CYF:66-2207-4415408 - Diolch i staff caredig mewn siopau a bwytai ar y campws

Dy sylw: Thank you so much to the lovely hospitality staff, particularly those in the Piazza caffi and the SU shop for being so friendly and kind to their customers. The seagulls have been vicious recently as more people sit outside in the warm weather to have lunch. It's surprisingly upsetting to be attacked by a gull and the staff in these outlets have been wonderful, warning people about the risks beforehand and showing genuine concern in the aftermath. Thank you to them for their fantastic customer service :)

Ein hymateb:

Yn gyntaf, diolch yn fawr am roi o’ch amser i ysgrifennu geiriau caredig iawn.  Mae Caffi’r Piazza yn cael ei reoli gan Sarah Hughes a'i thîm o Ganolfan y Celfyddydau, a chaiff staff siop Undeb y Myfyrwyr eu rheoli gan Helen, gyda Sian yn rheolwr arni. Felly byddaf yn pasio eich diolch ymlaen atynt hwy. 

Roeddem wedi gobeithio mai un o fanteision y Pandemig fyddai bod y gwylanod yn rhoi’r gorau i ddwyn cinio pobl. Ond pwy oedd i wybod eu bod mor amyneddgar ac mor awyddus i ddychwelyd i'w harferion drwg. 

Hoffwn adleisio eich teimladau fod y caredigrwydd a'r angerdd a ddangosir gan y staff hyn yn ysbrydoliaeth i ni i gyd o ran sut i ymdrin â phobl.