Troi tystiolaeth yn weithredu: sut mae ymchwil yn llunio dyfodol Cymru wledig

 

Mae dros filiwn o bobl - tua thraean o boblogaeth Cymru - yn byw mewn ardaloedd gwledig sy'n cyfrif am dros 80% o dir y wlad.

Serch hynny, er gwaethaf eu maint a'u harwyddocâd, mae cymunedau gwledig yn rhy aml yn cael eu tanwasanaethu gan bolisïau sydd wedi'u llunio o amgylch realiti trefol. I wneuthurwyr polisi, mae hyn yn codi cwestiwn sylfaenol: sut y gellir cynllunio polisïau cenedlaethol sydd wir yn gweithio ar gyfer lleoedd lle mae’r ddaearyddiaeth, y seilwaith, a’r bywyd cymunedol mor wahanol?

Yn ôl Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol Cymru Wledig, a elwir yn Cymru Wledig LPIP Rural Wales, nid cynhyrchu ymchwil yn unig yw’r ateb, ond sicrhau bod ymchwil yn arwain at newid gwirioneddol.

O ymchwil i newid yn y byd go iawn

Nid yw defnyddio tystiolaeth i lywio polisi yn rhywbeth newydd. Yr hyn sy'n wahanol am Cymru Wledig LPIP Rural Wales yw’r pwyslais ar sicrhau bod y canfyddiadau ar bapur wedyn yn cael eu trosi’n gamau gweithredu ymarferol.

A hithau bellach ddwy flynedd i mewn i’r rhaglen tair blynedd hon a ariennir gan UKRI, mae'r bartneriaeth yn dangos sut y gall dull gweithredu mwy cysylltiedig - sy’n cysylltu ymchwilwyr, llunwyr polisi a chymunedau o'r cychwyn cyntaf - newid sut mae heriau gwledig yn cael eu deall a'u datrys. Mae ei gwaith wedi creu darlun cyfoethog, sy’n esblygu’n gyson, o realiti cymdeithasol, economaidd a diwylliannol ardaloedd gwledig Cymru, gan sicrhau ar yr un pryd bod y wybodaeth hon yn cyrraedd y cynulleidfaoedd sy'n gallu gweithredu ar ei sail.

Wrth galon y rhaglen mae egwyddor syml ond grymus: nid yw tystiolaeth yn ddigon ar ei phen ei hun. Mae newid yn digwydd pan fo tystiolaeth yn llywio penderfyniadau.

Ymgorffori effaith o'r dechrau

Yn wahanol i lawer o fentrau ymchwil, roedd ymgysylltu â llunwyr polisi yn elfen greiddiol o Cymru Wledig LPIP Rural Wales o’r cychwyn cyntaf. Mae staff ymroddedig yn canolbwyntio ar gysylltu ymchwil â gwneuthurwyr penderfyniadau, gan sicrhau bod canfyddiadau'n cael eu cyfathrebu'n glir, yn strategol ac ar yr adeg iawn.

Mae'r dull hwn yn dal i fod yn anarferol. Awgrymodd adolygiad diweddar o arferion ledled prifysgolion Cymru y gallai Cymru Wledig LPIP Rural Wales fod yn unigryw yn hynny o beth gan ei fod yn ymgorffori ac yn darparu adnoddau ar gyfer ymgysylltu â gwneuthurwyr polisi o'r cychwyn cyntaf.

Y canlyniad yw model lle nad elfennau ar wahân yw ymchwil a pholisi, ond rhan o'r un sgwrs barhaus - gan gynyddu perthnasedd ymchwil a'i allu i ddylanwadu ar ganlyniadau.

Yr Athro Michael Woods (Cyfarwyddwr, Cymru Wledig LPIP Rural Wales) a Rhian Curtis (Rheolwr Polisi ac Ymgysylltu, Cymru Wledig LPIP Rural Wales) gyda Jane Dodds (Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)

Dylanwadu ar bolisïau cenedlaethol

Mae'r dull gweithredu hwn eisoes yn cael effaith fesuradwy ar drafodaethau ynglŷn â pholisïau yng Nghymru.

Mae ymchwilwyr Cymru Wledig LPIP Rural Wales wedi cyfrannu at adroddiadau'r Senedd a dadleuon yn y siambr, gan gynnwys drwy ddarparu tystiolaeth ar atgyfnerthu diwydiant prosesu a system fwyd Cymru. Mae'r gwaith hwn wedi tynnu sylw at y ffordd y gallai buddsoddiad wedi’i dargedu mewn seilwaith, logisteg a sgiliau gynyddu gwytnwch a chreu swyddi mewn ardaloedd gwledig.

Ym mis Ionawr 2026, arweiniodd Cyfarwyddwr Cymru Wledig LPIP Rural Wales, yr Athro Michael Woods, y gwaith o ddatblygu papur briffio ar gyfer maniffestos y chwe phlaid wleidyddol fwyaf cyn etholiadau'r Senedd. Gan dynnu'n uniongyrchol ar ymchwil y rhaglen, nododd y ddogfen 33 o argymhellion polisi ymarferol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac wedi'u gwreiddio yn realiti bywyd gwledig.

Cafwyd ymateb ar unwaith. Trafododd hanner y pleidiau â'r bartneriaeth yn uniongyrchol, gyda gwaith allestyn ehangach yn sicrhau bod yr argymhellion yn cyrraedd ymgeiswyr ledled Cymru. Wrth i’r maniffestos gael eu cyhoeddi, ymddangosodd sawl cynnig fel addewidion etholiad ffurfiol - tystiolaeth glir bod ymchwil sy'n canolbwyntio ar ardaloedd gwledig yn dylanwadu ar flaenoriaethau gwleidyddol.

Yr Athro Michael Woods

Troi ymchwil yn gamau gweithredu ar lawr gwlad

Yn ogystal â dylanwadu ar bolisïau cenedlaethol, mae'r bartneriaeth yn cefnogi newid gwirioneddol, ar lefel gymunedol trwy Labordai Arloesi a phrosiectau ymchwil cymhwysol a gynlluniwyd ar y cyd. Un o nodweddion unigryw Cymru Wledig LPIP Rural Wales yw’r prosiectau ymchwil weithredol a arweinir gan y gymuned, lle cynorthwywyd 11 o grwpiau cymunedol i gynnal ymchwil ar fater lleol penodol a chasglu tystiolaeth i lywio atebion lleol, dan arweiniad mentor academaidd a gyda chymorth hyfforddiant.

Mae'r mentrau hyn yn symud y tu hwnt i ddadansoddi, gan ddefnyddio meddylfryd dylunio, cydweithredu a phrofi yn y byd go iawn i ddatblygu atebion ymarferol y gellir eu hehangu a'u mireinio dros amser:

Datblygu economaidd a chadwyni cyflenwi lleol

Mae prosiectau'n archwilio sut i atgyfnerthu economïau gwledig trwy gefnogi systemau bwyd mwy cynaliadwy a chysylltiedig yn lleol. Mae hyn yn cynnwys gwaith i ddatblygu'r sector garddwriaeth drwy ddod â thyfwyr, dosbarthwyr a busnesau lletygarwch at ei gilydd i gynyddu'r defnydd o gynnyrch Cymreig — gan gefnogi swyddi, lleihau taith bwyd a chynyddu gwytnwch.

Lles cymdeithasol a chynhwysiant

Mae mentrau eraill yn canolbwyntio ar daclo mynediad at fwyd, fforddiadwyedd a theimladau o fod yn ynysig trwy alluogi cymunedau i dyfu, coginio a bwyta gyda'i gilydd. Mae gwaith ar iechyd meddwl ymhlith pob ifanc mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig mewn cymunedau amaethyddol, yn cyfuno ymarfer creadigol â deialog gymunedol i fynd i'r afael â stigma a sicrhau bod profiadau gwledig yn cael eu hadlewyrchu'n well mewn sgyrsiau cenedlaethol.

Seilwaith, tai a chynaliadwyedd

Mae ymchwil yn ymdrin â heriau strwythurol allweddol, gan gynnwys prinder tai mewn ardaloedd gwledig, capasiti adeiladu a'r angen am ddatblygu cynaliadwy. Mae gwaith ar drafnidiaeth sy’n angenrheidiol yn gymdeithasol yn dod â darparwyr, llunwyr polisi a sefydliadau cydraddoldeb ynghyd i ailfeddwl sut y gall systemau symudedd adlewyrchu realiti ardaloedd gwledig yn well.

Mae'r rhaglen hefyd yn ystyried materion sy’n wynebu’r dyfodol, megis rôl deallusrwydd artiffisial a thechnolegau digidol ym maes ffermio, gan gasglu barn ffermwyr yn uniongyrchol i ddeall y cyfleoedd yn ogystal â’r rhwystrau wrth i ni bontio i amaethyddiaeth sero net.

Diwylliant a hunaniaeth

Gan gydnabod nad mater economaidd yn unig yw polisi gwledig, mae'r bartneriaeth hefyd yn cefnogi gwaith ar dreftadaeth ddiwylliannol. Mae hyn yn cynnwys prosiectau sy'n cofnodi gwybodaeth draddodiadol, iaith a chysylltiadau â’r dirwedd - gan sicrhau bod hunaniaeth ddiwylliannol yn cael ei drin fel rhan hanfodol o ddatblygu gwledig.

Gyda'i gilydd, mae'r mentrau hyn yn dangos sut y gall ymchwil symud o ddirnadaeth i weithredu - gan adeiladu momentwm ar gyfer newid a chryfhau capasiti lleol ar yr un pryd.

Estyn yr effaith y tu hwnt i Gymru

Mae cyrhaeddiad y gwaith hwn eisoes yn estyn ymhell y tu hwnt i Gymru.

Mae ymchwil i ganfyddiadau o dwf economaidd mewn trefi marchnad mewn ardaloedd gwledig wedi darparu tystiolaeth glir bod dulliau datblygu ‘un ateb sy’n addas i bawb’ yn aneffeithiol — dirnadaeth sy'n llywio trafodaethau polisi yng Nghymru ac sydd wedi ennyn diddordeb yn rhyngwladol.

Mae cydweithio â llunwyr polisi yn y DU hefyd wedi tynnu sylw at heriau strwythurol hirdymor fel allfudo ieuenctid, gan sicrhau bod newid demograffig mewn ardaloedd gwledig yn cael ei gydnabod fel blaenoriaeth genedlaethol.

Mae'r diddordeb cynyddol hwn yn pwysleisio perthnasedd ehangach dull Cymru Wledig LPIP Rural Wales: efallai bod heriau gwledig yn benodol i leoedd, ond mae llawer o'r gwersi yn berthnasol yn ehangach.

Aberteifi, Ceredigion

Adeiladu etifeddiaeth barhaol

Er bod y rhaglen yn dal i fynd rhagddo ar hyn o bryd, mae ei heffaith eisoes yn glir. Mae Cymru Wledig LPIP Rural Wales yn helpu i sicrhau bod lleisiau gwledig yn cael eu clywed, eu deall a'u hadlewyrchu yn y penderfyniadau sy'n llunio eu dyfodol.

Trwy ddod ag ymchwilwyr, llunwyr polisi, a chymunedau at ei gilydd, mae nid yn unig yn cynhyrchu gwybodaeth - mae'n adeiladu partneriaethau parhaol, atgyfnerthu capasiti lleol, a chreu model ar gyfer sut y gall ymchwil a pholisi weithio gyda'i gilydd yn fwy effeithiol.

Cymru Wledig LPIP Rural Wales

Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol ar gyfer Cymru Wledig yw Cymru Wledig LPIP Rural Wales.

Mae’n dod ag ymchwilwyr academaidd, cyrff cyhoeddus, sefydliadau’r trydydd sector, partneriaid preifat a chymunedau at ei gilydd i wella’r defnydd o ymchwil ac arloesi ym maes llunio polisïau. Nod y bartneriaeth yw cefnogi datblygiad cynaliadwy, cynhwysol a chyfrannu at economi lles—lle mae ffyniant economaidd yn cael ei gydbwyso â lles cymdeithasol a gwytnwch amgylcheddol ledled Cymru wledig.

Rhagor o wybodaeth

Cysylltwch â ni

Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:

ymchwil@aber.ac.uk