CYF:66-2111-6312911 - Cynnwys modiwl HA20120

Dy sylw: HA20120 Dylai yno fwy o hanesyddiaeth yn gael ei ddysgu, teimladd bod yno ormod o bethau adain chwith yn gael ei ddysgu, Mae yno llawer o son am hanesyddiaeth haneswyr y dun mawr ond dim specific gwaith amdano. Roedd Marxaidd yn gael ei ddysgu mwy na unwaith mewn gweithdu ag darlithoedd, tydi hynny ddim yn fy marn i yn rhoid cyd balans ag rhoid digon o amrwyiaeth ir modiwl.

Ein hymateb:

Awgrymwyd bod gormod yn y modiwl ar Farcsiaeth a deunydd adain chwith. O’r deg wythnos dysgu mae un yn ymwneud â Marcsiaeth a hanes, yn cynnwys effaith haneswyr Marcsaidd ar ddatblygiad y pwnc. Cafodd yr haneswyr sy’n cael eu trafod yn y dosbarth hwn effaith tu hwnt i’r sawl oedd yn arddel Marcsiaeth ac felly mae eu dylanwad a’u syniadau’n codi o dro i dro mewn dosbarthiadau eraill. Mae’n werth nodi mai pwrpas modiwl fel hwn yw adeiladu gwybodaeth am dwf Hanes fel pwnc ac, yn naturiol, fe gafodd rhai haneswyr effaith ar eraill hyd yn oed os nad oeddent yn rhannu’r union un syniadau. Heb ddeall hynny mae’n anodd deall pob math o ddatblygiadau eraill yn y ffordd mae Hanes wedi datblygu fel pwnc ac fel ffordd o ddeall y gorffennol. Dyw’r modiwl ddim drosodd eto ac rhaid ei weld yn nhermau datblygiad dros y semester. Gallaf anfon neges at fyfyrwyr i’w hatgoffa am hyn.