CYF:66-2109-8778723 - Prisiau bwyd yn Tamed Da

Dy sylw: while nice the food was steep in price over £7 for a bowl of beef curry

Ein hymateb:

Diolch am eich adborth am brisiau bwyd yn Tamed da. Rydym yn falch eich bod wedi mwynhau'r bwyd. Rydych yn llygad eich lle i nodi y dylai'r prisiau gael eu harddangos ac rydym wedi cywiro hynny. O ran y prisiau eu hunain, mae gennym ni amrywiaeth o opsiynau prif gwrs yn Tamed – Bwrdd y Cogydd - £7.80 Bwyd Stryd - £6.80 (rydym wedi llwyddo i'w ostwng yn dilyn eich sylwadau) Ramen - £5.50 (o Tamed Bach) Nosh – rhwng £3.95 a £7.95. Cynigir gostyngiadau hefyd i fyfyrwyr a staff (10% a 5% yn y drefn honno). Rydym wedi cael ein heffeithio gan y cynnydd mawr  diweddar yng nghostau bwyd oherwydd Brexit a Covid (gweler y manylion yn yr adroddiad atodedig) - rydym wedi gweithio’n galed i godi'r prisiau cyn lleied ag y bo modd i'n cwsmeriaid, ond yn anffodus rydym wedi gorfod codi rhai. Er cymhariaeth, mae prif brydau bwrdd y Cogydd wedi codi o £7.50 y llynedd i £7.80 eleni, sy'n gynnydd o 4%. Mae'r prisiau hyn yn dal yn cymharu'n dda â Chanolfan y Celfyddydau (£8.95) ac mewn mannau eraill tu allan i'r campws.