Chwilota am Brofiad Gwaith
Mae cyfnod o brofiad gwaith, heb amheuaeth, yn un o'r dulliau gorau o ddatblygu sgiliau, ddeall beth rydych yn mwynhau ei wneud mewn sefyllfa gwaith, ac o gefnogi eich astudiaethau academiadd wrth ichi ddod yn fwy hyblyg, ystwyth ac hyderus yn eich dulliau o weithredu.
Mae llawer iawn o gyfleoedd profiad gwaith ar gynnig ac bydd rhywbeth ar gael at flas pawb waeth beth fo'ch diddordebau, syniadau, galluoedd a lefel eich cwrs academaidd.
Ond cyn mynd ati i bori trwy hysbysebion gwaith, cymerwch rhai munudau i ystyried y pwyntiau a nodir ar ein tudalen Dod o hyd i brofiad gwaith a fydd o gymorth i chi cyn dechrau chwilota.
Mynwch olwg ar yr isod i weld beth sydd ar gynnig ac i ddewis yr hyn sydd o ddiddordeb i chi.
- Lleoliadau 12 mis, gan gynnwys Blwyddyn mewn Diwydiant a'r cynllun Blwyddyn Mewn Gwaith
- Gwaith achlysurol / rhan amser, gan gynnwys AberGwaith
- Gwirfoddoli
- ABERymlaen
- Cyfleoedd pwrpasol yn Ysgol Penglais, Aberystwyth, a Chanolfan Cyfiawnder Aberystwyth
- Profiadau sy'n gysylltiedig â gwaith, fel aelodaeth pwyllgorau a swyddi eraill o gyfrifoldeb
- GO Wales
- Cyfleoedd dramor