CYF:66-2101-6294125 - Amserlennu

Dy sylw: I would like to address the timetabling, although it is good to have timetabled in-person teaching students do not know when to do the pre-recorded blackboard content. i feel that it may be beneficial for our timetable to include two or three hour study periods a day to create a mindset for the building blocks of our day as this would create a more scheduled pattern and create a metal mind set as not having these timetable is creating large amounts of anxiety.

Ein hymateb:

Diolch am gysylltu â Rho Wybod Nawr.

Ein gobaith yw bod ein myfyrwyr yn ddysgwyr annibynnol. Hefyd, fel y soniwyd yn e-bost y Pennaeth Adran ar yr 20fed o Ionawr, anogir myfyrwyr yn gryf “i ymroi’n llawn i’r sesiynau tiwtora drwy fod yn bresennol ymhob sesiwn a gynhelir ar eu cyfer. Ceir tystiolaeth sylweddol sy’n dangos bod cysylltiad cadarnhaol cryf rhwng myfyrwyr yn ymroi’n gadarnhaol i’w dysgu a’u perfformiad ar eu cyrsiau. Felly, achubwch ar bob cyfle i fod yn bresennol ac i ymroi’n llawn i’r gweithgareddau a drefnwyd gan eich tiwtoriaid. Hefyd, i’ch cynorthwyo yn yr amserau anodd hyn, fe’ch cynghorir i ddatblygu cynllun a strwythur ar gyfer eich wythnosau gwaith.“

Mae ein Huned Datblygu Dysgu ac Addysgu wedi darparu cyngor defnyddiol ar y tudalennau gwe canlynol:

Quick Guide to Student Success

https://www.aber.ac.uk/cy/important-info/living-and-learning-in-aberystwyth-2021-22/students/supporting-your-learning/

Yn ogystal â hynny, gofynnwyd i gydlynwyr cynlluniau gradd sicrhau bod myfyrwyr yn gyfarwydd â threfnu eu hastudiaethau eu hunain a chreu “blociau astudio” annibynnol. Dylai pob blwyddyn hefyd gael y dolenni hyn a’u trafod yn eu sesiynau cyntaf yr wythnos hon.

Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, mae croeso ichi gysylltu â Chydlynydd eich Cynllun Gradd neu â’ch Tiwtor Personol.