CYF:66-2203-3296830 - Asesiadau yn lle arholiadau

Dy sylw: I am commenting on the in-person exams that are going ahead next academic year. As a second year student i and others have not received proper in person teaching at my time at university which means we are not used to the in person exam style assessments that we have not experienced in 5 years. It wouldn’t be fair to throw the students into the deep end of assessments style especially in the most important year of university. We are not familiar with the layouts and have had no practice of this style of exams. I hope you take this comment into consideration as many others feel the same way.

Ein hymateb:

Diolch am eich sylw. Mae’r ADGD wedi defnyddio Asesiadau yn lle Arholiadau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mewn ymateb i bandemig Covid-19. Rydym yn myfyrio'n barhaus ar gynnwys modiwlau ac asesiadau. Mewn rhai achosion ceir newid o Asesiadau yn lle Arholiadau i asesiadau sy'n canolbwyntio mwy ar waith cwrs yn y tymor hwy. Rydym eisoes yn ymgorffori amrywiaeth a chyfanswm sylweddol o asesiadau gwaith cwrs yn ein darpariaeth modiwlau ac mae'r newid hwn yn ymestyn hynny. Fodd bynnag, ar gyfer rhai modiwlau mae'n briodol ailgyflwyno asesiadau ar ffurf arholiadau. Pan wneir hynny, bydd myfyrwyr yn cael cefnogaeth i baratoi ar gyfer y math hwn o asesiad ac yn cael samplau fel y gallant ymgyfarwyddo â’r fformat. Rydym yn sylweddoli bod profiad blaenorol myfyrwyr yn wahanol oherwydd yr addasiadau y mae'r ysgol a'r brifysgol wedi'u gwneud yn ystod y pandemig. Rwy'n croesawu eich adborth a hoffwn eich sicrhau ein bod yn ymwybodol o'r angen i addasu ein cefnogaeth a'n paratoadau i ymateb i'r gwahanol anghenion ac amgylchiadau.

Diolch eto am eich sylwadau, mae'r materion hyn yn cael eu hystyried yn ein paratoadau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.