Pecynnau aelodaeth

 

Aelodaeth i Fyfyrwyr

Gall unrhyw fyfyriwr nad ydynt yn aros yn llety’r Brifysgol gael mynediad i’r cynnig 135. Mae’r cynnig hwn yn rhoi defnydd anghyfyngedig o’r holl weithgareddau a nodir uchod am £135. 

Ni ellir prynu aelodaeth o'r Ganolfan Chwaraeon ar-lein ar hyn o bryd. Dewch i dderbynfa'r Ganolfan Chwaraeon os ydych am brynu aelodaeth.

Prisiau Sbort Aber

Aelodaeth Blatinwm Aelodaeth Pris

Pecyn Preswyl

  • Mynediad anghyfyngedig i’r ardaloedd canlynol:

    • Y Gampfa a’r Ystafelloedd Pwysau Rhydd
    • FitRhwydd – Ymarferion Grŵp a Dosbarthiadau Seiclo Grŵp 
    • Pwll Nofio
    • Y Wal Ddringo – Box Rox - Trac Rhedeg 400m gyda Llifoleuadau cyn bo hir

     

Rhad ac am ddim

Aelodaeth Staff

Mae’n bleser gennym gadarnhau y gall staff nawr dalu am aelodaeth o'r Ganolfan Chwaraeon trwy fewngofnodi i Pobl Aber isod.
https://www.aber.ac.uk/en/staff/your-sites/aber-people/ 
Gall y staff hynny y mae eu haelodaeth yn rhedeg y tu hwnt i'r mis presennol gofrestru ar gyfer y mis canlynol drwy'r gyflogres a thalu taliad pro-rata wythnosol am y cyfnod sy'n weddill trwy dderbynfa'r Ganolfan Chwaraeon.
• Mae aelodaeth staff yn costio £27 y mis ac yn rhoi cerdyn aelodaeth Platinwm i chi. 
• Cesglir taliad o'ch cyflog ar ddiwedd pob mis am fynediad anghyfyngedig ar gyfer y mis canlynol. 

Prisiau Sbort Aber

Aelodaeth  Aelodaeth Pris

Aelodaeth platinwm

Mynediad anghyfyngedig i’r holl ardaloedd canlynol:

£27 y mis 

 
• Campfa a Phwysau Rhydd
• Rhaglen FfitRhwydd - Dosbarthiadau Ymarfer Corff Grŵp a Seiclo Grŵp 
• Trac Rhedeg 400m gyda llifoleuadau 
• Pwll nofio
• Wal Ddringo Dan Do - Rox Box (Angen sesiwn cynefino)

Y Gymuned

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod ar agor i’r gymuned trwy aelodaeth talu wrth fynd neu aelodaeth fisol.

Gall aelodau o'r gymuned brynu mynediad anghyfyngedig i'r Ganolfan Chwaraeon am un mis, neu becyn aelodaeth 3 mis drwy'r siop ar-lein. Mae'r ddolen ar gyfer y siop ar-lein yma here

Mae dosbarthiadau'n cael eu cynnal yn unol â'r amserlen ar ein gwefan. https://www.aber.ac.uk/en/sportscentre/fitness-classes/

Aelodaeth    Aelodaeth  Taliad un mis neu dri mis

Clwb

300

 

Defnydd anghyfyngedig o’r gweithgareddau canlynol:

  • Campfa a Phwysau Rhydd
  • Rhaglen Ffit-Rhwydd - Ymarfer Corff i Grwpiau a dosbarthiadau Seiclo Grŵp
  • Trac rhedeg 400m gyda llifoleuadau
  • Pwll Nofio a Sawna
  • Wal Ddringo dan do - Box Rox
  • Yn ogystal â sesiynau chwarae rhad ac am ddim wedi’u hamserlennu ar gyfer cyfleusterau eraill megis badminton ac ati

£31 neu £93

 

Corfforaethol 

(GIG, yr Heddlu, y Gwasanaethau Tân, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Sir Ceredigion a chwmnïau lleol eraill)

 

 Cewch yr un mynediad ag aelodau’r Clwb 300.

 £28 neu £84 

 

Ieuenctid

(Mae gostyngiad sylweddol ar gael i ddisgyblion ysgol/coleg rhwng

16 ac 18 oed)

 

 Cewch yr un mynediad ag aelodau’r Clwb 300.

 £12.50 neu     £37.00

Campfa Teen

14-16 oed
Rhaid i chi ddarparu
prawf oedran i'w brynu
aelodaeth

 
   

Defnydd am ddim anghyfyngedig o'r gweithgareddau canlynol

• Campfa - Dim ond dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener rhwng 3.30-5pm y mae mynediad ar gael
& 10am-12 Penwythnosau
• Trac rhedeg 400m â llifoleuadau

• Nofio

• Wal Ddringo Dan Do

£11 neu £33

Aelodaeth Staff Sefydliadau Cysylltiedig

Er mwyn cynnig system dalu fwy hyblyg yn ystod yr amseroedd heriol a chyfnewidiol hyn, rydym wedi penderfynu y gall pobl dalu am Aelodaeth Staff am fis, neu am y 3 mis nesaf, wrth y til. Mae gan deuluoedd hawl i dalu'r un ffi fisol pan fydd yr aelod o staff yn sefydlu aelodaeth.

  • Mae Aelodaeth Gyswllt yn costio £28 y mis neu £84.00 am dri mis
  • Byddwch yn talu am fis calendr – e.e. – y 4ydd o Fai tan y 4ydd o Fehefin
  • Bydd angen ichi dalu am eich aelodaeth cyn defnyddio'r system bwcio llefydd.
  • Gallwch dalu am eich aelodaeth yn nerbynfa'r Ganolfan Chwaraeon - c erdyn yn unig
  • Os ydych wedi talu am aelodaeth am fis llawn, a bod cyfnod clo arall yn cael ei gyflwyno, bydd eich aelodaeth yn cael ei ymestyn.

I gael rhagor o gyngor, ac os oes gennych chi gwestiynau, cysylltwch â sports@aber.ac.uk 

Aelodaeth  Aelodaeth  Misol
Platinwm

Defnydd anghyfyngedig o’r gweithgareddau canlynol:

  • Campfa a Phwysau Rhydd
  • Rhaglen Ffit-Rhwydd - Ymarfer Corff i Grwpiau a dosbarthiadau Seiclo Grŵp
  • Trac rhedeg 400m gyda llifoleuadau
  • Pwll Nofio a Sawna
  • Wal Ddringo dan do - Box Rox
  • Yn ogystal â sesiynau chwarae rhad ac am ddim wedi’u hamserlennu ar gyfer cyfleusterau eraill megis badminton ac ati
£28

Telerau ac Amodau

Amodau a Thelerau Cyffredinol Parthed Aelodaeth Sbort Aber

Mae’r un amodau a thelerau cyffredinol yn perthyn i bob aelodaeth. Noder bod rhai diwygiadau yn perthyn i amodau a thelerau myfyrwyr, gan gynnwys mynediad at dimau chwaraeon. Rhaid i bob aelod dicio i gadarnhau eu bod wedi darllen, ac yn cytuno i gydymffurfio ag amodau yr aelodaeth.

Dyfeisir yr amodau canlynol er mwyn sicrhau bod holl aelodau’n derbyn y buddion gorau posib o’u haelodaeth yn y Ganolfan Chwaraeon mewn modd diogel a chydnaws.

  1. Deallaf bod angen i mi ddod â fy Ngherdyn Aber neu Gerdyn Chwaraeon er mwyn ei sganio bob tro byddaf yn ymweld â’r Ganolfan Chwaraeon.
  2. Deallaf bod Aelodaeth Canolfan Chwaraeon yn rhoi’r hawl i mi ddefnyddio cyfleusterau’r Ganolfan am ddim neu am brisiau disgownt a bod posibilrwydd i’r costau hyn gael eu diwygio yn unol â disgresiwn y tîm rheoli.
  3. Deallaf nad oes modd adennill fy ffi aelodaeth dan amgylchiadau cyffredinol.
  4. Cytunaf i beidio â rhoi benthyg fy ngherdyn i unrhyw un arall, a gall methiant i gydymffurfio arwain at ddirymiad fy aelodaeth.
  5. Rwyf yn cytuno i gydymffurfio â’r amodau defnydd sydd wedi’u nodi ar gyfer pob cyfleuster chwaraeon a orfodir gan staff y Ganolfan Chwaraeon.
    a. Bydd yr amodau hyn naill ai’n cael eu cyflwyno’n uniongyrchol neu’n cael eu harddangos yn glir yn y cyfleusterau.
  6. Cytunaf i hysbysu aelod o staff y Ganolfan Chwaraeon os wyf wedi datblygu cyflwr meddygol a all beryglu diogelwch unigolion eraill neu fy hun tra’n defnyddio’r Ganolfan Chwaraeon.
  7. Deallaf na all y tîm rheoli gymryd cyfrifoldeb dros golled neu ladrad o unrhyw eitemau personol a adawer yn yr ystafelloedd newid.
  8. Deallaf tra fy mod wedi cael fy niogelu gan Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus y Brifysgol, rydwyf i’n gyfrifol am sicrhau fy yswiriant atebolrwydd personol ar gyfer unrhyw anafiadau a dderbyniaf tra’n defnyddio cyfleusterau neu gyrsiau y Ganolfan Chwaraeon.
  9. Deallaf bod, fel rhan o fy aelodaeth, mae gan staff y Ganolfan Chwaraeon fynediad at wybodaeth gyfyngedig  ar fy ngherdyn sweipio e.e. dyddiad geni, cyfeiriad ayyb. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio yn unol â chanllawiau’r Ddeddf Diogelu Data yn unig.
  10. Mae tîm rheoli’r Ganolfan Chwaraeon yn cadw’r hawl i ddiddymu unrhyw aelodaeth sydd yn torri’r amodau neu am ymddygiad annerbyniol sydd, yn safbwynt y tîm rheoli, yn dramgwyddus i gwsmeriaid a/neu staff neu sydd yn peri perygl iechyd a diogelwch.
  11. Gellir rhewi aelodaeth unigol am gyfnod o 3 mis os y darperir dystysgrif feddygol ddilys . Ystyrir resymau eraill hefyd yn unol â disgresiwn tîm rheoli y Ganolfan Chwaraeon.
  12. Mae’n rhaid i blant gael eu goruchwylio gan eu rhiant neu warchodwr ei hunain. Ni ddylid gadael plant heb oruchwyliaeth.

Diwygiadau Myfyrwyr - yn ychwanegol at yr amodau uchod.

  1. Rwy’n deall bod arnaf angen Cerdyn Sborti i ymuno ag unrhyw un o Dimau Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth.
  2. Rwy’n cytuno i gario fy Ngherdyn Sborti fel prawf o’m haelodaeth ar gyfer cyfleusterau neu weithgareddau tu allan i’r Ganolfan Chwaraeon.
  3. Rwy’n deall bod y Cerdyn Sborti’n rhoi hawl i mi ddefnyddio cyfleusterau, mynd ar gyrsiau, ac ymuno a thimau a Chlybiau Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth am ddim neu am bris gostyngedig, a bod modd i’r prisiau hyn newid o bryd i’w gilydd yn ôl disgresiwn y rheolwyr.
  4. Os byddaf yn canslo cyfleuster yr wyf wedi’i archebu heb roi digon o rybudd, rwy’n deall y bydd rhaid i mi dalu tâl priodol.
  5. Rwy’n deall bod yswiriant personol wedi’i gynnwys ym mhris y Cerdyn Sborti.