CYF:66-2009-4312730 - Pryderon dysgu arlein

Dy sylw: I am concerned about the impact that online teaching will have on the outcome of not just my degree, but on all students, particularly those who are completing their degrees this year. While I think it was definitely the right decision to move online in terms of safety, I feel like communication between staff and students has been a bit lax at times. Realistically I think it would be extremely ambitious to expect students back on campus before Christmas, and I feel that the decision to examine whether it is safe to return on campus on a weekly basis is a bit frustrating as it seems as if students and staff are being treated as if they are expendable. Furthermore, I have recently been alerted that there is currently no plan to implement a ‘no detriment’ policy for examinations or assessments such as the one used at the end of last academic year. Although I appreciate that this is an unprecedented situation, I think the leadership of this university should consider how these circumstances affect staff and students and their wellbeing. I know it would be greatly appreciated if a ‘no detriment’ policy or any similar plans to assist students and staff in completing and marking work was implemented, as the expectation for both students and staff to complete work online in the same way they would in person with little indication of what will happen will almost certainly take a toll on academic staff and students who are already negatively impacted by the situation. 

Ein hymateb:

Diolch i chi am grybwyll y pryderon hyn. Gallwch fod yn dawel eich meddwl, pa amgylchiadau bynnag sy'n cael eu gorfodi arnom yn sgil sefyllfa barhaus Covid-19, bod y staff academaidd ledled yr adran yn benderfynol o sicrhau bod pob un o'n myfyrwyr yn cael addysg o ansawdd uchel ac yn sicrhau canlyniadau sy'n adlewyrchu eu gallu a'u hymdrech. Rwy'n bryderus clywed eich bod yn teimlo bod y cyfathrebu rhwng y staff a’r myfyrwyr wedi bod ychydig yn llac - yn sicr, nid dyna’n bwriad, ac os oes problemau penodol lle nad yw staff dysgu yn cadw cysylltiad, cysylltwch â'ch pennaeth adran fel y gallaf fynd i'r afael â'r broblem a'i datrys.

Rwy'n hyderus nad yw Gweithrediaeth y Brifysgol yn ystyried bod staff na myfyrwyr yn "ddiwerth"; yn wir, mae ymrwymiad y Brifysgol i weithio gydag awdurdodau lleol gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Sir Ceredigion yn dangos bod y Brifysgol yn ymateb i iechyd a lles ein cymuned gyfan ac yn blaenoriaethu hynny. Serch hynny, deallaf eich pryderon yn hyn o beth ac fe'ch gwahoddaf i rannu'r rhain â chyd-weithwyr uwch sy'n ymwneud yn uniongyrchol â phenderfyniadau ynghylch y pandemig; gallwch wneud hyn trwy linell gymorth y Coronafeirws coronavirus@aber.ac.uk.

Fel y gwyddoch, rwy’n siŵr, mae gan yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol weithdrefnau cadarn a theg ar waith er mwyn ymdrin ag amgylchiadau arbennig unigolion - nid yw hyn wedi newid, er bod y modd yr ydym yn darparu cefnogaeth academaidd a bugeiliol, am y tro, wedi'i gyfyngu i apwyntiadau ar-lein. Os hoffech drafod eich cynnydd academaidd, yna cysylltwch â'ch Tiwtor Personol (gwiriwch eich cofnod myfyriwr er mwyn cael eu manylion cyswllt), Tiwtor Blwyddyn, neu Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu - a fydd yn fwy na pharod i helpu. Os oes gennych bryderon ynghylch eich lles, cysylltwch â'n Cydlynydd Lles. Mae eich sylwadau ynghylch y polisi dim anfantais wedi cael eu nodi a byddaf yn sicrhau bod yr adborth hwn yn cael ei rannu â chyd-weithwyr yn y Gofrestrfa Academaidd fel y gallant ei ystyried.

Mae'n anochel, fel y nodwch yn eich sylwadau, y bydd yr amgylchiadau presennol yn cael effaith ar staff a myfyrwyr. Fel eich Pennaeth Adran, rwy'n gweithio'n galed i sicrhau bod yr effaith hon yn cael ei chadw cyn lleied â phosib ac i sicrhau y gallwn ni i gyd barhau i weithio mewn amgylchedd sy'n gadarnhaol, yn gefnogol ac yn canolbwyntio ar y gymuned. Diolch eto am eich sylwadau a hoffwn bwysleisio bod croeso ichi drafod unrhyw bryderon sydd gennych gyda mi yn uniongyrchol.