Gwirfoddoli

Mae sawl rheswm dros ymgymryd â gwaith gwirfoddol - i helpu eraill; i ddysgu sgiliau newydd ac i ddatblygu'r sgiliau sydd gennych chi eisoes; i gael cipolwg ar fyd gwaith, yn ogystal â phrofiad ymarferol; ac er mwyn datblygiad personol. Beth bynnag yw eich prif reswm dros wirfoddoli, bydd y profiad yn rhoi'r cyfle i chi brofi cyfleoedd na chawsoch o'r blaen gan eich helpu i ddatblylgu fel person a chyfrannu at eich sgiliau cyflogadwyedd.

Gall gwirfoddolwyr ymrwymo i weithio am nifer o wythnosau, nifer o fisoedd neu nifer o flynyddoedd, yn ddibynnol ar eu hamgylchiadau.

Mae rhai gwirfoddolwyr yn gweithio'n ddi-dâl; weithiau, telir treuliau cyfyngedig a/neu darperir bwyd a llety dros y cyfnod. Mewn achosion eraill, gofynnir i wirfoddolwyr godi arian (swm eithaf sylweddol ar brydiau) er mwyn cymryd rhan yn y prosiect. Rhaid i chi fod yn ymwybodol o amodau'r lleoliad gwaith ac a yw'n fforddiadwy ai peidio.

Rhaid i gyflogwyr fod yn ofalus wrth sicrhau na fydd y lleoliad gwaith yn tramgwyddo deddfwriaeth y Lleiafswm Cyflog Cenedlaethol. Gall gweithwyr gwirfoddol fod yn eithriad i hyn ond os bydd cytundeb (ysgrifenedig, llafar neu awgrymedig) yn rhan o'r trefniadau, yna bydd gan y gweithwyr hawl i'r Lleiafswm Cyflog Cenedlaethol oni bai eu bod yn gweithio i elusen, i fudiad gwirfoddol, i gorff codi arian cysylltiedig neu i gorff statudol. 

Dylai graddedigion sy'n gwirfoddoli tra'n derbyn budd-daliadau ddarllen tudalen Gov.UK am bryd cewch wirfoddoli.

Mae llawer o wefannau defnyddiol gallwch gyfeirio atynt - rhestrir nifer ohonynt isod. Defnyddiwch yr adnoddau hyn i'ch helpu i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli yn ystod eich cyfnod fel myfyriwr (yn ystod y tymor, dros y gwyliau, fel eich profiad blwyddyn mewn gwaith) ac ar ôl i chi raddio. Cofiwch bod croeso i chi ofyn i ni am wybodaeth neu gyngor bob amser.

Chwiliwch am gyfleoedd gwirfoddoli ar gyrfaoeddABER.

Gweler hefyd y clip fideo AGCAS ar wirfoddoli (angen enw defnyddiwr a chyfrinair PA).

Cyfleoedd yn y DU

Cyfleoedd tramor