Adborth RhWN - Bywyd Myfyriwr
Cliciwch ar y teitlau i weld yr adborth a'r ymateb
Noder: mae'n bosibl bod y sylwadau a'r ymatebion wedi'u golygu. Roedd y wybodaeth yn gywir ar y pryd ond gallai fod wedi'i disodli. Cyhoeddir y sylwadau yn yr iaith y derbyniwyd y sylw ac ymateb y Brifysgol yn ddwyieithog.
23/24 Semester 2
-
CYF: 66-2405-529221 - Mwy o Ofodau Di Dor
Dy sylw: Not mowing for the month of May has been fantastic, the campus is extremely beautiful with the grass and wildflowers growing out. There are also a lot of really good reasons not to mow - it's better for the bees, insects, fungus, and other wildlife, and native plants prevent erosion. I suggest more areas of campus never be mowed. The University of Nottingham is doing it. The lawns are fine, but they're nicer as meadows, they're too muddy to sit on most of the time either way. I love that the school is doing no mow may, it's a great start, but maintenance costs are lower for areas universities let go to meadow, and it's very, very beautiful.
Ein hymateb:
Diolch am yr e-bost cadarnhaol ynglŷn â menter Di Dor Mai.Rwy'n cytuno bod y campws yn ffynnu pan fydd rhannau o'r campws yn cael eu gadael i dyfu.Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar gynllun rheoli tirwedd 10 mlynedd sydd wedi'i ddatblygu trwy grŵp llywio ledled PA ac sy'n cynnwys cynyddu'r amcanion bioamrywiaeth flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rhai o'r amcanion presennol yw:- Gwella gwerth bywyd gwyllt glaswelltiroedd amwynder drwy gyfyngu ar dorri’r gwair lle bo hynny'n briodol a lleihau ffrwythlondeb pridd drwy ddefnyddio peiriannau torri a chasglu lle bo hynny'n ymarferol.
- Rheoli ardaloedd sylweddol o bob campws fel dolydd blodau gwyllt sy'n cefnogi amrywiaeth ffyniannus o infertebratau.
- Adnabod a chynnal ardaloedd "aflêr" a heb eu trin ar y ddau gampws.
- Sicrhau bod rheoli tir y campws yn ystyried ac yn diogelu bioamrywiaeth a gwytnwch ecosystemau (bwyd a lloches i fywyd gwyllt, bioamrywiaeth pridd gyda gwarchodaeth gyfreithiol benodol o adar sy'n nythu ac ystlumod sy’n clwydo).
-
CYF: 66-2403-1115109 - Mwy o seddi awyr agored
Dy sylw: There's so much outdoor space around PJM, you should put some picnic benches out for when it's sunny!
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich cais Rho Wybod Nawr o ran y lleoedd i eistedd o amgylch Pentre Jane Morgan.Yn anffodus, mae seddi ar safle PJM wedi'u cyfyngu i'r bloc cymunedol canolog ar hyn o bryd, fodd bynnag, byddwn yn ceisio ystyried opsiynau ar gyfer gwella'r safle yn y dyfodol pe bai hyn yn ymarferol.Os oes gennych rai awgrymiadau penodol ar leoliadau addas ar y safle, cysylltwch â ni ar llety@aber.ac.uk a gallwn gynnwys mewn trafodaethau yn y dyfodol. -
CYF: 66-2404-6394522 - Mae angen i’r ABM fod ar agor yn hirach
Dy sylw: I find it very strange that SES are only available for such a short window of time, and that they are opened before modules have ended. I have missed the window to complete several SES for my modules because I did not realize they would close so quickly. Additionally, we still had not received any marks when one of the SES opened. We cannot accurately comment on the timeliness of marks when the SES are expected to be completed while the module is still in session with several more weeks to go.
Ein hymateb:
Diolch i chi am estyn allan a thynnu ein sylw at y materion pwysig hyn. Gwerthfawrogir eich ymgysylltiad â'r ABM (Gwerthuso Modiwlau) yn fawr, gan ein bod yn gwerthfawrogi profiad pob myfyriwr o fewn eu modiwlau.Roeddwn i eisiau rhoi syniad i chi o broses yr arolwg ABM. Mae ffenestr yr arolwg fel arfer yn rhychwantu wythnosau addysgu 7-10. Yn ystod yr amserlen hon, mae gan gydlynwyr y modiwlau yr hyblygrwydd i drefnu sesiynau’r arolwg o fewn unrhyw slotiau addysgu ar yr amserlen. Mewn achosion lle nad yw addysgu wyneb yn wyneb yn berthnasol, cynhelir yr arolwg trwy e-bost, fel rheol bydd yn aros ar agor am wythnos.Mae'r rheswm ein bod yn blaenoriaethu cynnal arolygon yn ystod amser addysgu yn seiliedig ar ein profiad. Pan fydd arolygon yn cael eu gweinyddu drwy e-bost, mae ein cyfraddau ymateb yn tueddu i ddisgyn, gan beryglu dibynadwyedd y data. Er mwyn hwyluso cyfranogiad, awgrymwn ddyrannu 15-20 munud ar ddechrau'r darlithoedd i gwblhau'r arolwg, amserlen sydd wedi profi'n ddigonol i'r mwyafrif o ymatebwyr.Mae'n bwysig nodi bod ffenestr yr arolwg wedi'i chynllunio i gyd-fynd â chyflwyno cynnwys y modiwl a derbyn rhywfaint o adborth ffurfiannol. Er ein bod yn cydnabod efallai na fydd hyn bob amser yn cyd-fynd yn berffaith, byddai aros tan i'r holl fodiwlau dderbyn adborth yn oedi'r arolwg tan ar ôl y cyfnod yr arholiadau pan fydd ymgysylltiad myfyrwyr ag adborth modiwlau yn tueddu i fod yn sylweddol is.Yn ogystal, gan fod yr ABM yn ddienw, ni allwn addasu'r cwestiynau ar gyfer modiwlau penodol. Felly, rydym yn defnyddio cyfres o gwestiynau craidd sy'n ymdrin ag asesu ac adborth, gan ganiatáu i fyfyrwyr ymateb yn seiliedig ar eu profiadau gydag adborth crynodol neu ddewis yr opsiwn 'nid yw hyn yn berthnasol i mi'.Rwy'n gobeithio bod hyn yn taflu goleuni ar y rhesymeg y tu ôl i gynllun yr ABM. Mae croeso i chi gysylltu â mi os oes gennych unrhyw ymholiadau neu sylwadau pellach. -
CYF: 66-2403-5792901 - Canmoliaeth i Adeilad Joseph Parry
Dy sylw: The Joseph Parry hall in town is a very great space, it is nice to see an older building being used and kept as it once was at the same time.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am y sylw am Neuadd Joseph Parry. Rydym wir yn gwerthfawrogi'r gofod hwn ac yn gobeithio y gallwn barhau i'w gynnig i fyfyrwyr ThFfTh. -
CYF: 66-2402-2260523 - Rheoliadau parcio ceir
Dy sylw: Make student parking permits available for students who live in town, or reduce the parking fare in the visitor car park
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich ebost.Ni allwn newid telerau ac amodau ein rheoliadau parcio. Mae'r rhain wedi'u cymeradwyo drwy broses lywodraethu arferol y brifysgol gan ystyried llawer o ffactorau. O'i gymharu â meysydd parcio yn Aberystwyth a Cheredigion yn gyffredinol, rydym yn hyderus bod ein prisiau yn deg a rhesymol iawn. Mae'r holl incwm yn cael ei ailfuddsoddi i gynnal yr ystâdHefyd, mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i gyrraedd carbon sero net erbyn 2030. Mae sicrhau teithio cynaliadwy yn rhan o'r ymrwymiad hwn ac felly rydym yn annog defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pan fo’n bosibl.
23/24 Semester 1
-
CYF: 66-2311-9020914 - Cael gwared ar dywelion papur
Dy sylw: The removal of paper towels from bathrooms is wholly inconsiderate of those with sensory processing issues (noise sensitivity) who cannot use the extremely loud hand dryers on campus.
Ein hymateb:
Diolch am eich sylw drwy Rho Wybod Nawr ynghylch tywelion papur.Mae'r prosiect hwn yn rhan o adolygiad cynaliadwyedd ehangach sy’n anelu at leihau effaith amgylcheddol y 4.5 miliwn o dywelion papur sy’n cael eu defnyddio yn y brifysgol bob blwyddyn. Nid yw defnyddio cymaint â hyn o bapur, yn ogystal â'r gwaith rheoli gwastraff canlyniadol, yn cyd-fynd â rhai targedau cynaliadwyedd allweddol ac felly roedd yn bwysig adolygu hyn.O ganlyniad, mae’r Brifysgol wedi ailgyflwyno mesurau a ddefnyddiwyd yn y cyfnod cyn y pandemig, lle mae cyfleusterau’r ystafelloedd ymolchi yn cynnwys naill ai sychwyr dwylo neu dywelion papur.Fodd bynnag, i gydnabod rhai o’r heriau a brofir wrth gyflwyno’r newid hwn, mae tywelion papur wedi’u cadw ym mhob cyfleuster ymolchi hygyrch.Mae dosbarthwyr tywelion papur yn cael eu cadw os bydd angen i ni ailgyflwyno tywelion papur at ddibenion rheoli heintiau yn y dyfodol. -
CYF: 66-2310-1422130 - Dyddiadau Rhyddhau Cerdyn Rheilffordd
Dy sylw: I appreciate the sentiment of the free Railcard, however most students I have spoken to feel they would have appreciated transparency from the beginning about how long it would take to receive the Railcard. For most of us it would have worked out cheaper just to buy one before the start of the year.
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth.
Yn anffodus, ni allwn brosesu'r cardiau rheilffordd yn gyflymach gan fod angen i ni sicrhau bod pawb wedi cofrestru fel myfyriwr yn gyntaf a rhoi digon o amser i bawb wneud cais. Gallwn sicrhau bod y cerdyn rheilffordd yn ddilys am 12 mis ni waeth pryd y byddwch yn derbyn y cerdyn rheilffordd.
Gwnaethom e-bostio pawb wythnos ar ôl cofrestru (sef y cyflymaf y gallwn anfon e-bost at bob myfyriwr ar ôl iddynt gofrestru). Mae rhan o'r e-bost sy'n gwahodd myfyrwyr i optio i mewn i dderbyn Cerdyn Rheilffordd, a anfonwyd ar 3 Hydref ynghlwm. Yn yr e-bost hwnnw, rydym yn nodi'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, ac rydym hefyd yn nodi pryd y gallwch ddisgwyl derbyn y codau i hawlio'r cardiau. Gwnaethom nodi y byddech chi’n cael y codau i hawlio'r cardiau ddechrau mis Tachwedd, rydym yn falch o fod wedi gallu cyhoeddi'r rhain ychydig yn gynt a bod pawb wedi’u derbyn ddiwedd mis Hydref. -
CYF: 66-2311-915008 - Rhyddhau Dyddiadau Arholiadau
Dy sylw: Would it be possible for exam dates to be released earlier as I'm beginning to look at industry conferences and events around the exam period which I'd like to attend for my placement year. Also, what is the reason behind exam dates being published so late especially as formal school exam dates are published over a year in advance?
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth.
Ceir hyd i ddyddiadau holl gyfnodau Arholiadau’r Brifysgol hyd at 2026 yn https://www.aber.ac.uk/en/about-us/dates-of-term/. Bydd amserlen arholiadau dros dro semester 1 ar gyfer Ionawr 2024 yn cael ei rhyddhau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 20 Tachwedd (yr wythnos nesaf), gyda'r amserlen derfynol yn cael ei rhyddhau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 4 Rhagfyr. Dim ond ar ôl i'r holl fyfyrwyr gadarnhau eu dewisiadau modiwl ar gyfer y semester y gellir cynhyrchu'r amserlen arholiadau, a gall myfyrwyr newid eu dewisiadau modiwl yn ystod wythnosau cyntaf y tymor. -
CYF: 66-2310-5118917 - Botwm y Drws wedi’i Drwsio
Dy sylw: The button for the door to Hugh Owen level A across from the food hall is broken and does not open the door.
Ein hymateb:
Diolch i chi am dynnu ein sylw at hyn, rwy’n ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi bod y gwaith wedi’i orffen a bod y botwm yn gweithio i agor y drws.
22/23 Semester 2
-
CYF: 66-2305-1462212 - Ystafelloedd Ymarfer Piano
Dy sylw: It'd be nice if they were more pianos that can be used by students, the ones in lola Fach and the senior common room seem to be moved and the piano in the junior common room is inaccessible for non residents. The ones in the faith space is out of tune and some keys dont work properly. I heard there's on in town but I can't find information on it online.
Ein hymateb:
Mae ystafelloedd ymarfer gyda phianos yn Y Bwthyn, ar Stryd y Brenin, a gellir eu harchebu trwy eich cyfrif FyAber, yma.
-
CYF: 66-2305-5256911 - Diolch am No Mow May
Dy sylw: I just wanted to say how much I am enjoying seeing the effects of 'no mow May' around campus already. Every time I walk to lectures or the library I feel like I get to see new plants and flowers and it makes me smile to see so much nature! I hope that this project will be repeated again next year or even extended to cover more of the year!
Ein hymateb:
Diolch i chi am eich sylwadau cadarnhaol am effeithiau ‘No Mow May '. Fel tîm tiroedd, rydym yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y brifysgol i roi camau newydd y cynllun gweithredu bioamrywiaeth ar waith. Mae llawer o'r gwaith hwn yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Am y tair blynedd diwethaf, mae'r brifysgol wedi ennill statws Baner Werdd, Achrediad Arian fel Campws sy'n Croesawu Draenogod ac mae rhai academyddion ac ymchwilwyr yn IBERS wedi dangos tystiolaeth o dyfiant o amgylch cynefinoedd lleol.
Byddwn yn dal i dorri glaswellt yn y mannau lle mae ychydig iawn o fioamrywiaeth, ac mae hyn yn cynnwys y mannau gwyrdd i'r dde wrth i chi yrru i mewn i'r campws ac o amgylch rhai adeiladau. Bydd y mannau hyn yn dal i dyfu wrth i ni lwyddo i adeiladu ar y strategaeth fioamrywiaeth sydd eisoes ar waith. Nid ydym yn torri o amgylch y gwrychoedd, mae'r cloddiau o flaen Adeilad Hugh Owen (un enghraifft) yn dal i ffynnu yn ogystal â llawer o rannau eraill o'r campysau. Rydym hefyd yn gadael y lleiniau cysgodi heb eu cyffwrdd ac yn torri'r glaswellt sy'n effeithio ar welededd i ddefnyddwyr ffyrdd yn unig.
-
CYF: 66-2302-5433523 - Ystafell Ymarfer Yoga
Dy sylw: Hello, I think it would be great if the uni could create a calm space for yoga/meditation to be practiced. I often think of bringing my yoga mat to uni but think other than the prayer room, there isn’t anywhere peaceful to do any practice. I find doing yoga during exam season, or any other stressful time at uni to be really beneficial and I’m sure other students would too. Yes there are yoga classes at the sports hall but you have to pay for those (understandably), and if you’re stressed and a bit poor and just want somewhere to stretch and relax, there isn’t really anywhere on campus! Thanks.
Ein hymateb:
Gallwch archebu ‘Ystafell 5’ yn Undeb y Myfyrwyr am ddim. Mae hon yn ystafell ddawnsio fach, gyda drychau ar y waliau sy’n addas i grwpiau o hyd at 10. Caiff unigolion archebu’r ystafell ar gyfer yoga a myfyrdod personol, ac mae hynny’n digwydd yn aml. Cewch archebu drwy fynd i dderbynfa Undeb y Myfyrwyr neu drwy e-bostio undeb@aber.ac.uk.
-
CYF: 66-2304-6915519 - Drysau Agor Meddal
Dy sylw: Could you add a soft close/slow closing restrictor on the door into the G3/G3A LLA corridor? I have a lot of teaching in G3A, and when people come and go into G3 next door on the hour, there is about 10 minutes of constant door slamming which is really loud and distracting when you're in a lecture or seminar.
Ein hymateb:
Diolch am ddod â hyn i’n sylw, mae ein Tîm Cynnal a Chadw wedi bod yn ymchwilio i’r broblem ac wedi gwneud yr addasiadau angenrheidiol i’r drysau.
Diolch
-
CYF: 66-2304-9102117 - Diweddariadau i'r Wefan
Dy sylw: I have noticed on the residence life webpage the events and activities section has not been updated. They only have the events from freshers week and the few weeks after.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am godi hyn. Rydym bellach wedi diweddaru gweithgareddau’r digwyddiad ar y wefan a byddwn yn sicrhau bod hyn yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd. Os ydych chi’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, dilynwch ein cyfrifon er mwyn cael y wybodaeth fwyaf diweddar. Gwnewch hyn drwy ddilyn @BywydAberLife ar Facebook neu Instagram.
-
CYF: 66-2303-6187824 - Rhoi yn hytrach na Thaflu
Dy sylw: Within the accommodation block there should be a place where students can deposit items they no longer need or want and others who are in need can pick-up. I think that this would be beneficial to all students who will be leaving Aber for whatever reason, so they don't have to think about throwing things away.
Ein hymateb:
Diolch am eich awgrym.
Rydym ni’n cynnal ymgyrch “bring it don’t bin it” bob blwyddyn, gan ddechrau ar ôl egwyl y Pasg, i fyfyrwyr roi unrhyw bethau sydd ganddyn nhw sydd bellach yn ddieisiau neu’n ddiangen. Yna rydyn ni’n rhoi’r eitemau hyn i undeb y myfyrwyr ac elusennau cymorth lleol. Cadwch olwg am ebost gan y byddwn yn anfon gwybodaeth dros yr wythnosau nesaf am ble y gallwch roi eich eitemau a beth sy’n cael ei wneud gyda’r eitemau rydych chi’n eu rhoi. Os ydych chi’n gadael cyn i ni anfon y wybodaeth, gadewch unrhyw eiddo rydych chi’n awyddus i’w roi yn eich ystafell gan labelu’r eitemau’n glir a gadael i ni wybod eich bod yn hapus i ni roi’r eitemau ar eich rhan.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni yn ddi-oed yn y swyddfa llety.
-
CYF: 66-2303-223821 - Talu i Barcio
Dy sylw: Free parking for students would encourage better attendance. Or discounted now that charges are being introduced in May.
Ein hymateb:
Diolch am eich ebost.
Cafodd costau parcio eu hatal dros dro yn ystod y pandemig ond fe’u hailgyflwynwyd beth amser yn ôl. Yr unig gostau sy’n ailgychwyn ym mis Mai yw rhai i ymwelwyr sy’n defnyddio’r meysydd parcio talu ac arddangos ger Canolfan y Celfyddydau. Cafwyd oedi wrth newid y peiriannau i dderbyn cardiau yn hytrach nag arian parod, i gyd-fynd â pholisi’r Brifysgol ers peth amser o fod yn gampws nad yw’n derbyn arian parod.
Rydym yn ymfalchïo bod ffioedd y meysydd parcio’n rhesymol iawn ac yn falch fod Prifysgol Aberystwyth yn ddiweddar wedi’i gosod ymhlith y deg lle rhataf i fyfyrwyr yn y DU.
Mae incwm y meysydd parcio’n cyfrannu’n uniongyrchol at gynnal a chadw’r ffyrdd ar holl gampysau’r Brifysgol.
-
CYF: 66-2303-2625015 - Y Tymheredd yn Ystafelloedd Darlithio Hugh Owen
Dy sylw: The lecture and seminar rooms tend to be too warm. Especially in Hugh Owen, radiators tend to be on full temperature all of the time which makes people feel tired during teaching.
Ein hymateb:
Diolch am dynnu ein sylw at y broblem wresogi yn adeilad Hugh Owen. Rydym ni wedi edrych ar y mater ac wedi amnewid ac ychwanegu falfiau at y rhan fwyaf o’r rheiddiaduron, a bellach gellir eu rheoli i’r tymheredd a ddymunir. Adroddwyd bod y gwaith wedi’i gwblhau a gobeithio bod yr ardal yn lle mwy cyfforddus i astudio/gweithio.
-
CYF: 66-2302-337228 - Ystafelloedd Ymarfer Cerddoriaeth
Dy sylw: I was wondering if it would be possible for there to be a space for music scholars to practise on campus in the future as sometimes housemates are not very chill about the noise some instruments produce . Preferably with a piano as currently the only place to practise piano is by the old college and walking into town and back makes the half hour practise session not always worth it.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylw Rho Wybod Nawr.
Mae nifer o ystafelloedd y gellir eu harchebu ar gael i fyfyrwyr sy'n addas ar gyfer cerddoriaeth megis:
• Lolfa Rosser
• Canolfan y Celfyddydau
• Bloc Cyfleusterau PJM
Mae modd archebu gofod yn Undeb y Myfyrwyr ac ym Mhantycelyn ar gyfer chwarae cerddoriaeth. Mae gan rai ystafelloedd ym Mhantycelyn (e.e. yr Ystafell Gyffredin Hŷn a'r Lolfa Fach) biano y gall myfyrwyr ei ddefnyddio.
Gellir archebu ystafelloedd drwy’r ddolen hon: https://ystafellaberrooms.simplybook.it/v2/#book/service/12/count/1/
Mae'r bwydlenni safonol yn dal i gael eu hysbysebu ac maent i'w gweld yn:-https://www.aber.ac.uk/en/hospitality/thefoodhallweeklymenus/
-
CYF: 66-2301-3342413 - Arwyddion sy'n niwtral o ran rhywedd
Dy sylw: I think it's really great that the bathrooms across campus have access to menstruation products, regardless of the gender of the bathroom, but I don't necessarily like how the signs about them refer to people who menstruate as women. The association with women can be really harmful to a lot of trans* and gender non-conforming people. Whilst I understand that it does statistically affect people who identify as women more, it seems a little dismissive of the trans* and GNC community here within Aber. It's great that such inclusion is being encouraged, as well as highlighting global period poverty, but would it not be more inclusive to use terms such as 'people who menstruate' instead of 'women', just because it disregards entire collectives of people within one word? I personally think it's for the better, and would be a more positive reflection on the values the university promotes if gender inclusive language were used.
Ein hymateb:
Diolch i chi am eich sylwadau - a dyma gadarnhau bod hyn eisoes wrthi'n cael ei adolygu gan ein bod am newid cyflenwyr y cynnyrch a ddefnyddir ledled y Brifysgol. Bydd hyn yn golygu newid yr arwyddion a'r wybodaeth i fod ag iaith fwy cynhwysol. Ein gobaith yw y bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud mewn pryd ar gyfer dechrau Blwyddyn Academaidd 2023-24.
22/23 Semester 1
-
CYF: 66-2212-9131205 - Dylid cwblhau HGM gartref
Dy sylw: We have been asked to complete MEQ's in class for every module, and only given a few minutes to do them. We should be given these to do away from class, so we have more time, and those of us that can't think and type quickly actually have an opportunity to complete them. I have plenty of feedback that I'd like to give, but am not able to do so.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylw Rho Wybod Nawr.
Pan fo’n bosibl, hoffem gynnal yr HGM yn ystod amser dysgu. Mae hyn oherwydd bod ein data a'n profiad blaenorol wedi dangos, pan fo’r HGM yn cael eu cynnal y tu allan i'r ystafell ddarlithio - i fyfyrwyr gwblhau yn eu hamser eu hunain – mae ein cyfradd ymateb yn gostwng yn sylweddol. Bydd y cyfraddau ymateb isel hyn yn effeithio ar ein data o ran dibynadwyedd a dilysrwydd. Hefyd, nid yw ein system wedi'i osod ar hyn o bryd i ganiatáu cwblhau HGM yn y dosbarth ac yn allanol gan y gallai hyn o bosibl arwain at rai myfyrwyr yn cyflwyno nifer o ymatebion HGM. O ran peidio â chael digon o amser i gwblhau'r HGM, rydym yn gofyn i bob darlithydd ganiatáu 10-15 munud i gwblhau'r HGM, yn y gorffennol rydym wedi tybio bod hyn yn ddigon o amser i gwblhau'r HGM gan gynnwys yr adran atebion testun rhydd. Fodd bynnag, byddwn yn adolygu hyn cyn ein cyfnod HGM nesaf.
-
CYF: 66-2212-7489521 - Rhoi Arian ar Gerdyn Aber
Dy sylw: Please can we be allowed to pay for things on campus using cash, or at least be allowed to top up my AberCard using cash? I use cash to help me budget.
Ein hymateb:
Diolch am eich sylw 'Rho Wybod Nawr' ynghylch gallu talu i roi arian ar eich Cerdyn Aber gydag Arian Parod. Gallwch wneud hyn yn nerbynfa Undeb y Myfyrwyr, gan eu bod yn dal i dderbyn arian parod.
-
CYF: 66-2211-4670324 - Diolch Diogelwch
Dy sylw: I want to take a minute to thank the entirety of the Security Team staff who always come to you when you call them no matter the time of day and are the most friendly staff I've ever dealt with on campus. Your efforts are recognized and are very much appreciated
Ein hymateb:
Diolch yn fawr iawn i chi am eich adborth, mae'r tîm yn gwerthfawrogi'n fawr cael ymateb mor gadarnhaol, yn enwedig gan rywun o'n cymuned myfyrwyr.
Diolch yn fawr iawn,
21/22 Semester 2
-
CYF:66-2207-3073314 - System awyru yng Nghanolfan y Celfyddydau
Dy sylw: Can Air Conditioning be installed in the Arts Centre? Heat in summer during graduation is nothing unusual - and this would make everyone's graduation more comfortable.
Ein hymateb:
Gosodwyd y system bresennol ym 1967 sy'n gwasgaru aer i'r Neuadd Fawr a thrwy Ganolfan y Celfyddydau, yn anffodus ni ellir ei rheoli i gyfeirio’r aer i’r Neuadd Fawr yn unig. Rydym wedi gosod system oeri aer cludadwy dros dro i’r Uned Trin Aer, ond ffactor cyfyngol mawr yw na ellir ailgylchu aer, oherwydd ystyriaethau COVID a lefelau eithriadol CO2 sy'n cael eu cynhyrchu yn ystod sesiwn raddio.
Mae hyn yn golygu na allwn elwa o’r aer oer sy’n cael ei ailgylchu’n barhaus fel y byddech gyda system awyru eich car pen fo’r ffenestr wedi cau, dim ond aer uniongyrchol ar beth bynnag fo’r tymheredd amgylchynol sydd ar gael, sydd wedyn yn cael echdynnu ar ôl cwblhau cylchred.
Mae gwaith adnewyddu mawr wedi'i gynllunio ar gyfer Canolfan y Celfyddydau sy’n cynnwys unedau trin aer newydd, a fydd yn gallu dadleithio ac oeri’r aer sy’n cael ei dderbyn. -
CYF:66-2205-8942009 - Chwistrellu chwyn
Dy sylw: I think we should stop the use of herbicides on campus.
Ein hymateb:
Diolch am gymryd amser i gwblhau ffurflen Rho Wybod Nawr ynghylch chwistrellu chwyn.Rydym ni’n defnyddio cyn lleied â phosibl o Chwynladdwyr yma yn Aberystwyth i drin ein chwyn. Pan fyddwn ni’n chwistrellu, rydym ni’n ei wneud er mwyn rheoli twf ar hyd waliau adeiladau, ac o gwmpas arwyddon, i gynorthwyo i leihau’r angen i strimio a gwella golwg weledol twf y gwair ar ein campysau. Rydym ni’n ei roi ar arwynebau llwybrau a sianeli ar ochr ffyrdd, oherwydd os cânt eu gadael heb eu trin, gall llwybrau a phalmant fynd yn ddiolwg ac yn beryglus yn gyflym. Rydym ni wedi lleihau’r nifer o weithiau rydym ni’n chwistrellu ac yn ei ddefnyddio ar lwybrau a sianeli ochr ffyrdd ddwywaith y flwyddyn (mis Ebrill/Mai a mis Medi) yn unig. Mae ysgubo ffyrdd ac ymylon yn rheolaidd wedi cynorthwyo ymhellach gyda rheoli chwyn a lleihau’r defnydd o gemegau.Mae’r chwynladdwr cemegol a ddefnyddir yn seiliedig ar sylwedd o’r enw glysoffad, sy’n rheoli pob math ar lystyfiant. Mae gan glysoffad wenwyndra isel iawn i anifeiliaid a risg finimal i bobl. Dangosir mai glysoffad yw’r dull mwyaf cost effeithiol o reoli chwyn, ac rydym ni’n parhau i adolygu cyngor y Llywodraeth a’r Gyfarwyddiaeth Iechyd a Diogelwch ar y defnydd o chwynladdwyr wrth i ymchwil barhau i ddatblygu yn y maes. Mae gennym ni hefyd wn fflamau ac rydym ni’n ei ddefnyddio i leihau defnydd o chwynladdwr ac fe’i defnyddir pan fydd angen rheoli chwyn y tu allan i’r cyfnod uchod ac ar fannau â phalmant ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau arbennig.Fel y byddwch yn gweld pan fyddwch chi’n cerdded o gwmpas ein campysau a’n coetiroedd, mae gennym nifer o ardaloedd naturiol lle nad ydym ni’n defnyddio unrhyw chwynladdwyr ac wedi gadael i’r ardaloedd hyn ddatblygu’n naturiol gyda rheolaeth gyfyngedig i reoli a chynnal cyfleuster gweithio ac astudio diogel. Mae hyn yn rhan o’n Cynllun Rheoli Tirwedd a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gweithredol yn 2021 pan sefydlwyd gweithgor ar y cyd i ddatblygu cynllun cadwraeth tymor hir i Diroedd Campws Penglais. Roedd y grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr Cangen Ceredigion o Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru, a swyddogion a staff Prifysgol Aberystwyth o IBERS, Iechyd a Diogelwch (Cadwraeth a’r Amgylchedd), y Ganolfan Chwaraeon, Ystadau. Rydym felly’n sicrhau ein bod yn parhau i gynnal ein statws hanesyddol rhestredig Gradd II* a Baner Werdd.Gan fod y campws yn dirwedd fywiog sy’n cael ei ddefnyddio’n aml, gyda sawl defnydd gwahanol a dyheadau gwahanol randdeiliaid, rydym yn ceisio rheoli a bodloni disgwyliadau pawb gyda gofal. -
CYF:66-2205-273206 - Campws #MaiDiDor?
Dy sylw: Given that it is No Mow May and that a report has just come out about a 60% decline in insect numbers in the UK how much of the 'lawn' space will be set aside this year for wildflowers? Could we reconsider the extensive mowing policy currently employed at Aber Uni?
Ein hymateb:
Diolch am fynegi pryderon pwysig ynghylch bioamrywiaeth ar y campws. Mae gennym bolisi manwl ar gyfer rheoli'r dirwedd ar Gampws Penglais. Cafodd ei ddatblygu gan arbenigwyr, a'i fwriad yw hyrwyddo bioamrywiaeth a chadwraeth y dirwedd. Yn unol â chyngor yr arbenigwyr, ceir llawer o ardaloedd lle nad yw’r borfa’n cael ei thorri, a hynny er mwyn hyrwyddo'r bywyd gwyllt. Mae gennym sawl ardal ar ein campysau sy'n cael eu rheoli er mwyn cynorthwyo'r bywyd gwyllt naturiol, ac rydym wedi bod yn cydweithio â sawl corff er mwyn datblygu hyn. Cawsom yn ddiweddar Wobr Arian am fod yn gampws sy'n ystyriol o ddraenogod ac rydym wrthi ar hyn o bryd yn gweithio gyda'r adran yn y Brifysgol sy'n gyfrifol am yr amgylchedd i sicrhau ein statws 'ystyriol o wenyn', gan fod gennym sawl cwch gwenyn ar ein tiroedd.
Rydym yn croesawu adborth fel y gallwn drafod sut y gallwn ddatblygu rhagor ar ein polisi, gan gynnwys ychwanegu rhagor o ardaloedd lle nad yw'r borfa'n cael ei thorri. Byddem yn awyddus iawn i drefnu cyfarfod i drafod hyn ymhellach â chi; os hoffech inni drefnu cyfarfod, cysylltwch â ni ar chwaraeon@aber.ac.uk
-
CYF:66-2205-97603 - Canlyniadau'r HGM
Dy sylw: I think that it should be possible to view the results of modules previous MEQs when choosing modules for next year. This way students can take previous students points of view into account to make a better informed decision when it comes to picking new modules. Staff should also be able to publish any changes made as result of MEQs as well
Ein hymateb:
Ar hyn o bryd, caiff unrhyw newidiadau a wneir o ganlyniad i adborth myfyrwyr drwy’r Holiadur Gwerthuso Modiwlau eu ebostio at yr holl fyfyrwyr sy’n gofrestredig ar y modiwl a’u huwchlwytho i Blackboard. Gobeithio eich bod yn ystyried y ffordd rydym ni’n cyhoeddi unrhyw newidiadau yn sgil Holiadur Gwerthuso Modiwlau yn ddefnyddiol. Rwyf i’n croesawu unrhyw awgrymiadau neu adborth arall ar y broses gyfredol.
Diolch am eich awgrym gwych - mae hwn yn un rydym ni am ei ddatblygu. Rwyf i eisoes wedi dechrau holi ble yw’r lle gorau i gynnal yr wybodaeth hon ac wedi dechrau ar y camau angenrheidiol i weithredu hyn ar ein hochr ni. Nid wyf i’n rhagweld unrhyw broblemau wrth weithredu hyn, a byddaf yn eich diweddaru gydag unrhyw gynnydd.
-
CYF:66-2205-5297903- Dôl i fywyd gwyllt yn PJM
Dy sylw: I think we should turn the area between the bridge and PJM into a wildflower meadow (either side of the path). It would look so pretty, be low maintenance and great for the bees. According to The Royal Botanic Gardens Kew, the UK has lost 97% of its wildflower meadows since the 1930s!!! So it would be amazing for marketing if we put them back and also look so nice for us as students.
Ein hymateb:
Diolch am gysylltu â ni ac am eich sylwadau ynghylch cyflwyno dolydd i fywyd gwyllt o amgylch Pentre Jane Morgan.
Rydym yn gwerthfawrogi eich sylwadau a'ch awgrymiadau yn fawr. Efallai eich bod yn gwybod ein bod eisoes wedi cymryd camau i'r cyfeiriad hwn trwy ychwanegu 'Terfyn Gwyrdd' o amgylch ffin safle PJM i annog bywyd gwyllt. Cyflwynwyd hwn yn 2019, gyda mewnbwn gan y myfyrwyr, ac mae wedi gweithio'n dda.
Rydym yn ystyried yn barhaus yr hyn y gallwn ei wneud i wella ein safleoedd, ac os hoffech drafod ymhellach anfonwch ebost atom ar llety@aber.ac.uk
-
CYF: 66-2203-9209410 - Newidiadau amserlennu
Dy sylw: All my modules for this term appeared on my timetable by January, so I arranged my work schedule around them (I work full time), but by the time term actually started they had changed (one to a completely different day and one to a different time on the same day), so I had to renegotiate my entire work schedule. If there had been a note to say that the timetable was provisional this could have been avoided. Also last term our study skills module was timetabled every week on the official timetable, but only actually held on some weeks, and we weren't told whether there would be a class that week until very short notice, sometimes only the day before. It often seems like the uni forgets that lots of students work around their degree and need some kind of certainty about when they will be required on campus.
Ein hymateb:
Diolch am gysylltu â TUN am eich amserlen.
Mae’n ddrwg gen i glywed y cafwyd newidiadau hwyr i’ch amserlen ym mis Ionawr a bod oblygiadau i’ch amserlen waith yn sgil hyn. Mae’r amserlen yn newid o bryd i’w gilydd yn ystod y cyfnod cyn addysgu, yn enwedig os oes mater pwysig sydd angen ei ddatrys. Fodd bynnag, yn unol â’ch awgrym, yn y sesiwn academaidd nesaf byddwn yn sicrhau y caiff y mater ei grybwyll yn y rhybudd baner goch ar amserlen cofnod y myfyriwr.
O ran yr ansicrwydd ynghylch dyddiadau eich modiwl sgiliau astudio, byddwn yn codi’r pryder hwn gyda’r cydlynwyr modiwl perthnasol er mwyn gallu osgoi’r math hwn o sefyllfa yn y dyfodol.
-
CYF:66-2203-7974909 - Bws gwennol ar gampws
Dy sylw: Please could we have a shuttle bus on campus to help us avoid the hills. For my friends with asthma or people with mobility issues it’s difficultly to get from lectures in Edward Llwyd up to P5 in 15 mins especially when lectures run. I also have depression and think that if I was able to access a shuttle bus (even if it was just once every hour or less) so that I don’t have to walk back to my accommodation I would definitely attend significantly more lectures.
Ein hymateb:
Diolch am eich ymholiad. Mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i lleoli ar fryn ac mae llawer yn dweud mai un o’r pethau a’u denodd yma yw’r olygfa odidog o’r bae. Rydym ni wedi mynd i’r afael â llawer o ystyriaethau ffisegol i gynyddu hygyrchedd i bawb yn yr ystad, ond mae mae rhai adegau pan nad oes datrysiadau’n bosibl.
Nid yw’n bosibl darparu bws gwennol o gylch y campws gan nad yw’r goblygiadau cost yn gymesur gan ein bod wedi canfod yn hanesyddol nad yw’r bysiau’n cael eu defnyddio llawer. Yn ogystal rydym ni’n cefnogi menter Llywodraeth Cymru i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030 ac yn cefnogi llawer o fentrau cynaliadwy.
A allwn ni awgrymu eich bod yn cysylltu â’ch tiwtor personol i weld a oes unrhyw beth y gellid ei wneud o ran eich amserlen neu hysbysu tiwtoriaid y gallech fod ychydig yn hwyr i ddarlithoedd.
-
CYF:66-2203-6792503 - Compostio ar y campws
Dy sylw: It is pleasing to see the switch to compostable containers in the catering and hospitality across campus. However, there seem to be no composting bins? This seems to be something that would be easy to implement. It could even, be linked with research into energy extraction from compostable ware, or it's potential use on crops etc.? Missed opportunity?
Ein hymateb:
Diolch am eich cyflwyniad i Rho Wybod Nawr mewn perthynas â chompostio ar y safle.
Yn anffodus, fel y nodoch chi, nid oes gan y Brifysgol opsiynau compostio ar y Campws ar hyn o bryd, ac nid yw’r seilwaith ar gael yn yr ardal. Yn yr un modd, nid yw ein ffrwd gwastraff Cymysg Sych ar hyn o bryd yn gallu derbyn deunyddiau y gellir eu compostio, ac o ganlyniad bydd gofyn gwaredu’r deunydd hwn drwy’r ffrwd Gwastraff Cyffredinol. Bydd unrhyw wastraff cyffredinol na ellir ei ailgylchu’n mynd drwy broses losgi, gyda rhywfaint o fuddion o ran creu ynni.
Fodd bynnag gallwn dderbyn pecynnu y gellir ei gompostio drwy ein cyflenwr bwyd, ac yn fuan bydd y Brifysgol yn cynnal adolygiad o ddarpariaeth Ailgylchu Cymysg Sych a Gwastraff Bwyd fel rhan o newidiadau arfaethedig i Ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru. I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://llyw.cymru/cynyddu-ailgylchu-gan-fusnesau?_ga=2.167949730.227123199.1650373818-2073166457.1647499859
Felly, er bod y ddarpariaeth gyfredol ar gael ar gyfer y gwastraff a gaiff ei adael mewn allfeydd Lletygarwch yn unig, y gobaith yw y bydd gwell opsiynau gwastraff bwyd ar gael o gwmpas y campws mewn mannau mwy cyhoeddus yn y dyfodol agos a chaiff eich adborth ei ystyried fel rhan o’r adolygiad hwn.
-
CYF:66-2202-4328309 - Mannau astudio yn y dref
Dy sylw: Really wish the in town study space would hurry up and be complete! would make printing alot easier for us in town if there is a printer there also!
Ein hymateb:
Mae'r gwaith adnewyddu mewnol wedi’i wneud ar y man astudio newydd yng nghanol y dref ac mae bron yn barod i’r myfyrwyr ei feddiannu. Fodd bynnag rydym ni’n aros am Ganiatâd Adeilad Rhestredig gan CADW ar gyfer symud y fynedfa flaen er mwyn sicrhau mynediad diogel a gwastad i’r lle. Unwaith y bydd y caniatâd hwn wedi’i sicrhau, gallwn gwblhau’r darn olaf o waith. Mae pob caniatâd arall wedi’i dderbyn.
21/22 Semester 1
-
CYF:66-2111-940116 - Cysylltu â gwasanaethau llety
Dy sylw: When we call the number 01970 622900, we can't easily reach the service needed, this is particularly a problem in case of emergency. First there is a message in Welsh that lasts 20 seconds. Then, there is a message in English that also lasts 20 seconds. It's only after 40 seconds, that we actually can choose which service we want to call. I believe this number is the one we need to dial in case of emergency. Therefore, I don't understand why the system put in place is so inefficient. It would seem logical to immediately offer the possiblity to contact the security. Then, offer to press 1 for Welsh, 2 for English. And eventually offer the choice for the service.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich ymholiad. Rydym yn gwerthfawrogi ac yn chwilio bob amser am syniadau ar gyfer gwelliant parhaus.
Mae'r Brifysgol yn cefnogi Deddf yr Iaith Gymraeg sy'n nodi bod yn rhaid i bob gohebiaeth fod yn ddwyieithog. Rydym yn ymchwilio i ddatblygiadau technolegol ar hyn o bryd er mwyn awtomeiddio mwy ar ein switsfwrdd ond bydd hyn yn cymryd peth amser. Rydym wedi gweithredu mesurau dros dro drwy gydol y pandemig er mwyn sicrhau bod modd cysylltu â'r staff o hyd a sicrhau bod ein gwasanaethau'n cael eu darparu.
Mae gan bob rhif ar yr opsiwn x2900 rifau deialu uniongyrchol hefyd, felly os oes rhif y mae angen ei ddefnyddio'n rheolaidd, gellir deialu hwnnw'n uniongyrchol.
Ar gyfer argyfyngau, mae ffôn ym mhob un o'r adeiladau academaidd sy'n dynodi sut i gael gafael ar y gwasanaeth Diogelwch mewn argyfwng, nid drwy ddefnyddio'r dull hwn. Nid yw neges y peiriant ateb yn weithredol tu allan i oriau gwaith arferol ac mae'r gwasanaeth diogelwch yn derbyn yr alwad yn uniongyrchol er mwyn lleihau'r amser mae'n rhaid aros cyn i'r alwad gael ei hateb.
Mae cyfeiriadur llawn o rifau ffôn ar gael ar wefan y Brifysgol hefyd.
-
CYF:66-2111-1277005 - Ystafelloedd dysgu oer
Dy sylw: EL0.26 is particularly cold. I understand the need for ventilation but when the room is genuinely as cold, if not colder, than outside it seems a bit over the top. If every single student has to bring in scarves and big coats, to sit inside the lecture hall, there’s got to be a problem. It’s so cold half of us end up with hand cramps trying to write our notes. This is actively hindering our academic progress.
Ein hymateb:
Rydym wedi cynnal rhywfaint o ymchwiliadau ac mae'n ymddangos bod gennym ni broblem gydag un o reolyddion y gwres. Mae contractwr yn edrych ar hyn a gobeithio bydd y broblem yn cael ei datrys gynted ag y bo modd. Diolch
-
CYF:66-2110-684206 - Ebyst yn Gymraeg
Dy sylw: Struggling to see/engage with emails as I don't understand Welsh. Can there be an option to receive in English or Welsh? I appreciate the opposite would be said for anyone who can't understand English.
Ein hymateb:
Diolch am gysylltu. Caiff gohebiaeth at grwpiau o fyfyrwyr ei hanfon yn Gymraeg a Saesneg yn unol â safonau’r Gymraeg a pholisïau dwyieithog y Brifysgol.Rydym ni’n falch i fod yn sefydliad cynhwysol a dwyieithog ac am i’r holl fyfyrwyr gael profiad cadarnhaol o’r Gymraeg a’i diwylliant yn ystod eu cyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae Prifysgolion yng Nghymru a llawer o sefydliadau eraill hefyd yn ddarostyngedig i Reoliadau Safonau’r Gymraeg. Mae’r safonau statudol hyn yn esbonio pa wasanaethau sydd angen eu darparu yn Gymraeg, gyda’r brif egwyddor na ddylid ymdrin â’r Gymraeg yn llai ffafriol.Dan Safonau’r Gymraeg (safon 4) rhaid i ohebiaeth i sawl derbynnydd fod yn ddwyieithog a rhaid peidio â thrin y fersiwn Cymraeg ‘yn llai ffafriol’. I gydymffurfio â’r gofyniad hwn, caiff gohebiaeth Prifysgol Aberystwyth ei gosod fel arfer gyda’r testun Cymraeg ar y chwith a’r testun Saesneg ar y dde gyda llinell pwnc ddwyieithog. Os oes gennych chi enghraifft o ebost lle nad yw’r testun Saesneg yn cael ei ddangos yn gywir neu’n anodd ei ddarllen, a fyddech gystal ag ebostio copi i canolfangymraeg@aber.ac.uk gan gadarnhau’r math o ddyfais rydych chi’n ei defnyddio i edrych ar yr ebost. -
CYF:66-2109-2122128 - Trafnidiaeth i Lanbadarn
Dy sylw: Please can the university provide a free shuttle bus to the Llanbadarn campus like previous years (opposite the main reception building) taking into consideration the new start times this year. I suffer from asthma and each week I have a 9am, starting this coming monday (4/10/2021) at the Llanbadarn campus and fear I wont make it to lecture. It would be deeply appreciated, thank you.
Ein hymateb:
Mae Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol ar hyn o bryd yn gweithio gyda’r cwmni bysiau i’w hannog i newid eu hamserlen er mwyn i'r bysiau gyrraedd erbyn dechrau darlithoedd.
Mae bws rhif 301 Mid Wales Travel yn cynnig gwasanaeth gwennol o'r dref trwy Gampws Penglais i Lanbadarn. Gweler y ddolen isod. https://www.midwalestravel.co.uk/sites/default/files/301%20New%2024072018.pdf
-
CYF:66-2107-1117211 - Dysgu ac arholiadau ar-lein
Dy sylw: Teaching should be optionally hybrid. I know the university wants to return to in-person teaching, which I agree with, however there should be a hybrid option for those who aren't able to make it, or would prefer to attend the session remotely. For example, instead of using Panopto to record the videos, lectueres could instead create a Teams broadcast, so that the in-person lecture is also transmitted over Teams. (given the current capability of the lecturing PC's, it would be a relatively easy switch from a technical perspective.) Attendance tracking should be based on in-person attendance, and Teams-call attendance. I'm all for MOPS and stuff, but I personally don't always learn better from sitting in a lecture hall, it largely depends on the topic and sort of content. Likewise, in-person exams are horrible. I absolutely despise them on every level. I'm a high-performing student, achieving mostly firsts in modules, and I really find that in-person exams really harm my performance, and I know for a fact this is a feeling shared by many students. The anxiety, and pressure, of being placed into a silent exam hall, with hundreds of other students, with unseen questions, is a situation that makes it incredibly hard to achieve maximum potential. Not only is it a harsher environment, its highly unrealistic. Please, on behalf of all the students who perform better not-in-exams, keep exams online/not in an exam hall. It's better for everyone, and would make the experience so much better.
Ein hymateb:
Diolch am eich sylwadau am yr amgylchedd addysgu a dysgu ac am egluro sut mae'r newidiadau dros y flwyddyn a hanner diwethaf wedi effeithio ar eich profiad. Mae llawer o hyn yn cael ei adolygu ar raddfa eang, fel y gallwch ddychmygu, ac mae sawl menter eisoes ar waith gan amrywiol adrannau ar ddull ‘dysgu cyfunol’ o addysgu. Ni fydd hyn yn cael ei safoni ar draws y Brifysgol, gan fod gan wahanol gynlluniau a disgyblaethau wahanol anghenion a dulliau addysgu. Bydd llawer o adrannau'n symud ar-lein i gyflwyno addysg i grwpiau mawr, yn rhannol ar gais myfyrwyr, ond hefyd i geisio lliniaru'r problemau presennol gyda Covid. Un o'r cymhlethdodau i'w gadw mewn cof, fodd bynnag, yw ar yr un pryd ag y mae myfyrwyr sy'n mynegi dymuniad i barhau i ddysgu ar lein am rannau o'u gradd, mae eraill sy'n gadarn yn erbyn hynny. Bydd angen i adrannau wneud llawer o benderfyniadau am ddichonoldeb, effeithlonrwydd a gwerth addysgegol unrhyw ddarpariaeth ar-lein wrth ddatblygu darpariaeth y dyfodol. Byddwn yn dal i fonitro presenoldeb ac mae'r Brifysgol yn edrych ar ffyrdd amgen o barhau gyda hyn yn y dyfodol.
O ran arholiadau, mae rhai cyrff proffesiynol sy'n dyfarnu achrediadau yn gofyn bod y pynciau'n cynnal y fformat ffurfiol sy'n golygu bod yn bresennol mewn neuadd arholi dawel . Nid oes gan y Brifysgol ryddid i newid y fformat hwnnw ar gyfer myfyrwyr y pynciau hynny. Wedi dweud hynny, mae llawer o ystyriaethau sy'n gofyn sylw wrth benderfynu ar batrwm asesu ar gyfer gwahanol raddau, ac mae llawer o adrannau’n ystyried fformatau amgen ar gyfer arholiadau sy’n amrywio’r fformat mwy traddodiadol a amlinellir uchod.
20/21 Semester 2
-
CYF:66-2102-4933926 - Y Gyfrifiannell Raeadru
Dy sylw: We would like some clarification on access to the cascade calculator via student record, following release of term one results we gained access to this but it is now removed from our student record. Last years group had access for a few weeks at least whereas we have had access for less than a day. Is this a mistake or will we gain access back for this?
Ein hymateb:
Tynnwyd y gyfrifiannell raeadru gan fod gwall ar y system. Mae ein Gwasanaethau Gwybodaeth wedi gweithio i drwsio'r broblem ac mae ar gael i'w defnyddio eto drwy'ch Cofnod Myfyriwr.
20/21 Semester 1
-
CYF:66-2012-8651202 - Tocynnau rodd
Dy sylw: I wanted to say that me and other students do not like that every prize draw or similar things always give out Amazon vouchers. Instead, we think it would be better if you gave out vouchers for local restaurants or takeout (especially good during the pandemic to support the local businesses), or maybe to some more ethical businesses. Thank you.
Ein hymateb:
Diolch ichi am eich neges ynghylch y gwobrau cyswllt. Mae'r Brifysgol yn cydnabod eich pryderon moesegol ynghylch defnyddio tocynnau Amazon ar gyfer gwobrau, ac mae'n bwnc rydym wedi ei ystyried yn y gorffennol. Serch hynny, er y byddem wrth ein bodd yn cynnig taliadau Cerdyn Aber neu docynnau busnesau lleol yn wobrau, rydym yn poeni - gan y bydd y gwobrau hyn yn cael eu hennill gan fyfyrwyr yn eu blwyddyn derfynol a fydd ar fin gadael Aberystwyth (neu, yn wir, fel sydd wedi digwydd eleni, efallai'n byw a dysgu y tu allan i Aberystwyth) - y byddent yn ei chael hi'n anodd defnyddio gwobrau o'r fath. Er hynny, fe sicrhawn y byddwn ni'n ystyried amrywiaeth o wobrau, gan gadw mewn cof na fydd pawb yn yr ardal ac fe fyddwn ni hefyd yn ystyried dod o hyd i gwmnïau moesegol addas. Gobeithio y bydd hyn yn lleddfu'ch pryderon i ryw raddau.
-
CYF:66-2011-7465705 - Pennawd y pwnc e-byst
Dy sylw: It would be helpful if emails began with the language in english, or at least had the subject line in english, especially or specifically for the english speaking students. During a busy schedule it is difficult to know which emails are important to read and which you can wait to reply to, it would be easier if we could read them without having to open them completely. Its wonderful to have a bilingual campus however this particular order of language in emails is not helpful and is slightly counterproductive. If they were switched so english was first and welsh second it would be much more helpful. Thanks so much
Ein hymateb:
Mae prifysgolion yng Nghymru yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth ar y Gymraeg a ddaeth i rym yn Ebrill 2018. Mae'r ddeddfwriaeth yn gosod y safonau am y gwasanaethau y mae angen eu darparu yn y Gymraeg, sydd wedi'u seilio ar yr egwyddor greiddiol bod rhaid peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol. Heblaw am y ddeddfwriaeth yng Nghymru, mae gan Brifysgol Aberystwyth ymroddiad i'r Gymraeg sydd wedi'i hen sefydlu, ac rwy'n falch iawn eich bod yn gefnogol i'r safbwynt hwnnw. Er mwyn cydymffurfio â gofyniad penodol yn y ddeddfwriaeth, mae gohebiaeth y Brifysgol yn gyffredinol yn rhoi'r testun Cymraeg ar y chwith, a'r Saesneg ar y dde. Lle y bo modd, mae'r Brifysgol yn cofnodi dewis iaith unigolion ar gyfer gohebiaeth ac mae'n ceisio anfon y wybodaeth yn newis iaith yr unigolyn, boed honno'n Gymraeg neu'n Saesneg. Serch hynny, ar hyn o bryd, pan anfonwn negeseuon at sylw pawb maent yn cael eu hanfon yn ddwyieithog ac mae hynny'n cynnwys pennawd y Pwnc. Rydym yn gwerthfawrogi'ch adborth ac fe edrychwn yn ofalus ar sut y defnyddir pennawd y Pwnc, a hynny mewn modd sy’n dal i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth.
19/20 Semester 2
-
CYF:66-2002-5632528 - Polisi cyflwyno'n hwyr
Dy sylw: The university policy of granting late submissions an instant fail is punitive and unfair. In instances where technology fails or other elements outside the student’s control go wrong, these are not valid reasons the student should be punished. Other universities have an escalating scale depending on how late the submission is, which I think Aberystwyth should adopt.
Ein hymateb:
Mae polisïau Prifysgol Aberystwyth ynghylch e-gyflwyno, estyniadau, ac amgylchiadau arbennig yn bodoli i sicrhau nad yw myfyrwyr yn cael eu cosbi am amgylchiadau sydd y tu hwnt i’w rheolaeth. Ond, mae dyddiadau cau gwaith ysgrifenedig yn cael eu cymryd yn gwbl o ddifrif ac mae angen i fyfyrwyr reoli eu hamser yn gyfrifol er mwyn cyflwyno’u gwaith mewn pryd. Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn gweithredu graddfa symudol i waith a gyflwynir yn hwyr.
Dylid cyflwyno gwaith cwrs yn unol â gofynion adrannol a dyddiadau cau a gyhoeddwyd. Oni bai y caniatawyd estyniad i’r myfyriwr bydd gwaith a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau yn cael marc o sero (0). Mae’r amgylchiadau lle gellid caniatáu estyniad, a chyfarwyddyd yn egluro beth i’w wneud os nad yw estyniad yn bosibl neu os gwrthodir estyniad, yn cael eu disgrifio’n glir. Os oes unrhyw beth yn digwydd sydd y tu hwnt i reolaeth y myfyriwr, a’i bod yn rhy hwyr i ddyfarnu estyniad, gall y myfyriwr gyflwyno ffurflen amgylchiadau arbennig. Wedi dweud hynny, nid yw trafferthion gyda chyfrifiaduron neu beiriannau argraffu yn cael eu hystyried yn rhesymau dilys gan na ddylai myfyrwyr ei gadael tan y funud olaf i gyflwyno gwaith a dylent roi digon o amser i ddatrys trafferthion technegol cyn y dyddiad cau. Serch hynny, lle cafwyd trafferthion cyfrifiadurol cyffredinol ar draws y system, fe fyddem yn cymryd camau o’n hochor ni i estyn dyddiadau cau, ac mae hyn wedi digwydd yn y gorffennol.
Rhoddir cyfarwyddiadau clir ynglŷn â chyflwyno gwaith yn electronig a’r hyn i’w wneud os yw myfyrwyr yn cael trafferthion technegol:
a. Ceisiwch gyflwyno gwaith mewn da bryd cyn yr amser cau er mwyn gallu datrys unrhyw drafferthion cyn bod yn rhaid cyflwyno.
b. Manteisiwch ar unrhyw gyfle a gewch i ymarfer cyflwyno gwaith gan ddefnyddio’r cyfrifiadur y byddwch yn ei ddefnyddio i gyflwyno’r gwaith go iawn. Os nad yw myfyrwyr yn gallu defnyddio’u cyfrifiaduron personol i gyflwyno, dylent ddefnyddio cyfrifiaduron y brifysgol sydd i’w cael mewn nifer o leoliadau ledled y Brifysgol.
c. Yn syth ar ôl cyflwyno dylech wirio i wneud yn sicr bod eich gwaith wedi’i gyflwyno’n llwyddiannus. Mae cyngor ynglŷn â gwirio cyflwyniadau i’w gael trwy Blackboard yn ogystal â Chwestiynau Cyffredin Gwasanaethau Gwybodaeth.
ch. Dylai myfyrwyr roi gwybod i’w hadran ac i’r Tîm E-ddysgu (eddysgu@aber.ac.uk) am unrhyw drafferthion cyn gynted â phosibl.
e. Cadwch gopïau o unrhyw negeseuon e-bost a anfonir gan y system yn cadarnhau cyflwyno, yn ogystal â chymryd sgrin-lun o negeseuon am wallau.Mae’r wybodaeth hon ar gael i staff a myfyrwyr trwy Blackboard a Chwestiynau Cyffredin Gwasanaethau Gwybodaeth.
-
CYF:66-2002-2873624 - Bathodynnau Rhagenwau
Dy sylw: Train staff to look for and respect pronoun pins. The Su provides them but there is no point in wearing them if you still constantly get misgendered
Ein hymateb:
Gofynnwn i'r holl staff wneud y modiwlau hyfforddiant ar-lein ar Gydraddoldeb ac Amrywioldeb, a Rhagfarn Ddiarwybod. Rydym hefyd wedi cyhoeddi ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 sy'n cynnwys 5 thema. Un o'r rhain yw 'Sicrhau bod ein staff yn cael hyfforddiant effeithiol mewn materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant' - a fydd yn golygu llawer o hyfforddiant wyneb-yn-wyneb dros y pedair blynedd nesaf, a fydd yn cwmpasu'r holl nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys hunaniaeth ryweddol. Hyd yn hyn rydym wedi darparu hyfforddiant ar urddas a pharch yn yr amgylchedd dysgu, hyfforddiant ar ymyrryd mewn sefyllfaoedd mewn modd priodol, a hyfforddiant ar iaith cydraddoldeb.
-
CYF:66-2001-2127128 - Prosiect y Blwch Coch
Dy sylw: There are signs advertising the “red box project” regarding period poverty in the Hugh Owen bathrooms, claiming that they have red boxes in every bathroom with free period products. However there are no red boxes, at least in the ground floor (gender neutral & disabled access toilet). Surely if you advertise this there should actually be boxes provided?
Ein hymateb:
Os oes poster Prosiect y Blwch Coch yno, mae hynny'n golygu y dylai fod blwch wedi'i lenwi â chynnyrch yno. Diolch ichi am roi gwybod bod y blwch yn wag - byddaf i'n rhoi gwybod i'r tîm Cyfleusterau a gofyn iddyn nhw wneud rhywbeth amdani.
-
CYF:66-2104-5938715 - Hygyrchedd ar y campws
Dy sylw: the accessibility on campus is poor, the white and yellow lines on the edge of steps are faded and as a visually impaired student this is concerning,there is a lack of signage in places and steep areas of the campus need more railing
Ein hymateb:
Mae'r Brifysgol yn edrych yn barhaus ar sut i wella mynediad i'w hadeiladau a'i gwasanaethau, gan gydnabod y gall daearyddiaeth campws Penglais yn benodol arwain at anawsterau i unigolion sydd â gofynion hygyrchedd neu symudedd. Mae cynnal a chadw mesurau presennol sydd ar waith i gynorthwyo'r rheini â gofynion hygyrchedd a chynnal a chadw hefyd yn cynrychioli rhaglen barhaus o waith, er enghraifft efallai eich bod wedi sylwi bod yr ymylon ar y grisiau o amgylch Adeilad Hugh Owen wedi'u hail-baentio dros yr wythnosau diwethaf.
Fel y gwyddoch eisoes efallai, mae'r Brifysgol wedi datblygu a chyhoeddi Canllawiau Mynediad ar gyfer adeiladau a gofodau addysgu, trwy bartneriaeth ag AccessAble, sydd ar gael yn: https://www.accessable.co.uk/organisations/aberystwyth-university. Mae'r Canllawiau Mynediad yn ceisio darparu gwybodaeth berthnasol i unrhyw ddefnyddwyr sy'n ymwneud ag adeiladau penodol a/neu fannau addysgu, i gyfarwyddo unrhyw ymweliadau yn seiliedig ar ofynion yr unigolyn ei hun.
Mae gan y Brifysgol hefyd Grŵp Aber Hygyrch, sy'n cyfarfod yn rheolaidd i ystyried prosiectau sydd â'r nod o gynyddu hygyrchedd myfyrwyr ar y campws. Mae gosod Lifft Gadael mewn Argyfwng yn Adeilad Hugh Owen yn un prosiect o'r fath sydd wedi cael cefnogaeth gan Grŵp Hygyrch Aber.
Os oes unrhyw ardaloedd penodol ar y campws sydd angen sylw arbennig, byddem yn fwy na pharod i dderbyn y wybodaeth honno er mwyn gallu cynllunio gwaith yn y dyfodol, gan roi adborth i Grŵp Aber Hygyrch.