CYF:66-2110-2306719 - Opsiynau brecwast yn yr Undeb

Dy sylw: The SU should defo have a breakfast menu and lunchtime. breakfast could have bacon sandwiches, sausages sandwiches, pancakes etc. and the lunch menu could have wraps and jacket potatoes. I don't really fancy a full 9 inch pizza for lunch. As well as this, expand their tea menu with cheesy chips, maybe a variety of sauces for your burgers etc.

Ein hymateb:

Diolch i chi am eich sylw Rho Wybod Nawr am y fwydlen ym Mar yr Undeb. Mae'n werth sylwi bod ystod lawn o opsiynau brecwast ar gael yn Siop y Myfyrwyr o 8:30 ymlaen. Mae hyn yn cynnwys bacwn a rholiau a dewis o eitemau fegan a llysieuol hefyd. Mae arnaf ofn na allwn baratoi sglodion yn y bar, gan nad oes system dynnu aer ar gyfer unrhyw offer ffrio. Rydym felly wedi newid y fwydlen i gyd-fynd â'r hyn y gallwn ei ddarparu gyda'r cyfleusterau sydd ar gael, yn ogystal â'r hyn sydd fwyaf poblogaidd ymysg myfyrwyr. Rydym felly yn cynnig amrywiaeth o fyrgyrs, parseli a phitsas rhwng 12 ac 8.30 bob dydd. Rydym yn cynnig tatws trwy'i crwyn trwy’r dydd yn y Neuadd Fwyd, Penbryn hefyd. Y fwydlen de yn y bar yw'r dewis llawn o de Tazo sy'n rhan o ddewis Starbucks. Mae'n cynnwys dewis eang o de ffrwythau hefyd. Diolch am eich sylwadau ac edrychwn ymlaen at eich gweld eto ym Mar yr Undeb.