CYF:66-2110-2826405 - Cwpanau ailgylchadwy

Dy sylw: I think it's not okay that the starbucks in the SU is giving out plastic cups. It should all be paper and biodegradable

Ein hymateb:

Diolch am eich adborth am y cwpanau yn Starbucks yn Undeb y Myfyrwyr. Yn anffodus, nid yw cwpannau dichonol wedi eu gwneud o bapur yn llwyr wedi eu dyfeisio eto, er bod Starbucks yn buddsoddi biliynau o ddoleri mewn ymchwil ar y pwnc hwn. Mae'r cwpanau poeth a ddefnyddir i gyd wedi'u gorchuddio â phlastig ac mae'r cwpanau oer wedi'u gwneud o blastig wedi'i ailgylchu a gellir ailgylchu pob rhan ohonynt. Fel rhan o fasnachfraint 'We proudly Serve' Starbucks mae'n rhaid i ni ddefnyddio'r cwpanau a gyflenwir gan y cwmni. Fodd bynnag, mae Starbucks a'r Brifysgol wedi ymrwymo i leihau swm y gwastraff a gynhyrchir. Yn ystod 2020, cafwyd gwared â'r holl wellt plastig ac mae'r caead y gellir ei ddefnyddio heb welltyn wedi'i gyflwyno ac ar gael. Mae'r Brifysgol hefyd wedi ymrwymo i reoli gwastraff yn gyfrifol ac mae caeadau plastig Starbucks a'r llewys papur yn cael eu hailgylchu. Rydym hefyd yn annog pobl i beidio â defnyddio cwpanau untro trwy ychwanegu 'treth blastig' o 20c (er bod dod â'ch cwpanau eich hun wedi'i atal yn ystod covid). Roedd cyfle hefyd i bob myfyriwr gael Cwpan Eco am ddim trwy gwblhau Her Mapiau yn ystod wythnos y Glas.