Concordat Uniondeb Gwaith Ymchwil

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymgorffori’r egwyddorion a geir o fewn y Concordat i mewn i’w holl weithgareddau ymchwil.

Mae’r Concordat yn nodi pum ymrwymiad, sy’n gosod disgwyliadau ar ymchwilwyr a'r sefydliad. Bydd y Concordat hefyd yn darparu sicrwydd i’r llywodraeth, i’r cyhoedd ac i’r gymuned ryngwladol bod ymchwil yn y DU yn dal i fod wedi’i seilio ar y safonau uchaf o ran gwytnwch ac uniondeb.  

Datblygwyd y Concordat ar y cyd â’r Cynghorau Ymchwil a chyllido, yr Ymddiriedolaeth Wellcome ac amryw adrannau o’r llywodraeth, ac fe fydd yn:

• Gwella’r modd y sicrheir uniondeb gwaith ymchwil ar hyn o bryd. 
• Hwyluso cyfathrebu mwy effeithiol o’n hymdrechion i sicrhau bod y safonau uchaf o ran gwytnwch ac uniondeb yn parhau i fod yn sail i’n holl waith ymchwil
• Annog mwy o drylwyredd ac atebolrwydd ar lefel y sefydliad ac ar lefel y sector
• Ein sbarduno i ystyried ein harferion presennol i nodi lle y gellid gwneud gwelliannau.

Dylai pob ymchwilwyr yn Aberystwyth fod yn gyfarwydd â'r egwyddorion a geir o fewn y Concordat a manteisio ar gyfleoedd a ddarperir gan y Brifysgol i wella ac ymgorffori ymhellach y sgiliau hyn i mewn i’w  gweithgareddau addysgu ac ymchwilio beunyddiol. Gellir cael manylion pellach o dan 'cyfleoedd hyfforddi' ar y dudalen Moeseg Ymchwil isod.

Yr Athro Angela Hatton, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi yw’r uwch arweinydd academaidd a enwyd ar gyfer cywirdeb ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'r Athro Hatton hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Moeseg Ymchwil y Brifysgol (UREC).

I lawr lwytho copi o’r Concordat cliciwch yma

Datganiad Blynyddol ar Uniondeb Ymchwil

Cyswllt yn Aberystwyth

Ar gyfer ymholiadau ynghylch y Concordat i Gefnogi Uniondeb Ymchwil, cysylltwch â Lisa Fisher, Swyddog Moeseg ac Uniondeb Ymchwil.

Gall unrhyw un sy’n dymuno codi pryderon am unrhyw ran o’r ymchwil sy’n cael ei wneud gan y Brifysgol gysylltu â moeseg@aber.ac.uk yn y lle cyntaf. Fel arall, mae’r polisïau a’r gweithdrefnau canlynol ar gael: