Defnyddio technoleg newydd i ailafael yn y frwydr yn erbyn Malaria
Mae’r Affrica Is-Sahara yn brwydro’n ddyfal ers degawdau yn erbyn malaria - un o’r bygythiadau mwyaf marwol a di-ildio i iechyd cyhoeddus y byd. Er bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud, mae un her heb ei goresgyn o hyd: yn aml, mae’r mosgitos – sy’n hybu trosglwyddo’r clefyd – yn epilio mewn lleoliadau bach, cudd, a gwasgaredig, ac yn anodd dod o hyd iddynt os defnyddir arolygon daearol yn unig.
Yn awr, mae Dr Andy Hardy o Brifysgol Aberystwyth yn arwain ymchwil arloesol i drawsnewid sut mae’r cynefinoedd hyn yn cael eu darganfod, eu dadansoddi, a’u rheoli – sy’n agor posibiliadau newydd i reoli malaria a’i ddileu yn y pen draw.
Baich parhaus malaria ledled y byd
Mae malaria yn parhau i effeithio’n ofnadwy ar y byd, ac Affrica sy’n dioddef ei effeithiau’n gryfaf. Yn 2024, roedd tua 282 miliwn achos o falaria, a bu farw tua 610,000 o bobl o’i herwydd ledled y byd, yn ôl amcangyfrifon. Ar y rhai mwyaf bregus mae’n effeithio’n fwyaf, sef plant o dan bump oed a menywod beichiog. Yn fras, plant ifanc yw tri chwarter o’r rhai sy’n marw oherwydd malaria yn Affrica.
Yn ogystal â’r gost ddynol enfawr, mae malaria yn gwaethygu tlodi drwy leihau cynhyrchedd, codi costau gofal iechyd, a rhoi pwysau hirdymor ar deuluoedd a systemau iechyd. Er bod buddsoddiadau mawr wedi achub miliynau o fywydau ers 2000, a lleihau’r cyfraddau marwolaeth yn sylweddol, mae’r cynnydd wedi arafu. Mae cannoedd o filoedd o bobl yn marw o hyd bob blwyddyn—ffaith sy’n tanlinellu’r angen am strategaethau newydd a hirdymor, yn enwedig yn yr Affrica Is-Sahara.
.jpg)
Llwybr ymchwil newydd ... meddwl y tu hwnt i’r cartref.
Mae Dr Andy Hardy, Uwch Ddarlithydd mewn Synhwyro o Bell a Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, yn unigolyn allweddol ym maes rheoli malaria. Mae ei waith yn canolbwyntio ar ddefnyddio dronau a thechnolegau synhwyro o bell i ddod o hyd i safleoedd bridio mosgitos, a’u mapio a’u rheoli — yn enwedig y rhai y tu hwnt i gyrraedd dulliau rheoli confensiynol. Mae ef yn esbonio:
“Mewn lleoedd fel Zanzibar, mae ymdrechion rheoli wedi parhau dros sawl degawd, ac wedi llwyddo i leihau’r gyfradd drosglwyddo malaria yn sylweddol. Serch hynny, mae’r ymdrechion hyn wedi dibynnu ar ddulliau diogelu pobl yn y tŷ yn bennaf - fel defnyddio pryfleiddiaid ar rwydi gwely a’u chwistrellu ar furiau mewnol y cartref.
“Er mwyn gwneud cynnydd pellach, mae angen meddwl y tu allan i’r cartref. Mae llawer o’r mosgitos sy’n dal i drosglwyddo malaria’n pigo yn yr awyr agored, y tu hwnt i’r dulliau dan do confensiynol. Felly, mae rhaid ymladd yn erbyn mosgitos yn eu cynefinoedd eu hunain drwy ddod o hyd i’r dyfroedd lle maent yn epilio a dinistrio’r larfâu cyn iddynt ddod yn oedolion sy’n gallu trosglwyddo’r haint. Mae dod o hyd i’r safleoedd epilio’n anoddach fel y byddech yn meddwl - a dyma gyfle i waith hanfodol daearyddwyr.”
Ffordd newydd o weld
Mae prosiect diweddaraf Dr Hardy yn cyfuno dronau, delweddau lloeren a deallusrwydd artiffisial er mwyn mynd i’r afael â’r her hon ar raddfa fawr.
Defnyddir dronau soffistigedig â synhwyron isgoch agos a thermol i ddarganfod dyfroedd - hyd yn oed mewn amgylchiadau cymhleth fel caeau padi reis, corsydd, ac ardaloedd llawn llystyfiant dyfrol neu ganopïau gwair.
Bydd delweddau lloeren yn dangos y cyd-destun amgylcheddol ehangach ar draws tirwedd Zanzibar, a defnyddir Deallusrwydd Artiffisial i ddehongli data o’r dronau a’r lloerenni er mwyn adnabod cynefinoedd lle mae’n debygol bod mosgitos yn epilio.
Bydd y ddealltwriaeth a geir o gyfuno’r technolegau hyn yn galluogi darganfod cynefinoedd dyfrol ar raddfa fawr –a fyddai’n gofyn am wythnosau o waith arolygu corfforol yn draddodiadol. Bydd hwn yn galluogi gweithredu’n gynt a manylach.
Yn ôl Dr Hardy, mae’r dull yn “ailddyfeisio rheoli mosgitos” - cam enfawr ymlaen wrth fapio cadarnleoedd malaria, o ran manyldeb, cyflymder, a graddfa.

Sefyll ar sail blynyddoedd o ymchwil
Mae arbenigedd Dr Hardy yn deillio o hanes hir o ddefnyddio technoleg synhwyro o bell — yn amrywio o loerenni i awyrennau â chriw, ac i ddronau — er mwyn mapio tirweddau a risgiau ecolegol.
Mae ei ymchwil flaenorol yn cynnwys modelu gorlifoedd yn hydrolegol i ddod o hyd i gynefinoedd malaria yn Zambia, a phrosiectau cynnar i brofi’r syniad a ddefnyddiodd ddronau a thechnoleg ffonau clyfar i helpu i fapio cynefinoedd malaria yn Zanzibar. Mae’r prosiectau hyn wedi helpu i wella dulliau ac offer a roddir ar waith erbyn hyn.
Un agwedd hanfodol yw bod y fenter hon yn cyfuno arloesi technolegol â dulliau a seilir ar y gymuned. Hyfforddir timau lleol yn Zanzibar i ddefnyddio’r offer mapio digidol, adnabod cynefinoedd larfâu a’u rheoli. Mae hyn yn golygu bod y dull hwn, a arweinir gan dechnoleg, yn cael ei berchen a’i weithredu’n lleol, heb orfod dibynnu ar gymorth allanol, sy’n cefnogi cynaliadwyedd hirdymor.

Patrwm i Affrica a’r tu hwnt
Gan ddefnyddio Zanzibar fel maes arbrofi, mae’r prosiect yn anelu at greu pecyn o gamau gweithredu y gellid ei ddefnyddio mewn ardaloedd ledled y byd sy’n ddioddef o falaria. Bydd yn cynnwys dangosfwrdd digidol canolog i gynllunio’r gwaith arolygu a’r driniaeth, ap ffonau clyfar i dimau yn y maes i’w helpu i fapio a chwistrellu, a modelau Deallusrwydd Artiffisial cod agored ar gyfer adnabod cynefinoedd dyfrol mosgitos.
Wrth i newid hinsawdd, trefoli, a newid yn ymddygiad mosgitos amharu ar ymdrechion i ddileu malaria, mae’r dulliau hyblyg hyn, a seilir ar ddata, yn dod yn fwyfwy pwysig. Mae’r gallu i sganio tirweddau mawr am gost gymharol isel, a dod o hyd i safleoedd bridio cudd yn arf cryf newydd i raglenni sy’n gweithio dan bwysau i ymdrin â malaria.

Dyfodol rheoli malaria’n fwyfwy fanwl
Yn hytrach na chymryd lle ymdrechion i ddileu’r clefyd sydd eisoes ar waith, nod gwaith Dr Hardy yw eu hatgyfnerthu drwy ddatblygu’r deallusrwydd sydd ei angen i ddefnyddio adnoddau lle y gallent gael yr effaith fwyaf.
Drwy gyfuno arbenigedd lleol â thechnoleg dronau, data o loerennau, a deallusrwydd artiffisial, mae’r prosiect yn ceisio creu systemau rheoli malaria sy’n fanylach, yn fwy effeithiol, ac yn fwy cynaliadwy.
Tra bo Zanzibar yn dod yn nes at ei nod o ddileu malaria, mae gan y dulliau hyn y potensial i lywio strategaethau mewn ardaloedd eraill sy’n ymladd yn erbyn heriau tebyg, sef strategaethau nad ydynt yn canolbwyntio ar ddiogelu pobl rhag mosgitos yn unig, ond hefyd ar darfu ar y broses drosglwyddo wrth y tarddle.

Gwybodaeth Bellach
Defnyddiwch y dolenni isod i ddysgu rhagor am ymchwil Dr Andy Hardy
Cysylltwch â ni
Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:
