Cyflwyniad i’r Gampfa

 

Cyflwyniad i'r Gampfa

Mae sesiynau cyflwyno cynhwysfawr, llawn gwybodaeth yn ffordd wych i ddechrau arni yn eich gampfa. Cewch eich tywys drwy’r sesiwn gyflwyno gan un o’n hyfforddwyr cryfder a chyflyru cyfeillgar, a chyfle i ymlacio, derbyn yr holl wybodaeth newydd a gofyn unrhyw gwestiynau. Cewch weld sut i ddefnyddio’r cyfarpar a gwneud yn fawr o’ch ymarfer. Byddwch yn cael gwybodaeth hanfodol hefyd am iechyd a diogelwch gan gynnwys y cod ymddygiad. 

 

‌Cyflwyno Pwysau Rhydd – Codi pwysau am y tro cyntaf?

Mae'r sesiwn gynefino â’r Pwysau Rhydd yn dangos i chi sut i fanteisio i’r eithaf ar y dull mwy penodol a 'naturiol' hwn o hyfforddi. 
Bydd ein hyfforddwyr ymroddedig yn helpu unigolion sy'n dilyn rhaglen chwaraeon-benodol i wella eu perfformiad. Mae'r sesiwn gynefino hefyd yn ymdrin â’r offer yn yr Ystafell Platiau Llwytho. Mae'r sesiwn gynefino â’r Pwysau Rhydd yn para tua 45-60 munud ac mae'n rhad ac am ddim i aelodau.

Sesiwn Achredu Pwysau Rhydd – Llwybr Carlam i Ddefnyddwyr Profiadol

Er mwyn defnyddio’r Ystafell Pwysau Rhydd, gall defnyddwyr a chanddynt brofiad o ddefnyddio pwysau rhydd yn ddiogel ac yn effeithiol fynd drwy broses achredu gydag un o’n hyfforddwyr cryfder a chyflyru cymwys. Mae disgwyl i’r defnyddwyr hyn fedru gwneud y symudiadau sylfaenol eisoes, megis codi pwysau marw, cyrcydu, y fainc, sbotio, a chynhesu ac oeri. Mae’r sesiwn achredu’n para tua 10-15 munud ac yn costio £5.00 ac mae hefyd yn cynnwys eich tâl mynediad ar gyfer y sesiwn.

I archebu lle yn un o’r sesiynau uchod dewch i Dderbynfa’r Ganolfan Chwaraeon neu ffoniwch y Dderbynfa ar 01970 622280, neu anfonwch ebost i sports@aber.ac.uk