Siarter Cwsmeriaid SbortAber

Mae Canolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth (ChwaraeonAber) yn darparu cyfleoedd o ansawdd uchel sy'n ysbrydoli cymuned ehangach y Brifysgol i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. O gefnogi dilyniant mewn camp dewisol i uchafbwynt gallu a dyhead myfyriwr, mae ChwaraeonAber yn annog pobl o bob oed a gallu i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Rydym yn croesawu dros 250,000 o westeion i'n hystod eang o gyfleusterau dan do ac awyr agored bob blwyddyn. Mae Campws Penglais yn amgylchedd diogel a chyfeillgar wedi'i leoli o fewn 250 erw o dir hardd. Mae ChwaraeonAber yn arwain y blaen ym maes rheoli cyfleusterau chwaraeon yn broffesiynol. Rydym bob amser yn ceisio gwella profiad ein cwsmeriaid o ddefnyddio ein gwasanaethau ac yn eich annog i roi gwybod i ni am eich profiadau, boed y rheini’n dda neu ddrwg. Llenwch Ffurflen Adborth Cwsmeriaid a'i rhoi yn y dderbynfa, neu e-bostiwch sports@aber.ac.uk. Byddwn yn cydnabod ein bod wedi derbyn eich sylwadau o fewn dau ddiwrnod ac yn ymateb yn llawn o fewn pum diwrnod gwaith. Nod ein Siarter Cwsmeriaid a'n Ffurflenni Adborth Cwsmeriaid yw ein helpu i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i chi bob amser.

Gwerthoedd y GwasanaethByddwn yn sicrhau ein bod: 

 

Byddwn yn sicrhau: 
ein bod yn darparu amgylchedd diogel i chi ymgymryd â’ch gweithgaredd. Mae'r holl offer a’r gosodiadau’n cael eu harchwilio a'u cynnal a’u cadw’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn gweithio’n ddidrafferth
ein bod yn trin pob cwsmer yn yr un modd waeth beth fo'u cefndir o ran ethnigrwydd, oedran, crefydd, gallu neu rywedd ac nad ydym yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw gategorïau o fewn y meini prawf aelodaeth
ein bod yn gwrando ar eich barn a'ch awgrymiadau am y gwasanaeth, yr adnoddau, yr offer a ddarperir a’r rhaglenni ac yn ymdrin ag unrhyw adborth yn gyflym
ein bod yn cyfathrebu'n eang ac yn effeithiol am oriau agor y Ganolfan, hyrwyddiadau a datblygiadau ehangach o fewn ChwaraeonAber
ein bod yn egluro'n glir unrhyw newidiadau yng nghategorïau’r aelodaeth, ffioedd aelodaeth, taliadau defnyddwyr, ffioedd llogi a chlustnodi amseroedd archebu
ein bod yn dysgu o'n llwyddiannau a'n camgymeriadau ac yn cynnal gwerthfawrogiad iach o rôl y ddau drwy ddilyn polisi o welliant parhaus

Safonau a Gwerthoedd y Staff

  • Byddwn yn sicrhau: 
    bod y staff yn groesawgar, yn gyfeillgar ac yn dangos awydd gwirioneddol i'ch helpu chi bob amser
    ein bod yn hyrwyddo diwylliant o ddidwylledd, gonestrwydd, cydraddoldeb a thegwch ym mhopeth a wnawn
    ei bod hi’n hawdd adnabod staff oherwydd eu bod bob amser yn gwisgo gwisg ChwaraeonAber
    ein bod yn darparu'r hyn yr ydym yn ei addo i'r safon uchaf ac nad ydym yn addo rhywbeth na allwn ei ddarparu
    ein bod yn helpu ac yn cefnogi ein gilydd drwy waith tîm a datblygiad proffesiynol parhaus
    ein bod yn dangos parch at gwsmeriaid, cydweithwyr ac eraill, ac yn ennill parch yn gyfnewid am hyn
    bod ChwaraeonAber yn gwella'r amgylchedd proffesiynol o gefnogi chwaraeon yn barhaus
    bod ein staff yn derbyn hyfforddiant a datblygiad parhaus a bod ganddynt yr awdurdod a'r cyfrifoldeb i ymdrin â'ch ymholiadau. Os nad oes ganddynt, byddwch yn cael eich cyfeirio at rywun a all eich helpu gyda chyn lleied o oedi â phosibl.

Gwerthuso ein Perfformiad

Mae ChwaraeonAber yn cynnal ymchwil i'r farchnad yn rheolaidd ymhlith ein haelodau i geisio a gwella ansawdd ein gwasanaeth i gwsmeriaid. Ein llinyn mesur yw ni’n hunain a’r gorau yn y diwydiant.
Mae ChwaraeonAber yn cyfarfod ac yn cyfathrebu'n rheolaidd â chynrychiolwyr o Undeb y Myfyrwyr i sicrhau bod yr holl faterion sy'n ymwneud â Thîm Aber yn cael eu datrys yn gyflym ac yn effeithlon.