Dy Brofiad Aber

Rydym yn buddsoddi dros £100m i wella eich profiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae hyn yn fuddsoddiad mawr yn y cyfleusterau fydd ar gael i chi. Byddant yn sicrhau y byddwch yn elwa o gyfleusterau dysgu ac addysgu o'r radd flaenaf. Dyma un o'r buddsoddiadau mwyaf arwyddocaol yn hanes y Brifysgol. 

Dyma'r prif fuddsoddiadau:

  • Fferm Penglais – prosiect preswylfeydd newydd gwerth £45m. Bydd y preswylfeydd newydd yn darparu llety ar gyfer 1000 o fyfyrwyr ac yn cynnwys 100 o fflatiau stiwdio
  • Buddsoddiad hyd at £20m i ail-ddatblygu Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth
  • Buddsoddiad £35m er mwyn datblygu Campws Ymchwil ac Arloesedd newydd yng Ngogerddan
  • Rydym wedi buddsoddi mwy na £4.5m yn ein canolfan yn Llanbadarn Fawr er mwyn creu amgylchedd busnes a phroffesiynol newydd gyfer ein Hysgol Rheolaeth a Busnes, Adran y Gyfraith a Throseddeg a'r Adran Astudiaethau Gwybodaeth. Rydym wedi ailwampio’r darlithfeydd, creu lleoedd arloesol ar gyfer dysgu, a mannau cymdeithasu a mannau cymorth academaidd.

Eich profiad technoleg

Eich gyrfa a phrofiad cyflogadwyedd

...  Byddwn yn buddsoddi mwy ym Mhrifysgol Aberystwyth er mwyn rhoi hyd yn oed yn fwy i chi.