac ecoleg malwod mwd. Bydd y prosiect hefyd yn datblygu techneg dadansoddi protein amgylcheddol newydd a fydd yn gwella ein galluoedd profi amgylcheddol ymhellach ac yn cynnig cipolwg ar amserlenni risg haint.

“Fodd bynnag, bydd triniaethau cyffuriau yn parhau i fod yn rhan hanfodol o strategaethau rheoli llyngyr yr iau, ac felly rhaid datblygu offer i gefnogi defnydd cynaliadwy o’r triniaethau hyn. Bydd y prosiect hwn yn gwerthuso effeithiolrwydd defnyddio data perfformiad defaid a synwyryddion ymddygiad gwisgadwy ar gyfran fach o’r ddiadell i arwain triniaethau llyngyr yr iau yn fanwl gywir.”

Bydd y prosiect hefyd yn cydweithio â phartneriaid y prosiect, Undeb Amaethwyr Cymru, Menter a Busnes, Canolfan Milfeddygaeth Cymru ac Ymchwil Ridgeway, ffermwyr a milfeddygon. Daw’r cydweithio uniongyrchol hwn i ben gyda rhaglen cyfnewid gwybodaeth wedi’i dylunio ar y cyd a all lunio strategaethau cynaliadwy ar gyfer rheoli llyngyr yr iau yn y Deyrnas Gyfunol yn y dyfodol.

Meddai Dr Hazel Wright, Dirprwy Bennaeth Polisi Undeb Amaethwyr Cymru.

“Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn falch iawn o fod yn bartner yn y prosiect ymchwil arloesol a newydd hwn. Mae effeithiau haint llyngyr yr iau ar dwf a chynhyrchiant diadellau defaid yng Nghymru yn sylweddol. Mae croeso felly i ffrydiau ymchwil i’r mecanweithiau hynny a allai leihau nifer yr achosion o’r parasit hwn yn sylweddol."

"Fel diwydiant rydym yn cydnabod y gall ffactorau fel newid hinsawdd a'i effeithiau ar batrymau tywydd gael effaith aruthrol ar drosglwyddo heintiau parasitig. O ystyried tueddiad llyngyr yr iau i ffynnu yn yr amodau cynhesach a gwlypach y mae ein haelodau yn eu profi ar hyn o bryd., mae'r prosiect hwn yn hanfodol bwysig er mwyn helpu i ddiogelu sector defaid cynaliadwy a ffyniannus yng Nghymru ar gyfer y dyfodol."

Mae’r ymchwil wedi’i ariannu gan grant gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol, sy’n rhan o UKRI.