CYF: 66-2209-250228 - Aelodaeth Canolfan Chwaraeon

Dy sylw: I am currently looking at sports centre membership, as I am no longer living in university accommodation. I thoroughly enjoyed using the swimming pool last year. I have calculated that, if I purchase the 135 membership, I would need to swim 3 times a week, every week until June, to cover the cost of the membership. I am very happy to pay for each visit individually, but it occurred to me that it might be worth raising the idea of offering membership options with access to only specific sports centre facilities for a cheaper price. Obviously I don't know whether this option has been ruled out in the past, but I feel that it would be of benefit to a lot of students. Thank you :)

Ein hymateb:

Diolch am yr e-bost ynglŷn â'r cynnig £135 sy'n cynnig mynediad anghyfyngedig i bob ardal.  

Yn hanesyddol, roeddem yn cynnig aelodaeth aur unigol i'r pwll nofio, y gampfa, y dosbarthiadau a’r wal ddringo, fodd bynnag, roedd hyn yn rhoi myfyrwyr a oedd eisiau defnyddio’r ardaloedd llai prysur o dan anfantais mawr. Er enghraifft, byddai gan y gampfa (aelodaeth aur) 500 o ymweliadau/defnyddwyr y dydd tra byddai'r wal ddringo ond yn gweld tua 30-40. Roedd hyn yn golygu bod y pecyn (Aur) dringo yn llawer drytach na'r pecyn campfa. Roedd llawer o sybsideiddio ar draws cyfleusterau a oedd yn ei gwneud hi'n anodd iawn cyfiawnhau datblygu prosiectau/ardaloedd ar wahân. Er mwyn talu am y cynllunio a'r gorbenion, a chynnig pecyn gwerth am arian, cytunwyd i symleiddio'r categorïau aelodaeth a chynnig mynediad i bob ardal am y pris y byddai un aelodaeth aur wedi'i gostio. Cynyddodd hyn nifer yr aelodau Platinwm a ymunodd felly gallwch nawr gael mynediad i bob ardal am £135. Cyn cyflwyno’r aelodaeth Blatinwm yn 2017, byddai aelodaeth aur i nofio’n unig wedi costio £120.

Rydym yn adolygu/cymharu cyfraddau'r farchnad ar gyfer prifysgolion eraill Cymru flwyddyn ar ôl blwyddyn a gallwn ddatgan yn hyderus ein bod yn parhau i gynnig y gwerth gorau am arian o ran chwaraeon, iechyd a lles.

Mae'r cyfrifiad isod yn dangos y gost pe baech yn ymweld â'r pwll nofio (talu wrth fynd) 3 gwaith yr wythnos.

£3.50 yr ymweliad x 3 = £10.50 yr wythnos x 37 wythnos = £388.50

Er gwybodaeth - pe baech yn nofio unwaith yr wythnos am £3.50 tan ddiwedd y tymor (Mehefin 2023), byddwch wedi talu cost yr aelodaeth Blatinwm. Trwy brynu’r cynnig £135, yn amlwg fe allech chi nofio bob dydd a chael yr opsiwn o ddefnyddio'r campfeydd, y dosbarthiadau, wal ddringo a chael mynediad i'r trac. 

Rwy'n gobeithio bod hyn yn helpu i ddangos ein bod yn cynnig gwerth gwych am arian i bob myfyriwr ddefnyddio'r ystod eang o gyfleusterau a gynigir.