CYF: 66-2303-3356006 - Oriau agor y Ganolfan Chwaraeon

Dy sylw: Opening Hours of the Sports Centre. I'm not sure if this is the right place to raise this, but the Sports Centres opening hours are very limiting to students. I've regularly visited the Sports Centre for a year and a half and really appreciate the new equipment. The chances to use it all optimally are limited as peak times get very overcrowded. Additionally, on Saturdays and Sundays, when the gym closes at 4pm already, those of us who have to work have almost no chance of getting a workout in. Having talked to other students about this, I know I'm not the only one with these issues. Lately with the gym being closed on most holidays, students are denied completely what is a major recreational factor for many, important for the overall quality of life, mental health and performance. I want to mention here how amazing and friendly the staff are. Generally Aberystwyth Sports Centre has a beautiful, inclusive atmosphere. The opening times are really the only issue and I was wondering if you thought about extending opening hours for the above mentioned reasons.

Ein hymateb:

Diolch am eich adborth.
Mae'r gwaith i ailwampio’r gampfa wedi bod yn hynod boblogaidd ac wedi galluogi i ni gynyddu'r niferoedd fesul sesiwn o 35 i 85 yr awr sydd wedi arwain at gynnydd o 6300 o ymweliadau ychwanegol ym mis Chwefror 2023 o'i gymharu â mis Chwefror 2022. Yn anochel bydd cyfnodau prysur lle nad yw rhai o'r offer ar gael yn syth ond rydym wedi prynu unedau ychwanegol o offer i helpu i liniaru hyn gymaint â phosibl. Mae gennym hefyd gampfa fach yn y Sgubor sydd wedi'i lleoli yn Fferm Penglais ac mae ar agor 24 awr y dydd i bob myfyriwr preswyl gael mynediad. 

Rydym wedi bod yn gweithio i ymestyn y cynnig dros y gwyliau, yn ystod gwyliau Nadolig 2022, roeddem ar agor ar 29/30 Rhagfyr, rydym hefyd yn ystyried ymestyn hyn ymhellach gyda diwrnodau agor ychwanegol adeg y Pasg ac yn ystod rhai gwyliau banc. 

Mae'n wych clywed bod y staff yn cael eu gwerthfawrogi!
O ran oriau agor, am flynyddoedd lawer buom yn agor rhwng 9yb a 9yp ar ddyddiau'r wythnos a rhwng 10yb a 4yp ar benwythnosau. Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r cais gan fyfyrwyr a'r gymuned wastad wedi bod i agor yn gynharach yn hytrach nag yn hwyrach felly rydym wedi ymestyn yr oriau agor i 6.30yb ar ddyddiau'r wythnos ac 8/9 y bore ar y penwythnosau. Mae ein hamseroedd yn cael eu hefelychu gan y ganolfan hamdden a champfeydd eraill yn y dref oherwydd y galw is am sesiynau campfa ddiwedd y prynhawn, sy’n ei gwneud hi’n anhyfyw yn ariannol i agor. Yn ogystal â hyn, oherwydd y pandemig, mae'r diwydiant hamdden yn ei chael hi'n anodd darparu/cyflogi digon o staff cymwys i weithio yn y diwydiant yn gyffredinol gan fod canolfannau hamdden wedi cael eu cau’n llwyr am 18 mis ac ni hyfforddwyd unrhyw staff newydd yn ystod y cyfnod hwn. Mae hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar y staff craidd i gyflenwi am yr oriau gwaith presennol, mae'n bwysig i'n staff a'u lles ein bod yn darparu seibiannau digonol i ffwrdd o'r gwaith i staff ddod at eu hunain.