Graddedigion

Graddedigion yn taflu hetiau

Fel un o raddedigion Prifysgol Aberystwyth gallwch barhau i gael mynediad i'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, ar-lein ac wyneb yn wyneb, am hyd at 3 blynedd ar ôl dyddiad gorffen eich cwrs.

P'un ai eich bod yn chwilio am gyngor CV, hyfforddiant cyfweliad, neu fynediad at swyddi gwag, rydym yma i helpu. Edrychwch ar yr ystod lawn o wasanaethau sydd ar gael i chi yma.

Dyma 4 cam hawdd i helpu i roi hwb i'ch taith yrfaol ar ôl graddio a chael mynediad at ein cymorth i raddedigion:

1. Mewngofnodwch i'ch cyfrif GyrfaoeddABER

Ysgogwch eich cyfrif i raddedigion i gael mynediad at gyfoeth o adnoddau, swyddi gwag, ac i drefnu arweiniad ar-lein neu wyneb yn wyneb, ac ymuno â gweminarau a digwyddiadau.  Mewngofnodwch drwy'r dudalen Mewngofnodi i raddedigion  gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost personol. 

Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau wrth osod neu ddefnyddio eich cyfrif i raddedigion, e-bostiwch gyrfaoedd@aber.ac.uk

2. Siaradwch â ni! Sut i gysylltu â ni a threfnu arweiniad gyrfaoedd

Ar gyfer ymholiadau sy'n gysylltiedig â gyrfaoedd ar ôl graddio, e-bostiwch: gyrfagraddedigion@aber.ac.uk.  

Ar gyfer ymholiadau gyrfaol cyffredinol, megis cael cymorth gydag unrhyw agwedd ar gyrfaoeddABER, CV a chymorth i ysgrifennu ceisiadau, anfonwch e-bost at gyrfaoedd@aber.ac.uk.  Neu cysylltwch â: 01970 622378.

Ewch i ymweld â'r Hwb Gyrfaoedd! Dewch o hyd i ni yn Llawr D, llyfrgell Hugh Owen o 10yb-4yp *bob dydd. Gallwn ateb ymholiadau cyflym neu eich helpu i drefnu ymgynghoriad hirach.  (*Nodwch yr oriau cyfyngedig y tu allan i'r tymor. E-bostiwch gyrfaoedd@aber.ac.uk i wirio).

Gallwch gael mynediad at ein cymorth arweiniad i raddedigion. Rydym yn cynnig apwyntiadau 1:1 ac arweiniad grŵp, wyneb yn wyneb ac ar-lein (MS Teams).

I drefnu sgwrs yrfaoedd 1:1 - ewch i'r dudalen apwyntiad GyrfaoeddABER i ddewis dyddiad/amser sy'n addas i chi. 

Mae sgyrsiau gyrfaoedd i raddedigion yn gyfle i drafod yn anffurfiol lle rydych chi ‘arni’ gyda'ch cynlluniau gyrfa (sesiwn 30 munud). Os nad oes gennych chi unrhyw syniad, neu os ydych chi’n barod i ystyried llwybrau gyrfa penodol, byddwn yn darganfod beth hoffech chi gael cymorth ag ef fwyaf, a gyda'n gilydd gallwn lunio cynllun gweithredu pwrpasol.  Gallwn hefyd eich helpu i nodi eich sgiliau allweddol a'ch rhinweddau personol, a sut i farchnata'r rhain yn effeithiol. 

I drefnu sesiwn arweiniad grŵp
– ewch i’r dudalen GyrfaoeddABER.

Wedi'u hwyluso gan ein Cynghorwyr Gyrfaoedd, mae'r sesiynau hyn yn rhoi cyfle i chi gwrdd â graddedigion eraill a dod o hyd i wybodaeth a strategaethau defnyddiol gyda'ch gilydd, yn ogystal â chynyddu eich hyder a'ch hunanymwybyddiaeth.

3. Cymorth gyda CV, gwneud ceisiadau a chyfweliadau

Rydym yn darparu'r offer ar-lein hyn a chymorth wyneb yn wyneb i'ch helpu i symud ymlaen o ymgeisio i lwyddiant!

Am ganllawiau CV: Mewngofnodwch i CareerSet – llwythwch eich CV, llythyrau cyflwyno a phroffil LinkedIn i gael adborth ar unwaith ac awgrymiadau gorau ar sut i deilwra'ch CV yn fwy effeithiol

Dewch o hyd i ganllawiau fideo darganfod GyrfaoeddABER yma

Edrychwch ar/Ymunwch â’n cyfres o weithdai (ar-lein ac wyneb yn wyneb) yma

Mae Gwefan Prospects yn darparu canllawiau ar bob agwedd ar y broses o ysgrifennu CV, ysgrifennu cais a’r cyfweliad

Archebwch ffug gyfweliad ar-lein neu wyneb yn wyneb drwy GyrfaoeddABER neu e-bostiwch gyrfaoedd@aber.ac.uk. Gallwch ddefnyddio'r sesiwn i gael ffug gyfweliad llawn, neu i edrych ar gwestiynau nodweddiadol ac ymarfer eich atebion

Ewch i ymweld â’r Hwb Gyrfaoedd - Llawr D, llyfrgell Hugh Owen o 10yb-4yp *bob dydd. Gallwn ddarparu cyngor ac adborth ar lunio CV ac ysgrifennu ceisiadau. (*Nodwch yr oriau cyfyngedig y tu allan i'r tymor. E-bostiwch gyrfaoedd@aber.ac.uk i wirio).  

Ewch i’n Ffeiriau Gyrfaoedd a digwyddiadau â Chyflogwyr (a hysbysebir ar GyrfaoeddABER, cyfryngau cymdeithasol a chadwch lygad am gylchlythyrau’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd)

4. Cadw mewn cysylltiad! Rhowch hwb i'ch sgiliau rhwydweithio a'ch cyfleoedd am brofiad gwaith

Dewch o hyd i ddigwyddiadau â chyflogwyr ar-lein ac wyneb yn wyneb ar GyrfaoeddABER

Cysylltwch â'n Cyn-fyfyrwyr yma ac ar LinkedIn (chwiliwch am Gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth).

Hoffem glywed oddi wrthych! E-bostiwch gyrfagraddedigion@aber.ac.uk i roi gwybod i ni sut ydych chi ac i ysbrydoli graddedigion eraill.