Diogelwch
Mae Gwasanaeth Diogelwch Safle Prifysgol Aberystwyth yn gweithredu 24/7, bob diwrnod o’r flwyddyn. Rydym bob amser ar gael i gynnig cymorth a chyngor i Fyfyrwyr, Staff ac aelodau o’r cyhoedd ar faterion yn ymwneud â diogelwch.
Mae gennym gampws diogel a lefelau isel o droseddu. Ein nod yw cynnal amgylchedd academaidd a busnes diogel drwy ddiogelu pobl, gwybodaeth, eiddo ac enw da’r Brifysgol.
Cadwch y rhif allanol i’w ffonio mewn argyfwng, sef 01970 622649, yn eich ffôn boced os gwelwch yn dda.
Diogelwch bob awr o'r dydd
Mae canolfan Tîm Diogelwch y Brifysgol yn Nerbynfa'r Campws. Maen nhw wrth law i gynorthwyo 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, trwy gydol y flwyddyn, ar y campws ac oddi arno.
Rydyn ni'n cynnig cyngor ynghylch rhwystro troseddu, yn patrolio ystâd y Brifysgol, yn rheoli trafnidiaeth a pharcio, ac yn ymateb i unrhyw fater sydd angen sylw brys.
Yn ogystal â chadw'r Brifysgol yn ddiogel, mae ein Tîm Diogelwch ar gael bob amser i'ch cynorthwyo gyda materion lles.
I gysylltu â ni i gael gwybodaeth neu gyngor, neu i sôn am drosedd, e-bostiwch: ssetaff@aber.ac.uk, ffôn: 01970 622649 neu galwch heibio Derbynfa'r Campws unrhyw adeg a gofyn i siarad ag un o'r Tîm Diogelwch.
Mewn argyfwng ffoniwch 999 neu'r staff Diogelwch ar 01970 622649 neu symudol 07889 596220.
Mae 'na hefyd ffurflen ar-lein i Gofnodi Digwyddiad a byddwn yn gweithredu arni ar ôl ei derbyn.
Gwelerisod am wybodaeth ychwanegol:


Am wybodaeth am ddiogelwch tân gweler tudalennau
Mae Diogelwch y Safle yn darparu patrolau diogelwch i’r tri champws, yn ogystal ag eiddo yn y dref, adeiladau fferm a chyfleusterau storio. Mae’r patrolau yn sicrhau bod yr holl ddrysau allanol, ffenestri llawr gwaelod a ffenestri eraill y gellir cyrraedd atynt wedi’u cloi. Disgwylir i bawb sy’n defnyddio neu’n byw yn adeiladau’r Brifysgol sicrhau bod y ffenestri a’r drysau mewnol yn eu mannau gwaith neu astudio ar gau cyn ymadael.
Mae’r Brifysgol yn gweithredu Cynllun Camerâu Cylch Cyfun, ac mae dros 250 o gamerâu ledled ystâd y Brifysgol. Caiff hwn ei fonitro gan staff mewnol yn yr Ystafell Reoli. Prif ddibenion y system yw: